Mae menyw ifanc a gyflogir gan Hope Rescue trwy Kickstart yn chwerthin wrth iddi stocio'r rheiliau yn eu siop elusen

Cynllun Kickstart yn agor drysau i bobl ifanc

Cyhoeddwyd : 31/08/22 | Categorïau: Newyddion |

Mae Cynllun Kickstart CGGC wedi dod i ben, gyda mwy na 230 o bobl ifanc wedi’u recriwtio gan fudiadau gwirfoddol ar hyd a lled Cymru. Yma, edrychwn yn ôl ar rai o lwyddiannau’r cynllun.

Menter gan Lywodraeth y DU oedd Cynllun Kickstart a oedd â’r nod o helpu pobl ifanc i mewn i waith. Gyda lleoliadau gwaith chwe mis o hyd wedi’u cyllido’n llawn i bobl ifanc ar Gredyd Cynhwysol, roedd y cynllun nid yn unig yn cynnig cyflogaeth dyngedfennol, ond hefyd yn rhoi’r cyfle i fudiadau gwirfoddol gynyddu eu capasiti mewn cyfnod o angen.

Roedd CGGC yn gorff ‘mynediad’ i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru – yn cynorthwyo mudiadau gwirfoddol nad oedd yn ddigon mawr i fod yn gymwys i’r cynllun i ymgeisio fesul batsh.

Dros y ddwy flynedd y cafodd y cynllun ei redeg, gwnaethon ni helpu 60 o fudiadau i recriwtio mwy na 230 o bobl ifanc ar gyfer rolau amrywiol a diddorol ar draws y sector gwirfoddol.

HELP LLAW YN YR ARDD GROG

‘Mae’r Cynllun Kickstart wedi bod yn drobwynt go iawn yn natblygiad ein prosiect,’ meddai Luc-Antoine, Rheolwr Prosiect y prosiect Ardd Grog yn Llanidloes.

‘Mae nid yn unig wedi ein galluogi i recriwtio staff…ond mae hefyd wedi ein galluogi i ymgysylltu â phobl ifanc, i roi cyfle iddyn nhw gymryd rhan yn lleol, i ddatblygu eu syniadau ac i ddysgu sgiliau a galluoedd newydd.’

Prosiect cymunedol yw’r Ardd Grog a agorodd yn Llanidloes prin flwyddyn yn ôl. Gwnaethant recriwtio pum unigolyn ifanc drwy gynllun Kickstart, gyda rhai yn gweithio yn eu canolfan a chaffi cymunedol a rhai yn y gerddi eu hunain.

Gwnaeth y capasiti ychwanegol hwn hefyd eu helpu i wella eu presenoldeb ar rwydweithiau cymdeithasol, gan ganiatáu iddynt ymhél â grwpiau newydd yn eu cymuned a datblygu gweithgareddau newydd.

Mae Samantha, ‘Kickstarter’ blaenorol o’r Ardd Grog, wedi elwa’n fawr ar y profiad. ‘Rwyf wedi ennill llawer o sgiliau newydd sydd wedi fy ysbrydoli’n fawr ac wedi fy helpu i weithio at fy nodau gyrfaol …Rwy’n ddiolchgar tu hwnt o fod wedi cael y cyfle i chwilio a darganfod llwybrau gwaith newydd.

‘Mae’r cyfleoedd hyfforddi a rhwydweithio a gefais (a’r lefel o gyfrifoldeb a roddwyd i mi) wedi fy ngwthio i fod yn fwy hyderus ac wedi agor drysau newydd i mi.’

HWB I BGFM

Mudiad arall a gafodd fudd o gyllid Kickstart oedd gorsaf radio gymunedol BGfm. Roedd ganddyn nhw amrywiaeth o swyddi gwag yn codi ac ni allent fforddio eu llenwi â staff cyflogedig.

‘Mae cynllun Kickstart wedi bod yn gyfle gwych i bobl o dan 25 oed gael profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae wedi gwella eu gwybodaeth ac wedi amlygu sgiliau a galluoedd na wyddent oedd ganddyn nhw,’ meddai Steve, Cyfarwyddwr BGfm.

Gwnaeth agwedd Ellie, ‘Kickstarter’ arall, at fywyd newid yn ddramatig diolch i’r cynllun. ‘Rwyf wedi datblygu lefel newydd o hyder; mae fy iechyd meddwl wedi gwella’n fawr ac rwy’n teimlo bod bywyd yn werth ei fyw.’

Gwnaeth K-cee hefyd ymuno drwy’r cynllun dros y pandemig. ‘Rwy’n credu bod y cynllun Kickstart yn wych, achos roeddwn i’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i waith oherwydd fy niffyg profiad mewn amgylchedd gwaith.

‘Mae’r cynllun wedi caniatáu i mi gael y profiad hwn ac wedi fy mharatoi ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol, gan hefyd ddatblygu fy ngwybodaeth am sgiliau.’

Darllenwch ragor am sut mae cynllun Kickstart wedi helpu mudiadau gwirfoddol yng Nghymru gan fuddiolwyr Cynon Valley Organic Adventures a Hope Rescue.

Mae cynllun Kickstart wedi cau bellach, ond edrychwch ar y ffrydiau cyllido eraill sydd ar gael gennym ni.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Codi Arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy