Os ydych chi’n gweithio i fudiad o’r sector gwirfoddol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, gallwch chi wneud cais nawr i ymuno â’r rhaglen ‘Infuse’ i ddatblygu eich sgiliau mewn meddwl mewn ffyrdd gwahanol ac arloesol.
BETH YW ‘INFUSE’?
Rhaglen arloesedd ac ymchwil yw ‘Infuse’ sydd wedi’i dylunio i adeiladu sgiliau a chapasiti ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus arloesol ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) yn y dyfodol.
Mae’r rhaglen wedi’i hadeiladu o gylch cyfleoedd i fynd i’r afael â chwestiynau bywyd go iawn, a sbardunir gan yr heriau mwyaf a wynebir gan CCR: Cyflymu Datgarboneiddio a Chymunedau Cefnogol.
Bydd cyfranogwyr yn gweithio gyda’i gilydd i gael yr offer a’r dulliau i ddatblygu syniadau arloesol, gofyn cwestiynau data da a defnyddio data i alluogi penderfyniadau effeithiol i gael eu gwneud, ac i gael cymaint â phosibl o ‘werth cymdeithasol’ wrth warion arian cyhoeddus.
Mae ‘Infuse’ yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd, Y Lab, Nesta, CCR a’r deg awdurdod lleol sy’n rhan o’r rhanbarth, dan arweiniad Cyngor Sir Fynwy. Cefnogir y rhaglen gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Mae ceisiadau ar gyfer y rhaglen ar agor nawr i bob mudiad sector cyhoeddus a thrydydd sector ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
SUT BYDD Y RHAGLEN YN CAEL EI CHYFLWYNO?
Wedi’i chyflwyno dros chwe mis, gall cyfranogwyr ddisgwyl datblygu drwy bum cam sydd wedi’u dylunio i ysgogi ffyrdd newydd o weithio a newid eu ffordd o feddwl.
- Mae’r cam Ysbrydoli yn ymwneud â herio’r drefn arferol, edrych ar botensial, ystyried yr hyn sy’n bosibl a gofyn ‘beth petai…?’
- Mae’r cam Dysgu a Gweithredu yn gosod y sylfeini ar gyfer arloesedd. Mae cydberthnasau cydweithredol yn ffurfio a’r awydd i newid yn cynyddu.
- Nesaf mae’r cam Dysgu ac Archwilio, sy’n adeiladu gwybodaeth a sgiliau yn y Lab arloesedd, gan ganolbwyntio ar gydweithio a’u her tîm.
- Mae’r cam Arbrofi yn profi syniadau mewn amgylchedd diogel lle mae methu yn llwyddiant gan ei fod yn hysbysu’r dysgu.
- Y cam olaf yw Dathlu, lle y bydd cyfranogwyr yn rhannu’r hyn y maen nhw wedi’u dysgu gyda’r grŵp. Gyda hyfforddiant a mentora ar bob cam o’r daith, erbyn diwedd y rhaglen, bydd gan bob cyfranogwr yr hyder a’r gallu i roi eu sgiliau newydd ar waith yn y byd go iawn.
Bydd y camau hyn yn cael eu cyflwyno drwy dri ‘Lab’ â nodau penodol:
Y Lab Addasu – bydd cyfranogwyr yn cael gwybodaeth ac offer i’w helpu i ddeall sut i fabwysiadu neu addasu syniadau arloesol yn llwyddiannus yn ôl eu cyd-destun a’u hanghenion.
Y Lab Data – sy’n galluogi cyfranogwyr i ddefnyddio data yn fwy effeithiol wrth wneud penderfyniadau.
Y Lab Caffael – sy’n cefnogi cyfranogwyr i ddysgu, datblygu a phrofi prosesau a dulliau newydd ar gyfer caffael cynnyrch a gwasanaethau arloesol.
CANLYNIADAU A STORÏAU HYD YMA…
Mae ‘Carfan Alffa’ a ‘Charfan Un’ wedi bod yn llwyddiant ysgubol eisoes, gan feithrin syniadau arloesol sy’n datblygu i fod yn newyddbethau ysbrydoledig ar draws amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys:
- Mae canol trefi’n marw – sut allwn ni eu hachub?
- Ydyn ni’n anwybyddu ffrydiau gwastraff (fel gwastraff cŵn) a allai fod yn ddatrysiad ynni bio hyfyw?
- Ymwreiddio dull ‘Datblygu Cymunedol seiliedig ar Asedau’ mewn awdurdodau lleol
- Mapio ardaloedd preswyl ar gyfer datgarboneiddio blaenoriaethol
- Sut i gynyddu’r ymdrech gynaliadwy i gynhyrchu a chyflenwi bwyd a dyfir yn lleol yng Nghymru?
- A all dangosfwrdd carbon ein helpu ni i ddeall ein nodau allyriadau carbon yn well a’u cyrraedd?
- Beth sydd angen newid er mwyn datrys ein hargyfwng gofal?
- A yw’r cynnydd mewn llythrennedd carbon yn ein helpu ni i leihau ein hôl troed carbon yng Nghymru?
‘Fydden i ‘rioed wedi dychmygu’r cyfleoedd a’r sgyrsiau y bydden i’n eu cael pan ddechreuais ar ‘Infuse’! Mae wedi bod yn anodd, ond mae wedi arwain at gydweithrediadau a sgyrsiau gyda phobl anhygoel.’ Gareth, Carfan Un
SUT I GYMRYD RHAN
Mae ceisiadau Carfan Dau ar agor nawr tan ddydd Gwener 11 Mai 2022
Ewch i wefan ‘Infuse’ i gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais.
Gellir dod o hyd i gylchlythyr diweddaraf ‘Infuse’ yma (Saesneg yn unig)