Mae CGGC wedi gweithio gyda’n chwaer gyngor yn Lloegr, NCVO, i lansio fersiwn ddwyieithog o’r adnodd Hanfodion Elusennau.
Mae Hanfodion Elusennau yn adnodd ar-lein rhad ac am ddim sydd wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer elusennau fel ffordd o gynnal prawf iechyd syml ar berfformiad eich mudiad, gan adnabod ei gryfderau a’r meysydd i’w datblygu.
Tan yn ddiweddar, dim ond yn Saesneg y mae’r adnodd hwn wedi bod ar gael ar wefan NCVO.
O ganlyniad i’r Prosiect Elusen Ddibynadwy yng Nghymru a ariennir gan y Loteri, mae CGGC wedi gweithio gyda NCVO i greu fersiwn ddwyieithog o’r adnodd sydd bellach ar gael ar Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru.
Dywedodd Mair Rigby, y Rheolwr Llywodraethu a Diogelu, ‘Mae CGGC wrth ei fodd yn lansio fersiwn ddwyieithog o Hanfodion Elusennau mewn partneriaeth â NCVO. Bydd yn ychwanegiad gwerthfawr i’n gwefan Hwb Gwybodaeth ac yn adnodd defnyddiol i fudiadau llai i’w helpu i feddwl am ansawdd ac i feincnodi eu gweithgareddau’.
Mae’r teclyn rhad ac am ddim hwn yn meincnodi eich gwaith mewn deg maes allweddol – bydd yn helpu i asesu’r effaith a gewch ar lawr gwlad ac a ydych yn gwneud y defnydd gorau o’ch adnoddau.
Mae gan bob cwestiwn esboniad byr fel sail i’ch trafodaethau ac mae’n gofyn i chi sgorio i ba raddau mae eich grŵp neu’ch elusen yn rhoi sylw i bob cwestiwn. Pan fyddwch yn adnabod meysydd i’w datblygu, bydd gofyn i chi wedyn ddatblygu cynllun gweithredu er mwyn rhoi sylw i’r meysydd hyn.
Gellir defnyddio Hanfodion Elusennau:
- fel ffordd o gynnal ‘prawf iechyd’ syml o berfformiad eich mudiad ac i ba raddau mae’n cyflawni eich cenhadaeth.
- fel ffordd o gynnwys pawb yn eich mudiad mewn trafodaethau am eich gwaith.
- fel ffordd o gynnwys amrywiaeth o randdeiliaid pwysig yn eich gwaith.
- os ydych chi am fynd ymlaen i gyflawni safon ansawdd lawn yr Elusen Ddibynadwy yn y dyfodol.
Gallwch gael gafael ar yr adnodd drwy gofrestru ar Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Does dim rhaid talu i gofrestru.