Kids planting trees with volunteers in park

Cysylltu gweithredu cymunedol, lleol a chenedlaethol er mwyn creu dyfodol gwell

Cyhoeddwyd : 21/07/21 | Categorïau: Dylanwadu |

Yn wyneb Covid-19, daeth pobl a chymunedau i’r adwy gyda syniadau a dulliau newydd er mwyn cyflawni pethau.

Mae rhaglen weithredu ymarferol wedi cael ei lansio i archwilio sut gall gweithredu o dan arweiniad y gymuned helpu i adeiladu dyfodol tecach, gwyrddach a iachach. Bydd yn dysgu gan grwpiau amrywiol o bobl, sefydliadau a phartneriaethau sydd â syniadau am sut i greu newid yn eu cymunedau.

Mae Canlyniadau Pŵer Pobl yn gweithio gyda CGGC a phartneriaid cenedlaethol yn y sector gwirfoddol, llywodraeth leol a chynghorau tref a chymuned i ddarparu’r rhaglen drawsnewid yma sy’n canolbwyntio ar adfer ar ôl Covid. Mae hwn yn gyfle i lywio strategaeth y dyfodol ac i gefnogi llunwyr polisi i fewnosod gweithredu gwirfoddol a chymunedol yng ngwaith llywodraeth leol a chenedlaethol. Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r hyn a ddysgir fel sail ar gyfer strategaeth yn y dyfodol ac i gefnogi llunwyr polisi i fewnosod gweithredu gwirfoddol a chymunedol yng ngwaith llywodraeth leol.

Bydd tri thîm lleol wrth wraidd y rhaglen. Mae pob un yn cynnwys grwpiau cymunedol a phartneriaethau traws-sector sydd â syniadau, gweithgareddau neu ddulliau amrywiol a chynhwysol i’w profi. Byddan nhw’n arloesi’n gyflym ac yn gweithio ar draws ffiniau er mwyn dysgu.

Mae Credu: Cysylltu Gofalwyr ym Mhowys yn gobeithio meithrin gallu lleol ym maes gofal cymdeithasol, deall beth sy’n bwysig i ofalwyr a’r rheini maen nhw’n gofalu amdanyn nhw, a chefnogi cyd-gynhyrchu ar gyfer yr economi gofal cymdeithasol yn Ystradgynlais, Llandrindod a’r Trallwng.

Mae Digwyddiadau Cymunedol Cwmbwrla/Circus Eruption yn Abertawe yn gweithio i wella ar y ffyrdd maen nhw wedi hwyluso gweithredu cymunedol yn ystod y pandemig, sydd wedi amlygu anghenion a chyfleoedd, cysylltiadau a syniadau newydd.

Mae Llanrhian Connected Community yw helpu arweinwyr cymunedol, gwirfoddolwyr, a thrigolion i weld pŵer cysylltiadau cadarnhaol, sylweddoli eu gwerth i’r gymuned gyfan, a chysylltu pob ymdrech i greu darlun cymunedol mwy, sy’n fwy cysylltiedig a chefnogol.

Yn seiliedig ar fethodoleg sefydledig Canlyniadau Pŵer Pobl, byddwn yn defnyddio dulliau prototeipio i gefnogi cyfres o arbrofion traws-sector ar y cyd sy’n seiliedig ar y gymuned ac yn cefnogi timau i brofi eu syniadau yn gyflym ac yna i fwydo mewn i gynlluniau tymor hwy ar gyfer cynaliadwyedd.

Bydd y rhaglen yn adeiladu ar y cynnydd a’r gydnabyddiaeth gynyddol o ymgysylltiad cymunedol yn ystod pandemig Covid-19. Bydd yn cyfrannu at waith parhaus gan CGGC a rhanddeiliaid ehangach i rymuso cymunedau. Bydd timau’n edrych ar sut mae perthnasoedd lleol yn helpu pethau da i ddigwydd, neu beidio.

Nod trosfwaol y rhaglen yw creu effaith, dysg a mewnwelediad i helpu llunwyr polisi i ddeall sut gall strategaeth genedlaethol gefnogi cymunedau i ffynnu. Yn y pen draw, bydd yn ceisio grymuso a galluogi cymunedau, ac yn archwilio beth sydd ei angen er mwyn rhoi gweithredu gwirfoddol wrth galon cymunedau lleol.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Dylanwadu | Newyddion |

Llythyr agored i’r cabinet newydd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/03/24 | Categorïau: Dylanwadu |

Awgrymiadau Mark Drakeford ar gyfer dylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth

Darllen mwy