Dyn a dynes yn perfformio ar y llwyfan o flaen arwydd sy'n dweud

Datganiad CGGC: Hawl y Gymuned i Brynu

Cyhoeddwyd : 14/07/26 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

‘Mae hwn yn ymrwymiad sylweddol ac yn un i’w groesawu…’ Rydyn ni wedi rhyddhau datganiad mewn ymateb i gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth ar Hawl y Gymuned i Brynu.

Yn dilyn galwadau gan CGGC a mudiadau gwirfoddol ledled Cymru yn ein maniffesto sector gwirfoddol, rydyn ni wrth ein boddau mai Hawl y Gymuned i Brynu fydd un o’r Biliau cyntaf i gael eu cyflwyno gerbron y Senedd newydd.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan Lywodraeth Cymru ar 14 Gorffennaf 2026, dyma ddatganiad gan CGGC ar y newyddion.

DATGANIAD CGGC AR HAWL Y GYMUNED I BRYNU

CGGC yn croesawu ymrwymiad Hawl y Gymuned i Brynu

Mae CGGC yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd deddfwriaeth i sefydlu Hawl y Gymuned i Brynu ymhlith y Biliau cyntaf i gael ei chyflwyno gerbron y Senedd newydd.

Hawl y Gymuned i Brynu oedd un o’r cynigion craidd ym maniffesto sector gwirfoddol CGGC ac mae wedi bod yn alwad gan CGGC a mudiadau gwirfoddol ledled Cymru ers tro byd. Mae ei gwneud yn flaenoriaeth ddeddfwriaethol gynnar yn dangos bwriad clir i roi mwy o bŵer i gymunedau amddiffyn yr adeiladau, y tir a’r mannau sy’n bwysig iddynt.

Rhaid datblygu’r ddeddfwriaeth mewn partneriaeth wirioneddol â chymunedau a’r sector gwirfoddol, gan eu cydnabod fel partneriaid cyfartal a defnyddio eu profiad a’u harbenigedd i sicrhau bod yr hawl newydd yn gweithio’n ymarferol.

Ochr yn ochr â hyn, rhaid i gymunedau hefyd allu cael mynediad at y cyngor, y cyllid a’r gefnogaeth ymarferol sydd eu hangen i gael asedau a’u rheoli’n llwyddiannus yn yr hirdymor. Mae hyn yn gofyn am ddull cydgysylltiedig ar draws y llywodraeth a’r sector gwirfoddol sy’n rhoi’r adnoddau a’r gallu i gymunedau lunio lleoedd gwydn, cryfhau economïau lleol a gwella lles.

Dywedodd Lindsay Cordery Bruce, Prif Weithredwr CGGC:

‘Mae hwn yn ymrwymiad sylweddol ac yn un i’w groesawu. Gallai deddfwriaeth Hawl y Gymuned i brynu ystyrlon helpu i sicrhau y gall cymunedau barhau i ddefnyddio asedau hanfodol a rhoi mwy o reolaeth i bobl dros ddyfodol eu lleoedd.

‘Mae CGGC yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r holl bleidiau yn y Senedd i ddatblygu deddfwriaeth uchelgeisiol, ymarferol sy’n gweithio i gymunedau ledled Cymru.’

RHAGOR O WYBODAETH

I weld mwy:

Gall partneriaid CGGC gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr holl bolisïau a materion gwleidyddol sy’n berthnasol i’r sector gwirfoddol drwy gofrestru i dderbyn ein crynhoad Polisi a Materion Cyhoeddus. E-bostiwch polisi@wcva.cymru am ragor o wybodaeth.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 08/07/26
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Ton 4 Baromedr Cymru: iechyd a gofal cymdeithasol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/04/26
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Hyfforddiant a digwyddiadau

Ymunwch ag Arweinwyr Cymdeithasol Cymru i ‘ddadbacio arweinyddiaeth’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 09/04/26
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Hyfforddiant a digwyddiadau

Rhaglen hyfforddiant sgiliau ar dir a môr wedi laniso

Darllen mwy