Mae arolwg newydd yn ceisio diffinio cyfraniad gwirfoddolwyr at wasanaethau iechyd meddwl er mwyn helpu i lywio’r gwaith o gynllunio gweithlu.
IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Gofal Cymdeithasol Cymru yn datblygu Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Ei nod yw datblygu sgiliau a gallu ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn cynyddu’r cymorth i’r rheini mewn angen. r mwyn llywio’r gwaith o gynllunio’r gweithlu yn well, nod yr arolwg yw esbonio’r rôl y mae gwirfoddolwyr yn ei chwarae mewn gofal iechyd meddwl.
RÔL GWIRFODDOLWYR
Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan bwysig ar draws y continwwm o wasanaethau iechyd meddwl, ond gall fod yn anodd mesur eu heffaith. Bydd yr wybodaeth a gesglir yn yr arolwg hwn yn galluogi dealltwriaeth well o gyfraniad gwirfoddolwyr ac yn adeiladu ar ffrydiau gwaith eraill sy’n cael eu datblygu fel rhan o’r strategaeth weithlu hon.
Mae Sgiliau Iechyd wedi’u comisiynu gan AaGIC i edrych ar rôl gwirfoddolwyr o fewn y sector, i gasglu mewnwelediadau ar y rolau hyn a helpu i fynd i’r afael â bylchau er mwyn gweld sut mae adnoddau a sefydlir drwy’r Cynllun Gweithlu yn cael eu cynnig i’r sector gwirfoddol ac i’r gwirfoddolwyr eu hunain.
Bydd AaGIC a Sgiliau Iechyd yn:
- Codi proffil mudiadau’r sector gwirfoddol sy’n gweithio mewn lleoliad iechyd meddwl.
- Cydnabod a dathlu’r rheini sydd wedi cael effaith enfawr drwy wirfoddoli a darparu gwasanaethau gwirfoddoli ochr yn ochr â’r gweithlu iechyd meddwl.
- Annog gwaith partneriaeth agosach rhwng y sector gwirfoddol a’r sector cyhoeddus.
- Deall y bylchau presennol a’r bylchau a fydd yn y dyfodol mewn sgiliau a gwybodaeth, er mwyn helpu i lywio rolau, gyrfaoedd a llwybrau hyfforddiant i ddiwallu’r anghenion hynny.
Mae Sgiliau Iechyd yn gobeithio y bydd yr arolwg yn cyrraedd ystod eang o fudiadau ac unigolion sy’n gweithio mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn y sector gwirfoddol.
DYDDIAD CAU
Bydd yr arolwg yn cau ar ddydd Gwener 1 Mawrth 2024.