
Diweddariad ddiwethaf 22 Ionawr 2021
Darllenwch diweddariad dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru yma
COVID-19 DIWEDDARIADAU EBOST
Os hoffech chi gael diweddariadau ebost ar yr holl newyddion COVID-19 perthnasol i sector gwirfoddol Cymru, cofrestrwch yma.
NEWYDDION DIWEDDARAF
- Mae Gwerthfawrogi Brechlynnau wedi cyhoeddi rhywfaint o gyfochrog Cymraeg ychwanegol yn benodol ynghylch diogelwch
- Mae Ymddiriedolaeth Carnegie UK wedi rhyddhau adroddiad, blog a chyfres vlog i helpu mudiadau sy’n symud eu gwasanaethau ar-lein oherwydd y pandemig
- Nod y prosiect Dangos yw cynyddu’r wybodaeth a’r ymwybyddiaeth am argaeledd cymorth i weithwyr rheng flaen. Maen nhw’n cynnal y sesiynau gwybodaeth hyn i helpu i godi ymwybyddiaeth
- Cyhoeddwyd £250k i helpu gofalwyr di-dâl yng Nghymru i ymdopi â phwysau ariannol y pandemig coronafirws
- Os hoffech chi wirfoddoli neu gynnig cefnogaeth yn ystod lefel rhybudd 4, mae’n bwysig eich bod chi’n cadw’ch hun ac eraill yn ddiogel. Rydym wedi diweddaru ein canllawiau ar wirfoddoli yn ystod y pandemig
- Mae Sefydliad Moondance wedi cyhoeddi £10 miliwn ychwanegol i’w ddosbarthu i fudiadau gwirfoddol Cymru sy’n ei chael yn anodd o ganlyniad i’r pandemig
- Darganfyddwch sut y gall y sector gwirfoddol gefnogi’r rhaglen frechlyn trwy gyfathrebu yn y weminar am ddim hon, dydd Iau 4 Chwefror, 3pm – 4pm
- Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Julie Morgan, wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig am parhau i gynnal darpariaeth gofal plant a chwarae yng Nghymru
- Mae Jane Hutt AC wedi diolch i’r lleng o wirfoddolwyr cymunedol ledled Cymru, sy’n gweithio’n galed i helpu i’ch cadw chi a’ch anwyliaid yn ddiogel ac yn derbyn gofal yn yr amseroedd anodd iawn hyn
NEWYDDION HENACH
- Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn cynnal arolwg Busnes Cymdeithasol yng Nghymru i ddarganfod sut mae pandemig yn effeithio ar fentrau cymdeithasol
- Mae rhai troseddwyr yn defnyddio’r brechlyn COVID-19 fel ffordd i dargedu’r cyhoedd trwy eu twyllo i drosglwyddo arian parod neu fanylion ariannol. Mae Llywodraeth y DU wedi rhyddhau’r canllaw hwn a’r poster hwn i helpu i godi ymwybyddiaeth
- Bydd pob cartref yng Nghymru yn derbyn llythyr cyn hir ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer brechu rhag COVID-19
- Bydd pob oedolyn cymwys yn cael cynnig brechlyn erbyn yr hydref, o dan gynlluniau a gyhoeddir yr wythnos hon
- Mae’r map hwn yn amlinellu lleoliadau canolfannau brechu yng Nghymru
- Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £4.9 miliwn i wella gwasanaethau cyhoeddus digidol yng Nghymru fel eu bod yn haws i bobl eu defnyddio
- Mae’r ymgyrch #ValuingVaccines wedi ychwanegu adnoddau dwyieithog penodol i Gymru i’ch helpu chi i hyrwyddo’r brechlyn
- Heddiw, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cadarnhau y bydd cyfyngiadau rhybudd lefel pedwar yng Nghymru yn parhau tan ddiwedd mis Ionawr
- Mae dyddiad cau’r Gronfa Benthyciadau Gwydnwch ac Adferiad (RRLF) wedi’i ymestyn i 31 Mawrth 2021
- Mae gan Gymdeithas Imiwnoleg Prydain lawer o ganllawiau ac adnoddau defnyddiol i’ch helpu i fynd i’r afael â materion a phryderon cyffredin am y brechlyn COVID-19 (Saes yn unig)
CANLLAWIAU AC ADNODDAU COVID-19
Rydym wedi coladu ein holl ganllawiau ac adnoddau ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru ar y dudalen ganllaw Covid-19 hon. Yma fe welwch wybodaeth a chyngor sy’n gysylltiedig â Coronafeirws ar bethau fel gwirfoddoli, cyllid, ymddiriedolwyr a llywodraethu, ac iechyd a lles.
Dwy gronfa i gefnogi mudiadau gwirfoddol yn ystod y pandemig
Cronfa gwydnwch trydydd sector Cymru
Cyllid i roi cymorth ariannol i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn ystod argyfwng cyfredol Covid-19
Cronfa Adfer y Gwasanaethau Gwirfoddol
Cynllun grant ar gyfer mudiadau gwirfoddol sy'n darparu cefnogaeth hanfodol yn ystod yr argyfwng Coronafeirws. Nod y gronfa hon yw cefnogi adferiad teg a chyfiawn i bobl yng Nghymru
Gwybodaeth pwysig i gwirfoddolwyr

- Dylai unigolion sydd eisiau gwirfoddoli yng Nghymru gofrestru trwy gwirfoddolicymru.net
- Dylai sefydliadau sydd angen cefnogaeth gwirfoddolwyr bostio cyfleoedd ar gwirfoddolicymru.net
- Canllawiau ar wirfoddoli ar ein tudalen arweiniad
BLOGIAU A GOLYGFEYDD
- Yn dilyn cyhoeddiad brechlyn Llywodraeth Cymru heddiw, mae Elen Notley, Rheolwr Marchnata a Chyfathrebiadau CGGC, yn amlinellu sut gall mudiadau gwirfoddol gynorthwyo â’r gwaith o gyflwyno’r brechlyn COVID-19 yng Nghymru drwy rannu cyfathrebiadau
- Mae Emma Taylor-Collins a Hannah Durrant o Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a Rheolwr Helplu Cymru CGGC, Fiona Liddell, wedi mynd ati i edrych am batrwm yn y straeon gwirfoddoli llwyddiannus diweddar ar hyd a lled Cymru
- Sut ydym ni’n cael yr effaith wirfoddoli fwyaf bosibl ar ôl y pandemig? Mae Fiona Liddell, Rheolwr Helplu Cymru yn CGGC yn dadlau mai nawr yw’r amser i ailbrisio potensial gwirfoddoli er mwyn cyflawni canlyniadau cadarnhaol i’ch mudiad
- Mae Ben Lloyd, Pennaeth Polisi gyda CGGC, yn archwilio Levelling Up Our Communities, adroddiad gan Danny Kruger AS sy’n cynnig gweithredoedd ar gyfer ‘cynnal yr ysbryd cymunedol a welsom yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud’
- Mae ein Swyddog Polisi David Cook yn esbonio’r hyn rydyn ni’n ei wneud i sefyll dros mudiadau gwirfoddol Cymru yn San Steffan ers y pandemig coronafeirws
- Yr haf hwn, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ei hymgynghoriad Cymru Ein Dyfodol er mwyn darganfod barn pobl ynglŷn â’r modd gorau o fynd ati i adfer o COVID-19. Mae Pennaeth Polisi CGGC, Ben Lloyd, yn edrych ar sut y gwnaethom ymgysylltu â’r sector ynglŷn â hyn ac yn amlygu’r pwyntiau allweddol yn ein hymateb
- Wrth i ni symud tuag at ‘normal newydd’, mae Anna Nicholl, Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu’r Sector CGGC, yn adlewyrchu ar yr hyn rydym wedi’i ddysgu o’n sesiynau ‘Paratoi ar gyfer gwahanol ddyfodol‘ gyda’r sector gwirfoddol, yn cynnwys ymateb cymunedol, economi llesiant a mwy
- Yn ystod y misoedd nesaf, wrth i’r cyfyngiadau lacio’n raddol ar ôl cyfnod clo y pandemig Coronafeirws, rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda gwirfoddolwyr unwaith eto. Fiona Liddell, Rheolwr Helplu CGGC, sy’n trafod y ffordd ymlaen ac yn nodi rhai adnoddau defnyddiol
