Mae aelodau o’r Cynulliad wedi cynnal eu trafodaeth ar Gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.
Gwnaeth y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, ddechrau’r drafodaeth, drwy nodi bod ‘methiannau’ Llywodraeth y DU yn golygu na all Llywodraeth Cymru gyllidebu mwy nag un mlynedd ymlaen, ac ni all ystyried cyllidebu ar gyfer 2021 hyd nes y trafodir Cyllideb Llywodraeth y DU ar 11 Mawrth, oherwydd gallai gael ‘goblygiadau sylweddol’ ar wariant. Fodd bynnag, ychwanegodd y bydd Cynllun Gwella’r Gyllideb yn galluogi Llywodraeth Cymru i gynnwys Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn well mewn gwaith cyllidebu yn y dyfodol.
O ran y sector gwirfoddol…
Dywedodd yr aelod Plaid Cymru, Dai Lloyd, fod angen ‘trefniant ariannu cynaliadwy, hirdymor’, ac amlygodd argymhelliad y Pwyllgor Cyllid y dylid darparu cyllid ar gyfer y sector o leiaf unwaith bob tair blynedd.
Rhybuddiodd yr aelod Ceidwadol, Mark Isherwood AC, yn erbyn amddifadu’r sector o gyllid ar gyfer gwasanaethau ataliol hanfodol, a nododd nad oes cyllid statudol ar gyfer mudiadau sy’n helpu pobl awtistig a phobl sy’n galaru.
O ran yr amgylchedd…
Mae’r Gyllideb ddrafft yn cynnig pecyn cyfalaf o £140 miliwn i gefnogi uchelgeisiau ar gyfer yr amgylchedd a datgarboneiddio. Dywedodd y Gweinidog fod hwn yn rhan o ‘ddarlun ehangach’ o fentrau gan Lywodraeth Cymru ar draws adrannau’r llywodraeth.
Dywedodd yr aelod Ceidwadol, Nick Ramsay, nad yw’r gyllideb ddrafft yn cynnig unrhyw gynllun ar sut bydd y Llywodraeth yn cyflawni ei tharged o ran lleihau nwyon tŷ gwydr. Dadleuodd yr aelod Llafur, Alun Davies, nad yw’r gyllideb yn darparu digon o ddyraniadau ar gyfer y mentrau datgarboneiddio sydd eu hangen ar Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol a’r argyfwng hinsawdd, a galwodd am fwy o radicaliaeth gan y Llywodraeth.
O ran Brexit…
Dywedodd yr aelod Plaid Cymru, Llyr Gruffydd, er y bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno rhywbeth yn lle cronfeydd strwythurol yr UE, nid ydynt wedi gofyn am sicrwydd tebyg ynghylch cymorth amaethyddol. Galwodd ar Lywodraeth Cymru i wneud hyn.
O ran tlodi…
Dywedodd Llyr Gruffydd fod y Pwyllgor Cyllid yn croesawu’r ffaith bod tlodi’n cael ei gynnwys ym mlaenoriaethau’r gyllideb, ond nid oedd yn hoffi’r diffyg eglurder o ran mynd i’r afael â’r pethau sydd wrth wraidd tlodi. Dywedodd fod swyddi sgiliau isel a swyddi cyflog isel yn golygu bod angen datblygu sgiliau. Dywedodd yr aelod Plaid, Rhun ap Iorwerth, nad yw’r gyllideb yn cynnwys gwariant ataliol ar drawsnewid. Dywedodd fod y berthynas rhwng anhwylderau a thlodi’n gryf, ond nid yw’r gyllideb yn ceisio cyflwyno newidiadau uchelgeisiol i fynd i’r afael â hyn.
O ran iechyd…
Gwnaeth Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, yr aelod Plaid Dai Lloyd, amlygu’r sylwadau a gafodd eu gwneud gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, a fynegodd bryder nad yw Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi digon mewn gwariant iechyd ataliol yn y gyllideb ddrafft. Galwodd ar Lywodraeth Cymru i wneud yn well mewn cyllidebau yn y dyfodol.
O ran trafnidiaeth…
Dywedodd Nick Ramsay, er bod y gyllideb yn amlinellu £20 miliwn arall ar gyfer metro Gogledd Cymru, nid oes unrhyw sôn am welliannau i’r A55. Nododd eu bod wedi ‘colli cyfle’, oherwydd bydd angen i’r ffordd gefnogi allforion drwy Gaergybi i Iwerddon.
O ran y llywodraeth leol…
Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn credu y bydd angen cynnydd o £215 miliwn ar gynghorau yng Nghymru i wneud dim ond ‘sefyll yn eu hunfan’. Dywedodd fod angen i’r llywodraeth leol gael cyllid priodol os yw’n mynd i chwarae ei rhan lawn yn yr agenda ataliol. Dywedodd Mark Reckless o Blaid Brexit fod angen newid strwythurol drwy uno cwmnïau i wella effeithlonrwydd awdurdodau lleol, a gallai hyn eu galluogi i gynyddu’r gwariant ar iechyd.
O ran y Gymraeg…
Dywedodd Rhun ap Iorwerth na all y miliwn o siaradwyr Cymraeg gyd-fynd â gostyngiad termau real o £400,000 mewn gwariant ar y Gymraeg. Dywedodd na ddylid lleihau’r gyllideb ar gyfer Cymraeg i oedolion.
O ran tai…
Dywedodd Mark Isherwood fod y setliad ar gyfer y Grant Cymorth Tai yn ostyngiad termau real sydd wedi’i feirniadu’n llym gan Cymorth Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru a Cymorth i Ferched Cymru. Dywedodd pan fydd hyn yn cael ei gyfuno â dull dosbarthu Llywodraeth Cymru, bydd gwasanaethau digartrefedd yn cyrraedd pwynt tyngedfennol, gan arwain at fwy o bwysau ar y GIG, a bydd hyn yn arbennig o ddrwg yng Ngogledd Cymru. Gwnaeth yr aelod Llafur, John Griffiths, amlygu prif argymhelliad adroddiad craffu ar gyllideb y Pwyllgor Cydraddoldeb: cynnydd yn y dyraniad o gyllid ar gyfer y Grant Cymorth Tai a’r llinell gyllidebol ar gyfer atal digartrefedd. Dywedodd, er bod Llywodraeth Cymru’n honni bod trechu digartrefedd yn flaenoriaeth, nid yw hyn yn cael ei adlewyrchu yn y Gyllideb ddrafft.
O ran plant a phobl ifanc…
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Plant, yr aelod Llafur Lynne Neagle, y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant ar y gyllideb ddrafft. Croesawodd y setliad uwch i’r llywodraeth leol, a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i wario mwy ar ysgolion, ond amlygodd argymhelliad adroddiad craffu’r Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru fonitro gwariant y llywodraeth leol yn agos i sicrhau bod cyllid digonol yn cael ei gyfeirio at ysgolion.
Gwnaeth y Gweinidog amlygu’r £10 miliwn sydd wedi’i ddyrannu i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r cwricwlwm newydd, a’r £15 miliwn sydd wedi’i ddyrannu ar gyfer dysgu proffesiynol i athrawon, fel enghreifftiau o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn cael ei ariannu’n briodol er mwyn bod yn llwyddiannus.