Mae dynion mewn hetiau caled yn archwilio maes o baneli solar

Cynllun Effeithlonrwydd Ynni – Grantiau gosod ar agor nawr

Cyhoeddwyd : 12/01/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae grantiau gosod ar gael nawr i gyllido gwelliannau i effeithlonrwydd ynni eiddo sy’n berchen i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru.

YNGLŶN Â’R CYNLLUN

Mae’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni yn helpu mudiadau gwirfoddol i wella effeithlonrwydd ynni eu heiddo drwy ddarparu cyngor, cyllid ac arbenigedd.

Mae’r cynllun yn darparu:

  • Grantiau o hyd at £1,000 tuag at arolwg ynni yn eich eiddo
  • Grantiau o hyd at £25,000 tuag at uchafswm o 80% o’r gost o ymgymryd â’r gwaith a nodir
  • Benthyciadau i dalu am unrhyw gostau gosod sydd ar ôl
  • Cysylltiadau â mudiadau sydd eisoes yn gweithio’n agos gyda’r sector gwirfoddol ac sy’n gallu cynnal arolygon, rhoi cyngor a gosod

GRANTIAU GOSOD

Gan ddefnyddio’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys o fewn arolwg effeithlonrwydd ynni priodol* (waeth a yw wedi’i gyllido gan ein grant neu beidio), gallwch wneud cais am grant o hyd at £25,000 i dalu am uchafswm o 80% o’r gost o wneud y gwaith a nodwyd yn yr arolwg, gan gynnwys TAW na ellir ei hadennill.

Mae gennym ni gyllid ar gyfer hyd at ddeg grant drwy gefnogaeth y Moondance Foundation (gwefan Saesneg yn unig), a Chynllun Grantiau Bach Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru sy’n cynnig cymorth ychwanegol.

*I ddysgu mwy am ofynion yr arolwg a’n grantiau arolwg, ewch i’n tudalen Cynllun Effeithlonrwydd Ynni.

YDYCH CHI’N GYMWYS?

I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn rhaid i’ch mudiad fod:

  • Wedi’i gyfansoddi’n briodol gyda strwythur llywodraethu cydnabyddedig
  • Yn berchen ar ei eiddo rhydd-ddaliadol ei hun neu â lesddaliad hir (o leiaf 25 mlynedd)
  • Â bil ynni blynyddol o £10,000 y flwyddyn o leiaf
  • Yng Nghymru

AMSERLENNI

  • Canol Rhagfyr 2023 – Panel asesu cyntaf yn cyfarfod am grantiau arolwg
  • Canol Rhagfyr 2023 – Ymgeiswyr yn cael gwahoddiad i ymgeisio am grantiau gosod
  • 12 pm, 15 Ionawr 2024 – Y dyddiad cau terfynol ar gyfer ceisiadau am grantiau arolwg, rownd 1
  • 22 Ionawr 2024 – Rownd 2 o grantiau arolwg ar agor ar gyfer ceisiadau
  • 12 Ebrill 2024 – Y dyddiad cau terfynol ar gyfer ceisiadau am grantiau gosod

I YMGEISIO

Bydd grantiau gosod yn derbyn ceisiadau hyd at 12 Ebrill 2024, 12 pm.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun a sut i wneud cais, ewch i’n tudalen Cynllun Effeithlonrwydd Ynni.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 01/11/24 | Categorïau: Cyllid | Hyfforddiant a digwyddiadau |

Ble i ganolbwyntio eich egni codi arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 28/10/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Gwnewch gais nawr am grant Gwirfoddoli Cymru!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 16/10/24 | Categorïau: Cyllid |

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cyhoeddi newidiadau i’w brif gynllun ariannu

Darllen mwy