- Yma mae Aelod o Fwrdd CGGC, Fran Targett, cyn Gyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru, yn edrych ar sut mae’r argyfwng Covid-19 wedi pwysleisio anghydraddoldebau iechyd a gofal cymdeithasol, a oedd yn bodoli eisoes, ac mae’n gofyn sut allwn ni symud ymlaen i sicrhau canlyniad cadarnhaol
- Yma, mae Rheolwr Gwirfoddoli CGGC, Felicitie Walls, yn ymdrin â’r prif bwyntiau i’w hystyried wrth baratoi neu ailgydio mewn gwaith gwirfoddol ar ôl y cyfyngiadau symud
- Dyma flog gan Menai Owen-Jones am rôl arweinyddiaeth yn y broses o greu dyfodol gwahanol a gwell i Gymru a bod gennym ddewisiadau a phenderfyniadau i’w gwneud a fydd yn cael dylanwad aruthrol ar yr hyn sydd i ddod
- Dyma ymddiriedolwr CGGC Joe Stockley a chwech person ifanc arall yn mynegi eu syniadau ar gyfer sut Gymru yr hoffent hwy ei gweld yn y dyfodol ar ol y pandemig
- Mae Korina Tsioni o CGGC yn blogio amdano pum ffordd syml o ddod i ben â’ch gwaith sicrhau ansawdd yn ystod y pandemig
- Beth mae COVID-19 yn ei olygu o ran creu economi llesiant – Mae Jess Blair yn crynhoi’r drafodaeth o’n digwyddiad #DyfodolGwahanolCymru olaf
- Yma, mae Felicitie Walls, Rheolwr Gwirfoddoli CGGC, yn edrych ar sut allai newidiadau i wirfoddoli alluogi pobl ifanc i wrthbwyso’r effeithiau negyddol y mae’r cyfyngiadau symud wedi’u cael ar eu bywydau, yn y tymor byr a chanolig
- Mae Sally Rees, Cydlynydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol y Trydydd Sector yn WCVA yn rhannu ei phrofiadau o ofalu am ei mam â dementia yn ystod argyfwng Covid-19
- Gwnaeth y sesiwn ddiweddaraf yn ein cyfres #DyfodolGwahanolCymru ganolbwyntio ar beth mae’r pandemig wedi’i olygu o ran dylanwadu ar benderfynwyr. Dyma Jess Blair gyda chrynodeb o’r drafodaeth
- Ddydd Iau diwethaf, cynhaliodd CGGC y bumed digwyddiad yn y gyfres Paratoi ar gyfer Dyfodol Gwahanol, a oedd yn edrych ar effaith pandemig y Coronafeirws ar y newid yn yr hinsawdd. Dyma adroddiad Jess Blair o’r digwyddiad
- Cododd Judi Rhys, Prif Swyddog Gweithredol Gofal Canser Tenovus mewn digwyddiad diweddar #DyfodolgGwahanolCymru y dylai mudiadau gwirfoddol ystyried uno fel ffordd i addasu ôl-bandemig. Yn y blog hwn mae’n rhannu ei barn a’i phrofiadau personol o uno fel Prif Swyddog Gweithredol Gofal Arthritis
- Mae Mike Corcoran, Arbenigwr Gwerthuso gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu ar gyfer Cymru, yn amlinellu saith cwestiwn ar gyfer gwerthuso’ch gwasanaethau yn ystyrlon mewn cyfnod o argyfwng
- Mae Lauren Pennycook, Uwch Swyddog Polisi a Datblygiad gyda Carnegie UK Trust yn edrych ar sut y gall adrodd straeon gynorthwyo i wella trefi ledled Cymru unwaith y bydd argyfwng Covid-19 wedi gostegu
- Gallai datrysiadau gweithio gartref dros dro gostio mwy i elusennau. Mae Jonathan Levy, Rheolwr Gyfarwyddwr Class Networks, yn esbonio pam ei bod hi’n bryd sefydlu datrysiadau hirdymor a chynlluniau parhad busnes
- Yn y blog yma, mae Joseph Carter, Pennaeth y Cenhedloedd Datganoledig ar gyfer Sefydliad Ysgyfaint Prydain ac Asthma UK, yn manylu ar bryderon y ddau fudiad, a sut maen nhw’n cefnogi’r rhai sydd â chyflyrau yr ysgyfaint trwy’r pandemig
- Mae FareShare Cymru a CGS Castell-nedd Port Talbot wedi dod ynghyd i gadw stoc banciau bwyd i fyny wrth iddynt frwydro am roddion yn sgil Covid-19
- Dyma ein Rheolwr Risg, Caffael a Llywodraethu, Emma Waldron, yn siarad â CIPS am anawsterau gyda darpariaeth PPE i’r sector gwirfoddol
- Mae Emma Morgan, sy’n wirfoddolwr i CGGC, yn esbonio pam y dylech ystyried creu rolau codi arian rhithwir gwirfoddol i’ch mudiad
- Dyma Elen Notley, ein Rheolwr Marchnata a Chyfathrebiadau, yn annog y sector gwirfoddol i floeddio am yr effaith anhygoel mae’r sector yn ei chael yn ystod y pandemig
- Mae Judith Stone yn darparu rhai enghreifftiau o sut mae mudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn addasu ac yn ymateb i heriau’r pandemig
- Cyllid coronafeirws: pa gronfa ddylwn ni wneud cais amdani? Blog newydd o Alison Pritchard, Rheolwr Cyllido Cynaliadwy CGGC
- Mae Felicitie Walls, Rheolwr Gwirfoddoli CGGC, yn gofyn i ddarpar wirfoddolwyr sydd wedi cofrestru i helpu yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws fod yn amyneddgar tra bod y sector yn chwilio’i draed yn y cyfnod rhyfedd hwn
- Llygad ar y dyfodol mewn adeg o anrhefn: dyma Anna Nicholl, ein Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu’r Sector, yn siarad am heriau’r presennol a phwysigrwydd edrych ymlaen heibio’r argyfwng
- Mae Rocio Cifuentes yn amlinellu pryderon allweddol sy’n dod yn amlwg ynghylch effaith Covid19 ar gymunedau BAME yng Nghymru
- Camu i fyny: Mae Ruth yn blogio am y gwytnwch a’r ymrwymiad y mae hi wedi’u gweld yn y sector gwirfoddol yn ystod yr amser difrifol hwn, a sut y gallwn gario y tu hwnt i’r argyfwng presennol
- Mae’r rhwydweithiau cenedlaethol o bob rhan o’r sector gwirfoddol wedi cwrdd i drafod COVID-19 a sut gall y sector gwirfoddol gyfrannu at y gwaith o gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed yn ystod y cyfnod hwn. Dyma adroddiad Ben Lloyd, Pennaeth Polisi CGGC, ar y cyfarfod hwnnw
- Rydym wedi coladu rhestr o ymatebion amrywiaeth o arianwyr i’r firws
- Dyma ein Prif Weithredwr Ruth Marks yn amlinellu rôl CGGC a ffocws cyfredol ein gwaith i gefnogi fudiadau gwirfoddol yn ystod yr amser anodd hwn
- Sut gall elusennau ddal ati i wneud daioni cymdeithasol wrth gadw pellter cymdeithasol? Daw Judith Stone, ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu Sector, yn ôl o’i secondiad i siarad am yr hyn y gall elusennau ei wneud i barhau â’u gwaith hanfodol
- Amlyga Lauren Swain, Rheolwr Datblygu Cymru ar gyfer Localgiving, rai o’r gweithgareddau codi arian y mae mudiadau yng Nghymru’n mynd ati i’w cynnal yn ystod y cyfnod anodd hwn
