menyw yn eistedd wrth liniadur gyda chlustffonau ymlaen

Datganiadau o Ddiddordeb – Comisiynu o ansawdd trwy ymagweddau cydweithredol

Cyhoeddwyd : 12/05/26 | Categorïau: Newyddion |

Mae CGGC a Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth Llywodraeth Cymru yn edrych ar ffyrdd o gefnogi cydberthnasau comisiynu gofal cymdeithasol da sy’n defnyddio ymagweddau a dulliau cydweithredol.

Rydym eisiau nodi mudiadau sector gwirfoddol a chomisiynwyr gofal a chymorth lleol sy’n frwd a chyda diddordeb mewn meithrin cydberthnasau da yn unol â’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth yng Nghymru: Cod Ymarfer a’r Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector.

Mae CGGC yn bwriadu arwain ar gynnig cyllido i ddarparu adnoddau ariannol ar gyfer hwyluso arbenigol a chydnabyddiaeth ariannol briodol i fudiadau a gwasanaethau’r sector gwirfoddol er mwyn sicrhau bod yr amser y maen nhw’n ei roi i’r gwaith hwn yn cael ei werthfawrogi.

Comisiynwyr Statudol fydd yn cwblhau’r datganiad o ddiddordeb hwn fel y gallwn fod yn sicr bod y gyllideb gwasanaeth angenrheidiol ar gael i’w dyrannu unwaith y bydd cydberthnasau comisiynu wedi’u sefydlu a dull newydd o ddiwallu angen wedi’i gytuno. (Noder nad oes sicrwydd cyllid ar hyn o bryd). Y bwriad yw datblygu cynnig ar y cyd â phartneriaid detholedig â diddordeb.

MEYSYDD PWYSIG

Croesawir yn arbennig ddatganiadau o ddiddordeb o ran Comisiynu yn unol â’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth. Dyma’r meysydd sy’n arbennig o berthnasol yn y dirwedd bolisi sydd ohoni:

  • system gofal cymunedol integredig
  • cael gwared â’r elw o wasanaethau plant
  • gofal a chymorth gartref
  • cymorth i ofalwyr
  • iechyd meddwl a llesiant
  • gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu.

Dywedodd Johanna Davies, Pennaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol CGGC, ‘Heddiw, mae’r sector gwirfoddol yn biler tyngedfennol o’n system iechyd a gofal cymdeithasol, ond mae elusennau yn ei chael hi’n anodd adennill costau llawn ac mewn rhai amgylchiadau, mae elusennau yn defnyddio’u harian wrth gefn i lenwi’r bwlch yng nghontractau’r sector cyhoeddus.

‘Mae Comisiynwyr yng Nghymru hefyd eisiau gwneud pethau’n wahanol, ond mae angen cefnogaeth i wneud comisiynu cydweithredol yn dda. Dyna pam rydyn ni’n gweithio gyda’r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth i ddatblygu’r prosiect Comisiynu Cydweithredol hwn.’

A fyddech gystal â llenwi’r ffurflen Datgan Diddordeb ganlynol erbyn 28 Mai 2026. Cysylltwch ag iechydagofal@wcva.cymru os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 28/05/26
Categorïau: Newyddion

Intern Cymorth Cyngres Hawliau Dynol Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 26/05/26
Categorïau: Gwirfoddoli, Newyddion

Dathlwch wirfoddolwyr anhygoel Cymru yn ystod yr Wythnos Gwirfoddolwyr yma!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/05/26
Categorïau: Newyddion

Ymunwch â’n Pwyllgor Cyllid a Risg

Darllen mwy