Mae’r Holiadur Cymhwyster ar gyfer rownd newydd y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol ar gael nawr a gellir ei gyrchu trwy Borth Cais Amlbwrpas (MAP) CGGC – gallwch gyrchu MAP yma.
Bydd mudiadau ar y Rhestr Buddiolwyr Cymeradwy ar gyfer cyllid Cynhwysiant Gweithredol wedi derbyn hysbysiad gan MAP bod rownd newydd o gyllid Cynhwysiant Gweithredol bellach ar agor. Y dyddiad cau ar gyfer y rownd hon yw 9 Hydref 2020.
Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â’r tîm Cynhwysiant Gweithredol trwy activeinclusion@wcva.cymru neu dros y ffôn ar 0300 111 0124. Byddant yn hapus i’ch cynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau a allai fod gennych am eich syniadau prosiect a hefyd gyda chwestiynau am lenwi’r ffurflen gais a phroffil y prosiect.
Os yw’ch mudiad wedi bod ar yr RBC ers cryn amser ond eto i wneud cais, does dim amser gwell na nawr i gymryd y camau cyntaf tuag at wneud cais. Mae’r tîm yn barod ac yn aros i’ch tywys trwy’r camau y mae’n rhaid i chi eu cymryd i fynd i mewn i fyd cyllid Ewropeaidd.
Os yw’ch mudiad yn penderfynu gwneud cais yn y rownd hon, mae lle o hyd i gyflwyno prosiectau sy’n 18 mis o hyd, gan ganiatáu ar gyfer mwy o hyblygrwydd a blaengynllunio.
Er bod cylch penodol Covid-19 o gyllid Cynhwysiant Gweithredol bellach wedi dod i ben, mae’r tîm hefyd yn gallu cynnig cyngor ar sut y gall prosiectau ddigwydd o hyd o dan y cam presennol o gloi i lawr a’r cyfyngiadau sy’n ein hwynebu, gan gydnabod ein bod i gyd wedi gorfod addasu y ffordd yr ydym yn cynnal ein gweithgareddau o ddydd i ddydd er mwyn cefnogi cyfranogwyr a’r gymuned ehangach, a sicrhau bod pawb yn aros yn ddiogel.
Rheolir y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol gan CGGC, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru trwy arian o Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd. Ei nod yw lleihau anweithgarwch economaidd yng Nghymru a gwella cyflogadwyedd pobl ddifreintiedig.