- Oherwydd y pandemig coronafirws mae elusennau yng Nghymru yn colli incwm wrth i ddigwyddiadau codi arian gael eu canslo a rhoddion unigol lleihau. Mae gan Alison Pritchard, Rheolwr Cyllido Cynaliadwy i CGGC, ychydig o gyngor i elusennau ar sut i wella eu presenoldeb codi arian ar-lein
STRAEON POSITIF
- Cymerodd prosiectau Cynhwysiant Gweithredol yng Ngogledd Cymru ran mewn digwyddiad i rannu sut maen nhw wedi bod yn helpu pobl i ddelio â’r heriau economaidd dros y pandemig
- Mae Richard Smith yn arwain tîm o wyth fel arweinydd tîm y Groes Goch Brydeinig ar gyfer y gwasanaeth PIVOT yn Hwlffordd. Gwnaethon ni ofyn iddo ddweud wrthym sut mae’r Coronafeirws wedi effeithio ar y gwasanaeth, a ddarperir gan dîm o staff a gwirfoddolwyr
- Mae gwirfoddolwyr mewn clinigau Hear to Help yn helpu’r gymuned â nam ar eu clyw ym Mhowys trwy wneud mân atgyweiriadau i gymhorthion clyw. Darllenwch eu stori
- Mae cynnwrf 2020 wedi bod yn anodd i ni i gyd – darllenwch stori Hope Rescue am sut wnaeth cyllid y Gronfa Gwydnwch Trydydd Sector eu cadw uwchlaw dŵr
- Siaradom ni ag Innovate Trust am beth maen nhw wedi bod yn gwneud gyda’u cyfranogwyr Cynhwysiant Gweithredol yn ystod y broses gloi – maen nhw wedi bod yn byw lan at eu henw!
Darllenwch eu stori - Ers tro diwethaf siaradom ni i enillwyr Gwobrau Elusennau Cymru Beiciau Gwaed Cymru, mae’r galw ar allu’r elusen i addasu ac ymateb i’r pandemig Covid 19 wedi bod yn ddigynsail. Esbonia Nigel Ward, Cadeirydd Beiciau Gwaed Cymru
- Darllenwch stori Media Academy Cymru, sy’n gweithio gyda help y Gronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol i atal troseddwyr ifanc o’r system cyfiawnder troseddol trwy ysgogi angerdd ynddynt am y cyfryngau a ffilm
- Darllenwch stori Ymddiriedolaeth Elusennol Canmlwyddiant Stephens & George, elusen addysg ym Merthyr Tudful, a sut maen nhw wedi ymgynnull i ymgymryd â’r heriau a gyflwynir gan bandemig COVID-19
- Gyda chymorth o’r Gronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol, mae’r Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd (CAE) wedi bod yn darparu gwasanaethau hanfodol i gymuned Abertawe BAME yn ystod y pandemig coronafeirws. Darllenwch eu stori
- Gwelodd Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont gynnydd yn nifer y gofalwyr sy’n pryderu am gadw’u hanwyliaid yn ddiogel yn ystod y pandemig. Darllenwch am sut maen nhw wedi gorfod addasu a chreu gwasanaethau newydd i helpu eu cymuned
- Bydd miloedd o bobl o bob rhan o Gymru’n gallu cael mwy o help gyda’u hiechyd meddwl o Mind Cymru, diolch i arian newydd o’r Gronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol
- Mae Prosiect Cymorth Coronafeirws Caerdydd wedi cofio Ramadan gydag ymateb anhygoel gan y gymuned. Mae wedi danfon 500 o barseli bwyd allan, wedi casglu dros £5,000 mewn rhoddion hael, ac mae mwy na 100 o wirfoddolwyr wedi cofrestru i helpu. Darllenwch eu story
- Mae Home-Start Cymru ymhlith y rhai cyntaf sy’n derbyn grantiau o’r Gronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol. Darllenwch sut maen nhw’n addasu eu gwasanaethau i’r pandemig coronafirws
- Mae 14 o fudiadau gwirfoddol sy’n gweithio ar y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn coronafeirws wedi cael arian yn rownd gyntaf Cronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol
- Mae Canolfan Gymunedol Talbot yn dangos y gall cymunedau gwydn ddod at ei gilydd i helpu eu rhai mwyaf agored i niwed, hyd yn oed ar adegau o argyfwng enbyd. Darllenwch eu stori
- Mae dinasyddion hael ledled Cymru wedi bod yn fwy na pharod i roi o’u hamser i eraill – rydyn ni’n rhannu straeon gan staff y sector gwirfoddol
MWY O NEWYDDION DA PLIS?
Nid ydyn ni wedi cael llawer o newyddion da yn ddiweddar – rhwng COVID-19 a’r llifogydd dinistriol diweddar ledled Cymru, mae’r hwyliau’n ymddangos yn eithaf isel ledled y wlad.
Yr hyn nad ydym wedi bod yn brin ohono yw straeon am gymunedau gwydn yn dod at ei gilydd – er enghraifft y newyddion bod grwpiau fel Coronavirus Support Blaenau Gwent wedi bod yn ymgynnull gwirfoddolwyr i helpu pobl mewn angen.
Byddwn yn rhannu straeon newyddion da ac enghreifftiau o arfer da fel rhan o’r cylchlythyr hwn. Os ydych chi’n gwybod am unrhyw straeon cadarnhaol eraill tebyg am gymunedau yn cyd-dynnu i ymdopi â COVID-19 yna rhowch wybod i ni!
EIN SAFBWYNT AR Y DATBLYGIADAU PARHAUS AR IECHYD Y CYHOEDD
Dyma ein Prif Weithredwr Ruth Marks yn amlinellu rôl CGGC a ffocws cyfredol ein gwaith i gefnogi fudiadau gwirfoddol yn ystod yr amser anodd hwn.
Fel rhan o’n hymateb parhaus i’r achosion o’r Coronafeirws (COVID-19), mae CGGC yn talu sylw gofalus at y cyngor sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU yn ogystal â’r cyfarwyddyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Argymhellir fod pawb yn dilyn cyngor y GIG ar hylendid.
Oherwydd y cyngor cyfredol ar y Coronafeirws rydym wedi gwneud y penderfyniad i gau ein swyddfeydd. Fodd bynnag, mae ein holl staff wedi cael yr offer i weithio gartref ac rydym yn dal i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi mudiadau gwirfoddol yn ystod yr amser anodd hwn.
Ar hyn o bryd rydym yn gohirio hyfforddiant a digwyddiadau wyneb yn wyneb, ond byddwn yn parhau i ddarparu dysgu ar-lein lle bo hynny’n bosibl.
Byddwn yn parhau i fonitro unrhyw ddatblygiadau ac yn rhoi gwybod i’r sector gwirfoddol am unrhyw gamau pellach y byddwn yn eu cymryd wrth i bethau newid.
Newyddion cysylltiedig
Cyhoeddwyd: 15/01/21 | Categorïau: Newyddion |
Cyhoeddi rhestr fer Hearts for the Arts 2021
Darllen mwyCyhoeddwyd: 11/12/20 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |