Cymunedau Mwslimiaid Caerdydd yn ymateb i argyfwng COVID-19

Cymunedau Mwslimiaid Caerdydd yn ymateb i argyfwng COVID-19

Cyhoeddwyd : 22/05/20 | Categorïau: Gwirfoddoli |

Mae Prosiect Cymorth Coronafeirws Caerdydd wedi cofio Ramadan drwy ennyn ymateb anhygoel gan y gymuned. Mae wedi danfon 500 o barseli bwyd allan, wedi casglu dros £5,000 mewn rhoddion hael, ac mae mwy na 100 o wirfoddolwyr wedi cofrestru i helpu.

Cafodd y prosiect ei sefydlu drwy Ganolfan Diwylliannol Islamaidd Rabbaniah. Mae’n cynnwys gwirfoddolwyr lleol o ardaloedd Grangetown a Glan yr Afon sydd wedi dod ynghyd i helpu i baratoi a dosbarthu parseli. Nod creu’r parseli bwyd oedd cefnogi teuluoedd incwm isel drwy argyfwng COVID-19 yn ystod mis Ramadan.

Mae’r parseli wedi’u dosbarthu bob dydd Gwener ers 24 Ebrill, ac maen nhw’n cynnwys y prif fwydydd sylfaenol sydd eu hangen i fwydo teulu. Cafodd llaeth baban a chewynnau hefyd eu darparu ar gyfer y rheini a oedd eu hangen. Efallai bod y gymuned hon yn ymprydio dros Ramadan, ond maen nhw’n helpu i wneud yn siŵr nad yw eraill yn mynd heb fwyd.

Cafodd y prosiect ei gydlynu gan Moseem Suleman gyda chymorth ychydig o wirfoddolwyr ymroddedig. Meddai, ‘Bob wythnos, mae oddeutu 30 o wirfoddolwyr yn helpu i bacio a chludo 150 o focsys bwyd i deuluoedd mewn angen.’

Pan holwyd iddo sut mae’n derbyn yr archebion, dywedodd: ‘Gwnaethom ni greu poster sy’n cael ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol gan fudiadau eraill. Yna, mae derbynyddion posibl yn ffonio’r rhif ac yn ateb rhai cwestiynau syml er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth drwy barsel o fwydydd sylfaenol.’

Mae Ysgrifennydd Canolfan Diwylliannol Grangetown a chyn-gynghorydd Grangetown, Tariq Awan (sydd hefyd yn rhan o dîm Cynhwysiant Gweithredol CGGC) wedi bod yn helpu hefyd.

‘Fe wnes i helpu i godi proffil y prosiect drwy fy ngrwpiau Twitter a Whattsapp. Cyfranais hefyd drwy roi arian drwy’r dudalen Go Fund Me a thrwy helpu i ddosbarthu’r parseli bwyd’, meddai.

‘Mae hon yn fenter eithriadol lle ddaeth y gymuned Fwslimaidd leol at ei gilydd pan oedd eu hangen i helpu bodau dynol eraill heb unrhyw ragfarn na farn ar gredoau’r buddiolwyr. Rwy’n gobeithio ac yn gweddïo y bydd ymdrechion tîm Cymorth Coronafeirws Caerdydd yn cael eu gwerthfawrogi’n fwy, ac y bydd rhoddion yn cynyddu mewn amser.’

Oes gennych chi stori i’w hadrodd?

A yw eich mudiad chi’n mynd yr ail filltir i helpu’r rheini sydd wedi’u heffeithio gan COVID-19? Cysylltwch â ni i rannu eich stori.

Gallwch hefyd gael gwybod sut rydyn ni’n helpu i gyllido’r ymdrechion parhaus i ymladd yr argyfwng hwn drwy Gronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol, neu ewch i’n tudalen diweddariadau COVID-19 i gael y newyddion diweddaraf, adnoddau a chanllawiau.

Tariq Awan o CGGC gyda chyflenwadau bwyd mawr eu hangen yn barod i’w danfon

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Hyfforddiant a digwyddiadau

Wythnos yr Ymddiriedolwyr 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/09/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad newydd yn canfod bod gwirfoddolwyr yn lleihau’r pwysau ar staff rheng flaen y GIG

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/08/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy