CGGC - Gwobrau Elusennau Cymru 2026

Datgelu Enillwyr Gwobrau Elusennau Cymru 2026! 

Cyhoeddwyd : 16/10/26 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Ar ôl noson arbennig iawn yng Ngwobrau Elusennau Cymru, mae enillwyr eleni wedi’u cyhoeddi. Dewch i ni edrych ar ein henillwyr a theilyngwyr gwych am eleni. 

Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn cydnabod a dathlu’r cyfraniad aruthrol y mae elusennau, grwpiau cymunedol, cwmnïau nid-er-elw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru, trwy amlygu a hyrwyddo’r gwahaniaeth cadarnhaol y gallwn ni ei wneud gyda’n gilydd.

Ar 15 Hydref 2026 yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd, cyflwynodd y newyddiadurwraig a chyflwynydd BBC, Jennifer Jones, ein noson wobrwyo wrth i ni ddathlu’r holl deilyngwyr gwych a chyhoeddi enillwyr eleni.

ENILLWYR A THEILYNGWYR 2026

Gwirfoddolwr y flwyddyn (gwirfoddolwyr 26 oed neu’n hŷn) – noddir gan Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru

Gwirfoddolwr y Flwyddyn 2026, Annie

Enillydd: Annie Hutchings 

Dechreuodd Annie Hutchings Tea & Tots pan oedd ei merch Annabel ond yn chwe mis oed. Pan gafodd Annabel ddiagnosis o anhwylder niwroddatblygiadol genetig prin iawn ychydig cyn ei phen-blwydd cyntaf, creodd Annie Tots Early Years Community, ac yna Together Tots. Gan lenwi bwlch mewn darpariaeth gymunedol gynhwysol blynyddoedd cynnar, mae TEYC bellach yn croesawu tua 25-30 o deuluoedd mewn wythnos arferol.

Teilyngwyr:

Helen McCarthy  

Gwirfoddolodd Helen McCarthy gyda’i chi therapi Daisy yn Ysbyty Plant Arch Noa, lle roedd greddf anhygoel Daisy yn ei helpu i wybod yn union pryd roedd ei hangen ar blentyn. Gyda’i gilydd, gwnaethant droi triniaeth frawychus yn eiliadau o gysur a chysylltiad ’na ellir mo’u roi ar bresgripsiwn na’u prynu’. Yn anffodus, bu farw Daisy yn ddiweddar.

Mark Jones  

Gwnaeth Mark Jones drawsnewid The Hygiene Bank Abergele o garej fechan i brosiect ledled gogledd Cymru a oedd yn mynd i’r afael â thlodi hylendid. Nawr, mae’n cefnogi bron 1,000 o bobl yr wythnos ledled y chwe sir.

Gwirfoddolwr ifanc y flwyddyn (gwirfoddolwyr 25 oed neu’n iau) – noddir gan The National Lottery Community Fund

Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn 2026, Bowen

Enillydd: Bowen Cole 

Mae Bowen Cole wedi neilltuo cannoedd o oriau i eiriolaeth ieuenctid, cydraddoldeb a chreu heddwch yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae wedi parhau i wirfoddoli hyd yn oed ar ôl wynebu sarhad hiliol a bygythiadau credadwy i’w ladd. Mae Bowen yn astudio Cysylltiadau Rhyngwladol yn llawn amser ac wedi hyrwyddo cymunedau sydd wedi’u tangynrychioli yn y Senedd, cefnogi ymgyrchoedd ymwybyddiaeth o ganser yn dilyn diagnosis ei fam, ac annog deialog ar y gwrthdaro yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo.

Teilyngwyr: 

Amélie Houghton  

Mae Amélie Houghton wedi cwblhau dros 500 o oriau gwirfoddoli yn Cwmni Buddiant Cymunedol Redberth Croft yn darparu gofal anifeiliaid dyddiol a sesiynau gwirfoddoli, gan ennyn parch gwirfoddolwyr hŷn ac ysbrydoli cenhedlaeth newydd.

