Ar y dudalen hon byddwch chi’n dod o hyd i wybodaeth am gynlluniau y mae Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru wedi’u rhedeg yn y gorffennol.

Methu dod o hyd iddynt? Cysylltwch â ni.

  • Gwnaeth y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni helpu mudiadau gwirfoddol i wella effeithlonrwydd ynni eu heiddo drwy gynnig cyngor, cyllid ac arbenigedd.
  • Roedd y Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol  yn gymysgedd o grantiau a chymorth ad-daladwy oedd wedi’i dylunio i alluogi busnesau cymdeithasol yng Nghymru i dyfu a chreu cyfleoedd gwaith.  Cafodd y Gronfa ei chyllido’ rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru.
  • Roedd y Gronfa Datblygu Asedau Cymunedol  yn cynorthwyo busnesau cymdeithasol oedd eisiau dod ag ased, fel llyfrgell, tafarn neu neuadd gymunedol o dan berchnogaeth y gymuned.
  • Roedd y Grant Dechrau Busnes Carbon Sero Net yn cynnig cymorth ariannol i egin fusnesau cymdeithasol yng Nghymru ddechrau masnachu neu fuddsoddi, ynghyd â chymorth technegol i ymwreiddio arferion sy’n ystyriol o’r hinsawdd.

CYSYLLTU Â NI

Os oes diddordeb gennych chi, cysylltwch â ni am sgwrs gychwynnol drwy ffonio 0300 111 0124 neu e-bostio buddsoddiadcymdeithasolcymru@wcva.cymru.