Pobl yn cerdded drwy'r tollau heibio i arwydd gwladolion yr UE

Cynllun Preswylio i Ddinasyddion yr UE – llai na 30 dydd i ymgeisio

Cyhoeddwyd : 14/06/21 | Categorïau: Dylanwadu |

Mae dyddiad cau gwneud cais ar gyfer Cynllun Preswylio i Ddinasyddion yr UE (EUSS) yn gyflym dod i ben. Bydd angen i ddinasyddion yr UE, AEE a’r Swistir (ac aelodau eu teuluoedd sy’n gymwys) a gyrhaeddodd y DU cyn Rhagfyr 31, 2020, ymgeisio am yr EUSS erbyn Mehefin 30, 2021 os ydyn nhw am barhau i aros yn y DU tu hwnt i’r dyddiad hwnnw.

Gall y sawl sydd wedi byw yn barhaus yn y DU am 5 mlynedd, ar adeg gwneud cais, ymgeisio am statws preswyl sefydlog, tra bod y sawl sydd heb fyw yn barhaus yn y DU ers 5 mlynedd yn gymwys i ymgeisio am statws cyn-sefydlog.

Yn ôl yr ystadegau, diweddaraf gorffennwyd trin ychydig yn llai na 5 miliwn (4,977,740) o ymgeisiadau hyd at Fawrth 31, 2021. Allan o’r rhain , cafodd 53% statws preswyl , rhoddwyd statws cyn sefydlog i 44% ac fe gafodd 3% o geisiadau eu gwrthod, eu tynnu yn ôl neu eu barnu’n ddi-rym neu annilys.

CEFNOGI GWLADOLION YR UE

Mae grŵp o sefydliadau yng Nghymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Gartref, wedi bod yn gweithio’n galed ers i’r cynllun ddechrau, er mwyn cefnogi pobl gyda’u ceisiadau EUSS. Yn ogystal â hynny, maen nhw’n estyn allan i gymunedau er mwyn eu gwneud yn ymwybodol o’r cynllun. Mae pandemig Covid-19 wedi gosod nifer o heriau i’r sawl sydd angen ymgeisio yn ogystal â chefnogi’r sefydliadau hynny y bu gorfu iddyn nhw gyfyngu eu gweithgarwch o ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19.

Er mai Mehefin 30, 2021, yw’r prif ddyddiad cau ar gyfer ymgeisio, bydd gan bobl sydd a chanddynt resymau dilys dros wneud cais yn hwyr, y cyfle i wneud hynny ar ôl y dyddiad hwnnw. Bydd y cynllun hefyd yn parhau i fod yn agored i’r sawl a gafodd statws cyn-sefydlog, fydd yn gorfod ymgeisio i’r EUSS unwaith eu bod wedi byw am 5 mlynedd yn barhaus yn y DU, er mwyn uwchraddio i gael statws sefydlog.

OS wyddoch chi am rywun a all fod angen ymgeisio i’r cynllun ac sydd heb wneud eu cais eto, byddwch cystal â’u cyfeirio nhw at y cymorth am ddim a gynigir gan Ddarparwyr Cymorth a Chefnogaeth yr EUSS, a fydd yn rhedeg dau weminar ar y cyd am y cynllun ar 16 Mehefin ac ar 24 Mehefin, rhwng 1 pm a 2 pm. Mae rhagor o fanylion am y sesiynau gwybodaeth ar gael yma.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/03/24 | Categorïau: Dylanwadu |

Awgrymiadau Mark Drakeford ar gyfer dylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 16/02/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwybodaeth a chymorth |

Cynllun gweithlu yn chwilio am fewnwelediad i rôl gwirfoddolwyr mewn lleoliadau iechyd meddwl

Darllen mwy