Bydd CGGC yn cynorthwyo mudiadau gwirfoddol na allant fel arall fod yn ddigon mawr i fod yn gymwys i gael mynediad at Gynllun ‘Kickstart’ Llywodraeth y DU, sy’n darparu swyddi â chymhorthdal llawn ar gyfer pobl ifanc ledled y DU.
DIWEDDARIAD – BYDD Y CYNLLUN YN DARPARU TALIADAU CYFLOG I GYFLOGWYR YN FISOL
Ar ôl llawer o adborth mae’r Adran Gwaith a Phensiynau newydd gadarnhau y bydd taliadau cyflog cyflogwyr yn cael eu gwneud yn fisol. Bydd cyflogwyr yn derbyn taliad ar gyfer mis un yn wythnos chwech y lleoliad, ac bob mis ar ôl hyn, yn dilyn cadarnhad gan Gyllid a Thollau EM bod y cyflog wedi’i dalu i’r gweithiwr.
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi lansio’r Cynllun ‘Kickstart’ (Saesneg yn unig) er mwyn darparu cyllid i gyflogwyr greu lleoliadau swydd newydd chwe mis o hyd ar gyfer pobl ifanc rhwng 16-24 oed.
Mae’r cynllun ar agor i fudiadau mawr sy’n creu 30 o swyddi neu fwy yn unig, ond bydd CGGC yn gwneud cais i’r cynllun ar ran mudiadau gwirfoddol Cymru sydd eisiau creu swyddi ar raddfa lai.
Gall mudiadau gwirfoddol yng Nghymru wneud cais nawr drwy CGGC os gallant gyflogi aelodau newydd o staff rhwng 16-24 oed sy’n derbyn Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd ac sy’n wynebu’r risg o ddiweithdra hirdymor. Rhaid i’r lleoliadau swydd fod yn chwe mis o hyd ac yn o leiaf 25 awr yr wythnos.
Ar gyfer pob rôl a gaiff ei chreu, bydd yr arian yn talu am:
- 100% o’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol am 25 awr yr wythnos
- Cyfraniadau Yswiriant Gwladol cysylltiedig y cyflogwr
- Cyfraniadau cofrestru awtomatig lleiaf y cyflogwr
Bydd cyllid ychwanegol hefyd i gynorthwyo pobl ifanc i fagu profiad a’u helpu i symud i gyflogaeth barhaol ar ôl iddyn nhw gwblhau’r swyddi a gyllidwyd gan y Cynllun ‘Kickstart’.
SUT I WNEUD CAIS
I gyflwyno cais am gyllid, bydd angen i chi gofrestru gyda Phorth Ymgeisio Amlbwrpas CGGC (MAP). Os ydych chi wedi cofrestru gyda MAP o’r blaen, gallwch chi fewngofnodi drwy nodi eich enw defnyddiwr a chyfrinair ar y sgrin hafan.
Gall mudiadau gofrestru ar MAP drwy fynd i’r wefan map.wcva.cymru. Os oes angen help arnoch i gofrestru, edrychwch ar y fideo hwn.
Unwaith y byddwch chi wedi cofrestru, gallwch chi lenwi’r ffurflen gais ar gyfer y Cynllun ‘Kickstart’ sydd ar gael drwy MAP.
SUT A PHRYD FYDD CYLLID YN CAEL EI DDYRANNU?
Mae’r DWP yn disgwyl y bydd y lleoliadau cyntaf yn debygol o fod ar gael o fis Tachwedd ymlaen ar gyfer mudiadau mwy o faint sy’n gwneud cais uniongyrchol.
I’r rheini sy’n gwneud cais drwy CGGC, dyma fydd y broses:
- Grwpiau yn gwneud cais ar gyfer y cynllun drwy MAP CGGC
- CGGC yn gwirio cymhwysedd y ceisiadau
- Unwaith y bydd gan CGGC bentwr o ryw 30 o rolau swydd cymwys o leiaf, byddant yn cael eu cyflwyno i’r DWP ar ran yr ymgeiswyr
- DWP yn cynnal ei gwiriadau ei hun ac yn hysbysu CGGC ynghylch y rhai a gymeradwywyd
- Os yn llwyddiannus, bydd CGGC yn dosbarthu’r cyllid i’r ymgeiswyr i greu eu swyddi
Mae’r ceisiadau drwy CGGC ar gael i fudiadau gwirfoddol yn unig (ee elusennau, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol, grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol neu grwpiau nid-er-elw eraill) sy’n gweithredu yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â kickstart@wcva.cymru.