Rydyn ni’n credu bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn hanfodol ar gyfer cymdeithas gref a bywiog. Rydyn ni’n ymrwymedig i weithio tuag at ddyfodol lle y caiff pawb gyfle i lwyddo.
HYGYRCHEDD AR EIN GWEFAN
Mae’r wefan hon wedi’i dylunio i fod mor hygyrch a hawdd ei defnyddio â phosibl. Wrth ddatblygu’r wefan hon, gwnaethon ni gynnal profion defnyddwyr gydag amrediad o bobl i wneud yn siŵr bod ein safle mor hygyrch â phosibl.
Byddwn ni’n defnyddio’r dudalen hon i ddangos canfyddiadau ein profion defnyddwyr ac yn nodi’n glir beth fyddwn ni’n ei wneud i roi sylw i unrhyw bryderon a godwyd.
CANFYDDIADAU EIN PROFION DEFNYDDWYR
Dyma brif ganfyddiadau ein profion defnyddwyr:
- Credai’r mwyafrif o bobl ei bod hi’n hawdd symud o amgylch y wefan a’i bod hi wedi’i strwythuro’n dda
- Mae’r wefan yn hygyrch ond mae lle i wella, er enghraifft, cynnwys opsiynau i newid maint y testun, y cyferbynned ac ati
- Roedd angen rhoi sylw i fân broblemau gyda’r dechnoleg a’r cynnwys
EIN CAMAU GWEITHREDU AR ÔL Y PROFION DEFNYDDWYR
- Rhoi sylw i’r mân broblemau (wedi’i gwblhau)
- Cyflwyno adnodd hygyrchedd i alluogi defnyddwyr i reoli eu profiad (wedi’i gwblhau)
CYSYLLTU Â NI
Os oes gennych chi unrhyw sylwadau, pryderon neu awgrymiadau o ran hygyrchedd y wefan hon, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at Simon Dowling ar sdowling@wcva.cymru.