Datblygu arweinwyr yng Nghymru

Datblygu arweinwyr yng Nghymru

Cyhoeddwyd : 20/09/22 | Categorïau: Newyddion |

Mae CGGC wedi dyfarnu Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie am y tro cyntaf ers 2019, ac eleni bydd yn cefnogi nid un, ond dau arweinydd o’r sector gwirfoddol.

Nod Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie yw helpu arweinwyr o’r sector gwirfoddol i ddatblygu eu sgiliau arwain entrepreneuraidd. Mae’r dyfarniad blynyddol yn rhoi £2,500 i gefnogi unigolyn yng Nghymru i ddod yn arweinydd gwell.

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi enillydd cyntaf y bwrsari ers 2019, ac am y tro cyntaf erioed, rydyn ni’n gwneud dau ddyfarniad.

Bydd bwrsari eleni yn cefnogi’r derbynyddion canlynol:

  1. Louise Miles-Payne: Bydd cyfarwyddwr Creu Cymru yn defnyddio’r bwrsari i wneud ymweliadau dysgu i fudiadau tebyg sy’n canolbwyntio ar y celfyddydau perfformio ar hyd a lled y DU. Bydd Louise hefyd yn cwblhau cwrs codi arian uwch â ffocws penodol ar y celfyddydau
  2. Steve Swindon: Bydd Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Creadigol TAPE Cerdd a Ffilm Creadigol yn defnyddio ei fwrsari i ymweld â phartneriaid allweddol fel Netflix, Universal a Disney, eu hyfforddi a meithrin cysylltiadau rhyngwladol â nhw. Bydd yr ymweliadau yn helpu TAPE ar eu taith i fod yn arloeswyr a hyrwyddwyr Cynhwysiant Creadigol

DYSGU O ERAILL

Mae Creu Cymru yn hyrwyddo sector celfyddydau perfformio bywiog Cymru, gan gysylltu pobl, cynulleidfaoedd a chymunedau. Fel rhan o’r bwrsari, mae Louise yn bwriadu ymweld â mudiadau â nodau tebyg, fel y Federation of Scottish Theatre a Culture Counts (yr Alban), Theatre Forum (Iwerddon), Theatre and Dance NI (Gogledd Iwerddon) a House (Lloegr).

Bydd yr ymweliadau hyn yn helpu Louise i edrych ar sut mae pobl eraill yn meddwl am feysydd fel cyllid ac aelodaeth, gan ddod â dysgu yn ôl i’w rôl arweinyddiaeth. Bydd hefyd yn gyfle i edrych ar gydweithio posibl ar draws y gwledydd.

Bydd y bwrsari hefyd yn talu i Louise fynd ar gwrs codi arian uwch gyda darparwr hyfforddi sy’n canolbwyntio ar y celfyddydau.

‘Rwy’n hynod o falch a diolchgar o gael fy newis i fod yn un o dderbynyddion y bwrsari,’ meddai Louise. ‘Rydyn ni wedi bod yn brysur yn ailddatblygu Creu Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a bydd y bwrsari hwn yn fy ngalluogi i ehangu’r gwaith hwnnw a dysgu gan fudiadau eraill ledled y DU ac Iwerddon.

‘Nod y cwrs codi arian fydd cynorthwyo’r mudiad i ddod yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fwrw ati â’r gwaith hwn a hoffwn ddiolch i CGGC am y cyfle hwn.’

CAMU I’R LLWYFAN RHYNGWLADOL

Mae TAPE Cerdd a Ffilm Creadigol yn darparu cyfleoedd cefnogol, o ansawdd uchel a arweinir gan unigolion yn y diwydiannau creadigol, ac yn ymfalchïo ar hygyrchedd a chynhwysiant. Mae’r sylfaenydd, Steve, yn bwriadu defnyddio’r bwrsari i gysylltu, hyfforddi a chreu partneriaethau â gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant ffilm sydd, fel rhan o’u cylch gwaith yn datblygu cynhwysiant a chynyddu cyfleoedd.

Bydd Steve, sydd eisoes wedi hen ennill ei blwyf ag unigolion o’r fath yn y DU, yn teithio i gwrdd â phartneriaid rhyngwladol allweddol i rannu model a dulliau gweithredu TAPE. Mae Steve yn gobeithio cwrdd ag unigolion mewn pum mudiad rhyngwladol, gan anelu at chwaraewyr mawr fel Netflix, Universal, Amazon Studios a Disney.

‘Gyda rhyddhad diweddar ein hail ffilm hir, Approaching Shadows, ni allai amseru’r dyfarniad hwn fod wedi bod yn well,’ meddai Steve. ‘Rydyn ni wedi datblygu ein harferion cynhwysol ac mae gennym ni ddau film hir o ansawdd a 14 mlynedd o brofiad cyflenwi i lywio ein gwaith a ble rydyn ni am fynd nesaf.

‘Mae’r bwrsari yn mynd i wirioneddol gefnogi uchelgeisiau’r elusen a’r buddion i’r bobl hynny sy’n dod drwy’r drysau bob dydd. Rwy’n ddiolchgar tu hwnt.’

Bydd yr ymweliadau yn caniatáu i Steve ehangu ei rwydwaith a’i brofiad, gan hyrwyddo gwaith yr elusen ar lefel newydd sbon. Mae Steve yn bwriadu defnyddio’r cyfle i ddatblygu fforwm ar-lein, a gaiff ei gymedroli gan TAPE, lle y gall bobl greadigol uchelgeisiol gysylltu â gweithwyr proffesiynol ar draws disgyblaethau i gael help, cyngor a chymorth.

 

RHANNU DYSGU

Byddwn ni’n dilyn cynnydd Louise a Steve yn agos wrth iddynt fanteisio ar y cyfle hwn i ddatblygu fel arweinwyr yn y sector gwirfoddol. Bydd y ddau yn dysgu pethau o’r gweithgareddau hyn y gallant wedyn eu rhannu â’u cymheiriaid yng Nghymru, felly cawn glywed mwy yn y man!

YNGLŶN Â’R BWRSARI

Bydd bwrsari gwerth £2,500 yn cael ei ddyfarnu bob blwyddyn i rywun mewn rôl arwain o fewn mudiad gwirfoddol yng Nghymru i’w helpu i ddod yn arweinydd mwy entrepreneuraidd. Mae’r paramedrau ar gyfer sut y gellir gwario’r bwrsari’n agored, a chaiff ymgeiswyr eu hannog i feddwl am syniadau diddorol i gefnogi eu datblygiad eu hunain.

Gallwch ddarllen mwy am y bwrsari a’i enillwyr blaenorol ar ein tudalen Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Codi Arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy