Menyw yn eistedd mewn cadair olwyn yn dal ci therapi o Cariad Pet Therapy

Dangos effaith CGGC

Cyhoeddwyd : 11/12/23 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Mae ein hadroddiad blynyddol 2022/23 yn cynnwys enghreifftiau o’r hyn a wnaethom tuag at gyflawni’r nodau uchelgeisiol y gwnaethom ni eu gosod i’n hunain, a’r gwahaniaeth y gwnaethom ni.

Yn 2022/23, ar ôl i gyfyngiadau’r pandemig ddod i ben, aethom ati i weithio gyda’r sector gwirfoddol i daclo effaith yr argyfwng costau byw a diwedd Cronfeydd Ewropeaidd.

Yn CGGC, gwnaethom weithio’n galed i alluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i lwyddo serch yr heriau di-ri rydyn ni i gyd yn eu hwynebu.

Mae ein hadroddiad blynyddol ar gyfer 2022/23 yn canolbwyntio ar y tri gwahaniaeth mwyaf a wnaethom yn ystod y cyfnod hwn.

Gwyliwch ein hanimeiddiad cryno

1. CYLLIDO MUDIADAU GWIRFODDOL I WNEUD MWY O WAHANIAETH

Yn 2022/23, gwnaethom ddosbarthu £27.5 miliwn mewn grantiau a benthyciadau i’r sector gwirfoddol.

Roedd hyn yn cynnwys £846,000 mewn benthyciadau a ddyfarnwyd gan ein tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru i 14 o wahanol fusnesau cymdeithasol neu fudiadau gwirfoddol sy’n masnachu er mwyn cynyddu eu gweithgareddau a’u heffaith.

Aeth £13.7 miliwn o’r cyllid ar grantiau amgylcheddol a gwnaeth ein Grantiau Dechrau Busnes Carbon Sero Net hefyd helpu mentrau cymdeithasol newydd i ffynnu gan ymwreiddio arferion hinsawdd da o’r cychwyn cyntaf.

2. CYFRANNU AT YMDRECHION WCRÁIN CYMRU

Ar ôl clywed y newyddion am yr ymosodiad ar Wcráin a’r argyfwng dyngarol yno, aethom ati i weithio gyda’r sector a phartneriaid allweddol eraill i sicrhau bod ffoaduriaid Wcráin yn cael eu hadsefydlu a’u cynorthwyo’n gyflym ac yn garedig.

Buom yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol i greu cysylltiadau a galluogi mudiadau arbenigol i roi cymorth mawr ei angen.

Gyda’n gilydd, gwnaethom gynhyrchu deunyddiau i gynorthwyo ymdrechion mewn ardaloedd awdurdod lleol, helpu i lunio’r cynnwys sydd ar gael yn sanctuary.gov.cymru, rhannu diweddariadau gan Lywodraeth Cymru gyda rhanddeiliaid a sicrhau bod adborth o’r rheng flaen yn cael ei ystyried wrth ddatblygu polisïau.

3. GWNEUD CGGC YN ADDAS AR GYFER Y DYFODOL

Gyda chyllid yr UE yn dod i ben yng Nghymru, y newidiadau i’n ffyrdd o weithio oherwydd y pandemig a’n cynllun strategol newydd ar gyfer 2022-27, roedd angen i CGGC drefnu ac edrych ymlaen er mwyn paratoi ar gyfer y dyfodol.

Aethom drwy raglen newid uchelgeisiol i ail-ddylunio a datblygu’r mudiad er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau bosibl i gefnogi’r sector gwirfoddol yn y dyfodol.

Roedd hon yn cynnwys pecyn o gymorth a datblygiad i staff i roi cymaint â phosibl o help yn ystod y cyfnod ansicr hwn.

Er ei bod hi’n broses heriol, roedd ei hangen i sicrhau cynaliadwyedd ariannol hirdymor.

ASTUDIAETHAU ACHOS

Mae ein hadroddiad blynyddol 2022/23 yn cynnwys amrywiaeth o astudiaethau achos, gan gynnwys yr un hon sy’n canolbwyntio ar brosiect a gyllidwyd gan ein cynllun Cymru ac Affrica.

Gbemisola yn sefyll ac yn gwenu

Gan wella iechyd yn Nigeria, fe wnaeth cyllid Cymru ac Affrica gan CGGC helpu Shine Cymru a Sefydliad Festus Fajemilo i gefnogi pobl fel Gbemisola i wella eu hiechyd a’u rhagolygon i’r dyfodol.

Ganwyd Gbemisola gyda Spina Biffida a oedd yn peri iddi ddioddef problemau ymatal. O ganlyniad, bu’n rhaid iddi wynebu stigma difrifol a chael ei gwatwar gan ei chyfoedion.

Ar ôl dechrau ar ‘Achub Bywydau’ Gwella’r Dyfodol!’ y Sefydliad, dysgodd i reoli ei phroblemau ymataliaeth yn well, a magodd yr hyder o’r diwedd i wneud ffrindiau newydd a hyd yn oed fynd i’r brifysgol, gyda’r bwriad o ddod yn eiriolwr hawliau anabledd.

RHAGOR O WYBODAETH

Gallwch weld yr astudiaeth achos lawn ac eraill yn ein Hadroddiad Blynyddol 2022/23.

Am ragor o wybodaeth am effaith CGGC ewch i’n tudalen effaith.

Diolch i’n holl aelodau a phartneriaid sydd wedi gweithio gyda ni yn 2022/23, i wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 10/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Gwobrau Elusennau Cymru 2024 – Cyhoeddi’r teilyngwyr

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Sut i gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 03/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Swyddi Wag – Ymunwch â thîm cyllid CGGC

Darllen mwy