Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ei chynllun i wella ansawdd aer Cymru.
Mae’r cynllun, Awyr Iach, Cymru Iach, wedi’i gyhoeddi yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar y pwnc ar ddiwedd 2019. Ei nod yw lleihau llygredd aer a risgiau iechyd, a mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau sy’n gallu cael effaith anghymesur ar bobl a chymunedau penodol, gan effeithio ar eu hiechyd. Mae hefyd yn ceisio cefnogi bioamrywiaeth ac amaethyddiaeth, lleihau allyriadau a chreu lleoedd cynaliadwy i fyw.
Mae’r mesurau arfaethedig yn cynnwys:
- Buddsoddi mewn seilwaith teithio llesol, yn unol â’r Ddeddf Teithio Llesol.
- Gwell gwasanaethau trên.
- Cynorthwyo pobl i leihau allyriadau cerbydau personol.
- Datblygu Fframwaith Monitro Llygredd Aer.
- Plannu mwy o gloddiau a choed gwell ochr yn ochr â’r gwaith o ehangu coetiroedd.
- Cryfhau’r rheolaeth o allyriadau mewn byd amaeth.
- Cyflenwi cyfathrebiadau newid ymddygiad gwell a chynhyrchu canllawiau statudol newydd i helpu i ddiogelu gweithluoedd rhag llygredd aer.
- Cynigion ar gyfer Deddf Aer Glân i Gymru
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog dros yr Amgylchedd: ‘Er y bydd y Cynllun Aer Glân yn gofyn i bob un ohonom chwarae ein rhan i fynd i’r afael ag ansawdd aer gwael, mae’r camau y mae pobl Cymru wedi’u cymryd yn ddiweddar [yn ystod argyfwng Covid-19] yn dangos yr hyn y gallwn ei wneud wrth ddod at ein gilydd er mwyn amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed.’
Dywedodd Joseph Carter, Cadeirydd Awyr Iach Cymru: ‘Ar ôl bod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu’r cynllun hwn, rydym yn hynod falch o’r hyn sydd wedi’i greu. Mae’r cynnig uchelgeisiol hwn yn cynnig y cyfle i weddnewid ein gwlad a chreu Cymru wyrddach ac iachach.
‘Fodd bynnag, ni ellir cyflawni’r cynllun hwn dros nos a bydd angen cefnogaeth gan bawb ledled Cymru. Nawr yw’r amser i roi blaenoriaeth i’r mater hwn – mae hyn yn fater o gyflawni dros bobl a chymunedau ledled Cymru.
‘Mae gennym ni i gyd waith i’w wneud o ran gwella ansawdd aer ledled Cymru. Trwy gydweithio, gallwn ddatblygu pethau ymhellach a chydweithio i gyflawni ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.’