Helpwch ni i ddatblygu fframwaith i gefnogi cynllunio a dealltwriaeth well o wirfoddoli ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru – cymerwch ein harolwg.
BETH YW EIN NOD?
Mae pandemig COVID-19 wedi dangos sut gall gwirfoddolwyr sy’n gweithio drwy fudiadau trydydd sector, mewn grwpiau cymunedol ac o fewn gwasanaethau statudol gyfrannu’n ymarferol ac yn hyblyg er mwyn mynd i’r afael ag anghenion iechyd a gofal.
Yn ogystal â hyn, mae ffyrdd newydd o weithio a chydweithio rhwng mudiadau yn awgrymu sut gallai gwirfoddoli fod yn fwy effeithiol fyth yn y dyfodol gyda’r cyfleoedd, y cynllunio a’r adnoddau priodol.
Hyd yn oed cyn COVID-19, roedd gwirfoddolwyr yn cyfrannu’n weithredol at iechyd Cymru mewn llawer o ffyrdd – mae’r fideo hwn yn sôn am rai ohonynt yn unig.
Ar ôl y pandemig, hoffem weld gwirfoddoli’n cael ei integreiddio’n well wrth gynllunio gwasanaethau, yn cael adnoddau gwell ac yn cael ei gydnabod yn well fel cydran annatod o ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol prif ffrwd. Nod y prosiect yw cyd-gynhyrchu adnodd i gefnogi hyn gyda rhanddeiliaid.
SUT BYDDWN NI’N GWNEUD HYN
Byddwn yn nodi cwmpas y ddarpariaeth gyfredol gan ddefnyddio arolwg dros Gymru gyfan. Ar ôl hyn a sgyrsiau dilynol â grwpiau ffocws, byddwn ni’n edrych ar wahaniaethau rhanbarthol mewn arferion, partneriaethau a diwylliant ac ar rai o’r pryderon a’r dyheadau ar gyfer dyfodol gwirfoddoli.
Byddwn ni’n nodi enghreifftiau da y gallwn ddysgu ohonynt ac yn amlygu camau gweithredu ar gyfer datblygu effaith wirfoddoli ar iechyd a gofal cymdeithasol.
SUT GALLWCH CHI HELPU
Cymerwch ran yn ein harolwg. Gall cyfranogwyr hefyd ddewis mynychu un o’r grwpiau ffocws rhanbarthol er mwyn ymhél â thrafodaethau mwy treiddgar.
Estynnwch y gwahoddiad i bobl eraill. Efallai i gydweithiwr sy’n ymwneud â chefnogi neu reoli gwirfoddolwyr, neu i fudiadau eraill yn eich rhwydwaith.
Mae’r ddolen i’r arolwg yma:
https://www.surveymonkey.co.uk/r/MRJ63P5 (Cymraeg)
https://www.surveymonkey.co.uk/r/MRGZCNL (Saesneg)
PWY SY’N GYSYLLTIEDIG?
Helplu Cymru CGGC sy’n arwain y prosiect hwn, ac mae’n gweithio gyda Chomisiwn Bevan, Gofal Cymdeithasol Cymru a Richard Newton Consulting Cyf. fel partneriaid prosiect.
Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru o’r Grant Adfer Gwirfoddoli yn sgil y Coronafeirws 2020/21.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Fiona Liddell fliddell@wcva.cymru
Mae Helpu yn gweithio gyda Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC a 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs)), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae’r dudalen Helplu ar ein gwefan yn cynnwys dolenni i erthyglau diweddar, blogiau, fideos ac astudiaethau achos.