Bydd digwyddiad lansio ar-lein ar gyfer papur ar werth gwirfoddoli o fewn y maes iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei gynnal ar 23 Tachwedd 2022.
Mae’r papur, a gyhoeddwyd gan Sefydliad Bevan, ar gael i’w lawrlwytho yma.
Mae gwirfoddolwyr bob amser wedi gwneud cyfraniad hanfodol at faes iechyd a gofal yng Nghymru, ond mae’r profiad o bandemig COVID-19 wedi gwneud pŵer a photensial gwirfoddoli yn fwy amlwg. Mae’r pwysau ar ein system iechyd a gofal a’i gweithlu cyflogedig yn ein gorfodi i edrych yn fanylach ar sut gallwn ni fwyafu potensial ein holl sgiliau ac adnoddau, gan gynnwys gwirfoddolwyr.
Mae fwyfwy o dystiolaeth i gefnogi effeithiau cadarnhaol gwirfoddoli ar iechyd a lles cleifion, gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau, yn ogystal ag ar staff, systemau iechyd ac ar wirfoddolwyr eu hunain. Gall helpu i liniaru rhai o’r problemau dyrys sy’n wynebu ein system iechyd a gofal heddiw drwy, er enghraifft, rhoi amser am sgyrsiau sy’n canolbwyntio ar y claf, cymorth ymarferol neu wybodaeth, trwy alluogi gwasanaethau i gael eu hehangu yn agosach at gartref a thrwy arallgyfeirio’r galwadau ar wasanaethau aciwt.
Mae angen i ni ddatblygu a rhannu’r hyn sy’n gweithio’n dda yn ehangach, er mwyn cyflwyno newid diwylliannol o fewn cyrff statudol ac amlsector a galluogi lle i wirfoddoli ffynnu a chael yr effaith fwyaf posibl. Nid yw gofal iechyd darbodus yn haeddu llai.
Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno themâu ac argymhellion y papur Gwerthoedd a Gwerth Gwirfoddoli – ein hased cudd, a gyhoeddwyd gan Sefydliad Bevan. Byddwn yn clywed safbwyntiau gwahanol ar yr hyn a allai ei olygu i ddatblygu potensial gwirfoddoli a’r hyn sydd angen ei newid i wireddu hyn yn llwyr.
MAE’R SIARADWYR YN CYNNWYS:
- Judith Paget CBE, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / Prif Weithredwr GIG Cymru
- James Johnson, Rheolwr Gwirfoddolwyr Robins, Datblygu’r Gweithlu a’r Sefydliad, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Tanya Strange, Pennaeth Nyrsio, Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Bydd y sesiwn o ddiddordeb i’r rheini mewn rolau cynllunio a strategol yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, o fewn y sector cyhoeddus neu’r sector gwirfoddol.
MWY AM Y DIGWYDDIAD
Cyflwynir y digwyddiad gan Helplu Cymru/CGGC a Chomisiwn Bevan
Am ragor o fanylion, cysylltwch â fliddell@wcva.cymru.