Menyw yn rhoi 'thumbs up' i gyfarfod arlein

Cynnwys gwirfoddolwyr yng Nghymru? Ydych chi wedi’ch cysylltu?

Cyhoeddwyd : 07/06/21 | Categorïau: Gwirfoddoli | Newyddion |

Mae ein tîm gwirfoddoli yn egluro mwy am y rhwydweithiau gwirfoddoli yng Nghymru, y buddion o gymryd rhan a sut i ymuno.

Yr Wythnos Gwirfoddolwyr hon, wrth i ni ddathlu’r miloedd o wirfoddolwyr sy’n cyfrannu at ein cymunedau a’n hamgylcheddau yng Nghymru, rydyn ni hefyd eisiau cydnabod sut mae bod yn gysylltiedig o fudd iddyn nhw.

Cefnogi Trydydd Sector Cymru yw’r rhwydwaith o fudiadau cymorth ar gyfer holl sector gwirfoddol Cymru. Mae’n cynnwys CGGC a’r 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol lleol a rhanbarthol (CVCs). Mae hefyd nifer o rwydweithiau ar gyfer unigolion a mudiadau yn y maes gwirfoddoli a rheoli gwirfoddolwyr.

Ceir Rhwydwaith Gwirfoddoli Cymru (VWN), sef rhwydwaith ar gyfer arweinwyr strategol cenedlaethol a rhanbarthol o fudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr neu’n hyrwyddo gwirfoddoli yng Nghymru. Nod y rhwydwaith hwn yw bod yn llais cryf, cydweithredol i ddylanwadu ar bolisïau a gwella arferion mewn gwirfoddoli a rheoli gwirfoddolwyr. Hwn hefyd yw’r rhwydwaith cynrychiadol ar gyfer gwirfoddoli, sy’n cyfrannu at Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (TSPC) – y lle i gysylltu’r sector gwirfoddol â Llywodraeth Cymru.

Mae is-grŵp Rhwydwaith Ieuenctid Gwirfoddoli Cymru (VWYN) yn rhan o rwydwaith VWN. Nod hwn yw hyrwyddo ac eirioli ar gyfer llais ieuenctid a materion sy’n ymwneud â phobl ifanc. Y nod yw iddyn nhw gael eu hystyried mewn trafodaethau a phenderfyniadau sy’n ymwneud â pholisïau ac arferion gwirfoddoli eang a phenodol. Mae’r rhwydwaith hwn yn croesawu gwirfoddolwyr a staff sy’n gweithio gyda gwirfoddolwyr ifanc a’r rheini â dylanwad strategol.

I staff neu wirfoddolwyr mwy lleol neu ranbarthol, mae llawer o’r CVCs yng Nghymru yn cynnal Fforymau Rheoli Gwirfoddolwyr lleol, sy’n ymgynnull i rannu mewnwelediadau lleol a dysgu ac i fwydo i mewn i’r rhwydweithiau uchod drwy gynrychiolwyr CVC.

BUDDION YMUNO Â RHWYDWAITH GWIRFODDOLI

Trwy ymuno ag un o’r rhwydweithiau hyn yng Nghymru, byddwch chi’n cael:

  • Cyfle i ddylanwadu ar ddatblygiadau polisi ac arferion mewn gwirfoddoli yn eich ardal neu ranbarth chi, neu yng Nghymru (a thu hwnt).
  • Mynediad at rwydwaith o arbenigwyr gwirfoddoli.
  • Cyfleoedd i gydweithio a rhannu dysgu trwy gyfarfodydd rhwydwaith a mynediad at fforwm ar-lein ar gyfer aelodau rhwydwaith cenedlaethol.
  • Cyfle i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd gwirfoddoli cenedlaethol a/neu leol.
  • Cyfathrebiadau perthnasol, rheolaidd ynghylch hyfforddiant, digwyddiadau, cyllid ac arferion da.

BETH FYDD YN DDISGWYLIEDIG OHONOCH

Nod pob un o’n rhwydweithiau yw cyflwyno buddion i bawb. Fel aelod rhwydwaith, byddem yn eich annog i:

  • Fynychu cyfarfodydd rhithiol a/neu wyneb yn wyneb yn rheolaidd er mwyn i chi gael y diweddaraf ar weithgarwch y rhwydwaith.
  • Rhannu eich profiadau, dysgu a’ch heriau fel y gallwch helpu aelodau eraill o’r rhwydwaith. Gellir rhannu’r wybodaeth hon mewn cyfarfodydd rhwydwaith, trwy fannau fforwm ar-lein neu drwy ddulliau cyfathrebu eraill, fel straeon newyddion da, blogiau, gwaith ymchwil neu adroddiadau.
  • Ymuno ag is-grwpiau a gweithgorau ar bynciau sydd o ddiddordeb i chi.
  • Croesawu a chefnogi eich cyd-aelodau rhwydwaith.

CYSYLLTWCH NAWR

Os ydych chi’n arweinydd strategol mewn mudiad cenedlaethol neu ranbarthol yng Nghymru sy’n cynnwys gwirfoddolwyr, gallech ymuno â Rhwydwaith Gwirfoddoli Cymru.

Os ydych chi’n arweinydd strategol neu weithredol sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli i ymgysylltu â gwirfoddolwyr ifanc, gallech ymuno â Rhwydwaith Ieuenctid Gwirfoddoli Cymru.

I ymuno ag unrhyw un o’r rhain, cysylltwch â Felicitie Walls, Rheolwr Gwirfoddoli am ragor o wybodaeth yn fwalls@wcva.cymru (bydd ein cylch nesaf o rwydweithiau gwirfoddoli yn cael ei gynnal yr haf hwn – cysylltwch â ni’n fuan i ymuno â ni!)

Os ydych chi’n aelod staff neu’n wirfoddolwr lleol neu ranbarthol sy’n ceisio cysylltu’n lleol – ymunwch â’n Fforwm Rheoli Gwirfoddolwyr lleol trwy gysylltu â’ch CVC lleol. Gellir dod o hyd i’r rhestr lawn o CVCs yng Nghymru yma.

Dewch i ni wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 02/08/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 12/07/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Rôl gwirfoddoli mewn cartrefi gofal yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy