Mae’r ffenestr ymgeisio ar agor o 7 Medi 2026, gan gau ar 2 Tachwedd 2026 am 5 pm.
Y cynharaf y gall weithgareddau ddechrau yw 1 Chwefror 2027 a rhaid i’r prosiectau ddod i ben erbyn 31 Mawrth 2028 fan bellaf.
Mae’r ffenestr ymgeisio ar agor o 7 Medi 2026, gan gau ar 2 Tachwedd 2026 am 5 pm.
Y cynharaf y gall weithgareddau ddechrau yw 1 Chwefror 2027 a rhaid i’r prosiectau ddod i ben erbyn 31 Mawrth 2028 fan bellaf.
Mae Cymunedau Cwtsh yn cael ei reoli gan CGGC a’i gyllido gan Comic Relief. Mae’r cynllun yn cynnig cwtshys bach o gymorth i fudiadau cymunedol yng Nghymru i’w helpu i ddiwallu anghenion brys a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Byddwn yn helpu mudiadau i dyfu eu heffaith neu wella’r gwasanaethau y maen nhw’n eu darparu i bobl leol.
Mae Comic Relief a CGGC yn sylweddoli bod newid parhaol yn dechrau’n aml ar lefel leol. Mae mudiadau cymunedol mewn sefyllfa unigryw i ddeall anghenion y bobl y maen nhw’n eu cefnogi ac i ymateb yn gyflym ac yn dosturiol i’r heriau o fewn eu cymunedau.
Trwy gronfa Cymunedau Cwtsh, mae grantiau rhwng £15,000 a £35,000 ar gael i fudiadau sy’n ceisio creu cwtshys bach o gymorth o fewn eu cymunedau. Nod y rhaglen yw cryfhau gwaith y mudiadau hynny sy’n ceisio mynd i’r afael ag un neu ragor o’r tair thema flaenoriaethol.
Mae’r cyllid dim ond i fudiadau y mae eu cenadaethau’n alinio â’r themâu canlynol. Mae’r themâu hyn yn canolbwyntio ar y pethau hanfodol sydd eu hangen ar bobl i deimlo’n ddiogel, i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u bod yn gallu ffynnu:
Mae grantiau rhwng £15,000 a £35,000 ar gael i fudiadau sydd eisiau cryfhau eu heffaith ar gymunedau drwy wasanaethau uniongyrchol ac ymyriadau go iawn.
Bydd disgwyl i brosiectau llwyddiannus ddangos effaith y grant drwy adrodd storïau a gweithgareddau cyhoeddusrwydd.
Mae mudiadau gwirfoddol ac incwm blynyddol o dan £250,000 yn gymwys i ymgeisio.
Rhaid i’ch mudiad eisoes fod yn gweithio mewn un o’r meysydd a ddisgrifir yn y tair thema flaenoriaethol uchod.
Mae’r ffenestr ymgeisio ar agor o 7 Medi 2026, gan gau ar 2 Tachwedd 2026 am 5 pm.
Y cynharaf y gall weithgareddau ddechrau yw 1 Chwefror 2027 a rhaid i’r prosiectau ddod i ben erbyn 31 Mawrth 2028 fan bellaf.
I wneud cais am Grant Cymunedau Cwtsh, bydd angen i chi gofrestru gyda Phorth Ceisiadau Amlddefnydd CGGC (MAP). Os ydych wedi cofrestru gyda MAP o’r blaen, gallwch fewngofnodi trwy roi eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar y sgrin gartref.
Gall mudiadau gofrestru drwy fynd i’r wefan map.wcva.cymru.
Os oes angen help arnoch i gofrestru ar MAP dilynwch y fideo hwn.
Diben yr arweiniad hwn yw helpu ymgeiswyr i ddeall mwy am Grant Cymunedau Cwtsh Comic Relief.
I gael mwy o gymorth, cysylltwch â’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol.
Mae’r gronfa yn canolbwyntio ar waith sy’n helpu pobl i ddiwallu eu hanghenion sylfaenol, yn hybu lles plant ifanc a theuluoedd ac sy’n creu cymunedau mwy diogel a chynhwysol.
Gallai hyn gynnwys banciau bwyd neu geginau cymunedol sy’n mynd i’r afael â newyn, prosiectau sy’n darparu hanfodion fel dillad cynnes neu eitemau hylendid, neu hybiau cymunedol sy’n cynnig cymorth mewn argyfwng.
Mae gennym hefyd ddiddordeb mewn gweithgareddau blynyddoedd cynnar fel grwpiau rhiant a phlant, sesiynau dysgu a redir gan y gymuned neu brosiectau â chymorth cymheiriaid a arweinir gan rieni â phrofiadau bywyd.
O dan ein thema diogelwch, rydym yn gobeithio cefnogi canolfannau menywod, grwpiau i ffoaduriaid a cheiswyr lloches a mannau diogel a chroesawgar i fenywod, pobl LHDTC+ a phobl eraill a allai fod mewn perygl.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech siarad â ni am eich syniad prosiect, cysylltwch â’r Tîm Grantiau ar 0300 111 0124 neu anfonwch e-bost atom yn comicreliefgrants@wcva.cymru.
Categori | Cyllid |
Categori | Cyllid |
Categori | Cyllid |
Categori | Cyllid |