Annie Miles-Davies  

Mae Annie Miles Davies wedi sicrhau newid ystyrlon i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru, gan eu cynrychioli yn y Cenhedloedd Unedig yng Ngenefa a rhoi hwb i roddion trwy ei chyfweliad ar BBC Radio 2.

Codwr arian y flwyddyn– noddir gan Hedyn

Codwr Arian y Flwyddyn 2026, Media Academy Cymru Ltd

Enillydd: Media Academy 

Mewn dim ond 12 mis, gwnaeth Media Academy Cymru Ltd ddyblu ei hincwm o £1m i £2m, gan sicrhau dyfodol hirdymor ei gwasanaethau, gan gynnwys prynu ei phencadlys blaenllaw 12,000 troedfedd sgwâr yng Nghaerdydd. Cyflawnwyd hyn nid trwy un ymgyrch neu ymdrech unigol, ond trwy ymgorffori codi arian yn DNA y mudiad cyfan.

Teilyngwyr: 

Y Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd

Sicrhaodd y Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd ei dyfodol cynaliadwy wrth ddathlu ei phen-blwydd yn 10 oed, gan godi £947,000 yn ystod y flwyddyn a helpu i ddiwallu anghenion 2,648 o bobl.

Faith in Families  

Mae Faith in Families wedi trawsnewid ei weithgarwch codi arian o gyfres o weithgareddau i fudiad pwerus o fusnesau, unigolion a chymunedau, gan godi £116,119 yn ei flwyddyn gyntaf a £131,146 yn ei ail flwyddyn.

Hyrwyddwr amrywiaeth – noddir gan Bute Energy 

Hyrwyddwr amrywiaeth 2026, AP Cymru

Enillydd: AP Cymru – Yr Elusen Niwroamrywiaeth

Mae AP Cymru – The Neurodiversity Charity wedi ei henwebu i gydnabod ei hymrwymiad amlwg, ar draws y mudiad i gydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth dros y 12 mis diwethaf ac ers ei sefydlu, o dan arweinyddiaeth ei Phrif Swyddog Gweithredol Karen Mills. Ar ôl rhagori’n sylweddol ar ei nodau craidd, mae AP Cymru wedi cymryd camau clir a mesuradwy i herio anghydraddoldeb ac i sbarduno newid diwylliannol cadarnhaol i bawb.

Teilyngwyr: 

Cwmni Buddiant Cymunedol Cybervisits

Mae Cybervists yn trin seiberddiogelwch a gwrth-hiliaeth yn anwahanadwy, gan gynnig addysg diogelwch digidol gynhwysol, amlieithog i’r cymunedau sy’n wynebu’r risg fwyaf o niwed ar-lein ac sy’n cael eu hanwybyddu fwyaf gan ddarpariaeth brif ffrwd.

Motion Control Dance  

Mae Motion Control Dance yn elusen ddawns gymunedol sydd wedi treulio 25 mlynedd yn gweithio ym Mro Morgannwg yn sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i ddawnsio, gan gynnwys perfformwyr anabl, niwrowahanol a pherfformwyr ag anableddau dysgu.

Defnydd o’r Gymraeg – noddir gan Darwin Gray  

Enillwyr y categori Defnydd o'r Iaith Gymraeg 2026, Arad Goch

Enillydd: Arad Goch 

Mae’r cwmni theatr Arad Goch, yn Aberystwyth, wedi helpu i greu ecosystem lle mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio, ei dathlu a’i datblygu fel iaith fyw, gan gryfhau ei defnydd bob dydd, wrth agor drysau i gyfleoedd cymdeithasol, creadigol a phroffesiynol. Y llynedd, daeth 6,946 o bobl trwy ddrysau Canolfan Arad Goch, a daeth miloedd yn fwy i’w sioeau teithiol ledled Cymru.

Teilyngwyr: 

Gofod Teulu Rhithwir Barnardo’s Cymru

Mae safle Gofod Teulu Rhithwir Barnardo’s Cymru, sydd wedi cael 1,000 o edrychiadau hyd yma, yn wasanaeth cymorth rhianta cwbl ddwyieithog a ddatblygwyd ar y cyd â Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, cwmni cyfieithu Cymen, a chydweithwyr yn Lloegr.

Meddwl Ymlaen Gwynedd a Môn  

Mae Meddwl Ymlaen Gwynedd a Môn yn brosiect Barnardo’s sy’n cefnogi plant a phobl ifanc i fynd ati i ddefnyddio, dathlu a hyrwyddo’r Gymraeg mewn mannau dylanwadol, gan gynnwys y Senedd ac Eisteddfod yr Urdd.

Mudiad bach mwyaf dylanwadol – noddir gan Lloyds Bank Foundation for England and Wales

Mudiad bach mwyaf dylanwadol 2026, Children's Legal Centre Wales

Enillydd: Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru

Yn ei blwyddyn gyntaf fel elusen annibynnol, mae Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru – gyda’i thîm o dri aelod o staff yn unig – wedi ei henwebu oherwydd ei chyrhaeddiad a’i dylanwad ledled Cymru. Bydd ei rhaglen addysg yn cyrraedd dros 200 o ysgolion, wedi cefnogi’n uniongyrchol 147 o bobl ifanc sydd â phrofiad bywyd ac wedi cynyddu dealltwriaeth gyfreithiol disgyblion o 41% i 71%. Mae ei gwaith polisi hefyd wedi siapio ymrwymiad Llywodraeth Cymru i archwilio gwasanaeth gwarcheidiaeth i blant sydd ar eu pennau eu hunain.

Teilyngwyr: 

Trefnu Cymunedol Cymru

Mae Trefnu Cymunedol Cymru wedi gwella mynediad i Lwybr Arfordir Gogledd Cymru, wedi helpu i lunio gweithredu lleol ar wrth[1]dlodi trwy Gydweithrediad Gweithredu ar Dlodi Wrecsam, ac wedi ymgysylltu â thros 13,000 o bobl cyn Etholiad y Senedd yn 2026.

Cwmni Buddiant Cymunedol VIBE Youth

Mae Prosiect Lles ac Arloesi Cwmni Buddiant Cymunedol VIBE Youth yn cefnogi 52 o blant a phobl ifanc o bum ysgol a choleg ledled Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, gyda gwelliannau mesuradwy yn eu hymwybyddiaeth emosiynol a’u hunanddealltwriaeth.

Iechyd a lles – noddir gan Geldards

Enillydd gwobr iechyd a lles 2026, Gwasanaeth Cwnsela Llygad yn Llygad

Enillydd: Eye to Eye Counselling 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Gwasanaeth Cwnsela Llygad yn Llygad wedi bod yn achubiaeth ledled De Cymru, gan ddarparu 8,844 awr o ymyrraeth therapiwtig i 1,647 o blant a phobl ifanc yn ogystal â 398 o gleientiaid yn y gymuned. Trwy gwnsela mewn ysgolion, cwnsela cymunedol, cymorth ar-lein a gwasanaethau ymateb i drawma arbenigol, mae’n sicrhau nad oes unrhyw blentyn neu berson ifanc sydd byth yn wynebu trallod emosiynol ar ei ben ei hun.

Teilyngwyr: 

Single Parents Wellbeing  

Mae Single Parents Wellbeing wedi’i enwebu ar gyfer ei brosiect Maniffesto Iechyd Meddwl – Gweithredu ar gyfer ein Dyfodol, a ragorodd ar ei dargedau ar gyfer sicrhau bod pobl ifanc o deuluoedd rhiant sengl yn cael eu clywed a’u gwerthfawrogi.

Tanio  

Mae Tanio wedi’i enwebu am ei bortffolio o brosiectau lles sy’n seiliedig ar y celfyddydau ledled de Cymru, gan gynnwys ei brosiect blaenllaw, Breathing Space, sy’n arbed £90,000 i’r GIG bob blwyddyn.

Mudiady flwyddyn– noddir gan Y Brifysgol Agored

Mudiad y Flwyddyn 2026, Ymchwil Canser Cymru

Enillydd: Ymchwil Canser Cymru

Ymchwil Canser Cymru yw’r unig elusen bwrpasol ar gyfer ariannu ymchwil canser yng Nghymru, ac eleni nododd ei buddsoddiad ymchwil mwyaf yn ei hanes 60 mlynedd. Mae cyfanswm o £2.86 miliwn ar draws 20 o brosiectau newydd, gan gynnwys naw ysgoloriaeth PhD, a ddyfarnwyd i Dr Bruce MacLachlan o Brifysgol Caerdydd i sefydlu labordy sy’n datblygu mathau newydd o imiwnotherapi.

Teilyngwyr: 

Awel Aman Tawe  

Mae Awel Aman Tawe yn elusen ynni cymunedol sy’n dangos sut mae cadernid ariannol a phwrpas cymdeithasol yn mynd law yn llaw, trwy gyllido prosiectau cymunedol ac arloesi, fel prosiect solar a batri gwerth £3.5m.

Calan DVS  

Mae Calan DVS yn elusen cam-drin domestig/trais rhywiol sy’n gweithredu ledled Cymru sydd wedi ehangu ei gwasanaethau yn llwyddiannus iawn, gan sicrhau bod y gwasanaethau a gynigir i ddioddefwyr/goroeswyr yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn ystyriol o drawma.

Uned Diogelwch Cam-drin Domestig Gogledd Cymru

Mae Uned Diogelwch Cam-drin Domestig Gogledd Cymru wedi’i henwebu am ei hymateb i alw digynsail, gan ehangu ei llety lloches brys, ei gwasanaethau IDVA (Cynghorydd Trais Domestig Annibynnol) risg uchel, a’i gweithlu sy’n siarad Cymraeg.

Seren Ffestiniog Cyf  

Mae Seren Ffestiniog Cyf wedi cael blwyddyn o gyflawniadau eithriadol, yn fwyaf nodedig y graddau Rhagorol a gafodd gan Arolygiaeth Gofal Cymru a Gwobr Prestige am Gyflogwr y Flwyddyn am yr ail flwyddyn yn olynol.

ENNILL GWOBR ‘CYFLAWNIAD EITHRIADOL’ AM Y TRO CYNTAF

Enillydd Gwobr Cyflawniad Eithriadol Graham Benfield 2026, Marco

Wedi’i gyhoeddi’n gynharach yn y mis, fe gymeron ni ennyd i ddathlu Marco Gil Cervantes, a dderbyniodd Wobr Cyflawniad Eithriadol Graham Benfield yn swyddogol yn seremoni Gwobrau Elusennau Cymru. Gyda thros 30 mlynedd o brofiad yn y sector gwirfoddol yng Nghymru, mae’n haeddiannol iawn fod Marco wedi ennill y wobr hon am y tro cyntaf. O dan ei arweinyddiaeth gref, mae ProMo Cymru wedi tyfu o fod yn weithrediad un person i fod yn fenter gymdeithasol uchel ei pharch, yn genedlaethol a thros Ewrop, sy’n cyflogi mwy na 50 o staff.

AM NOSON! 

Braint pur yw cael dathlu’r gwaith caled anhygoel y mae gwirfoddolwyr a mudiadau gwirfoddol yn ei wneud, a’r gwahaniaeth aruthrol y maen nhw’n ei wneud mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru. Diolch i bawb sydd wedi helpu i wneud y noson hon yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn.

Llongyfarchiadau enfawr i’n holl enwebeion, teilyngwyr ac enillwyr. Rydyn ni’n edrych ymlaen at seremoni’r flwyddyn nesaf yn barod!

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 24/09/26
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Gwerthusiad manwl am ddim ar gyfer rhaglenni gwirfoddoli

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/09/26
Categorïau: Gwirfoddoli

Deg adnodd y mae rheolwyr gwirfoddolwyr yn meddwl y dylech chi wybod amdanynt

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/08/26
Categorïau: Gwirfoddoli, Newyddion

Helpwch ni i gyllido prosiectau anhygoel yng Nghymru

Darllen mwy