Volunteers at Hive community cafe prepare meals for delivery

Cymru’n ateb yr alwad

Cyhoeddwyd : 27/04/20 | Categorïau: Gwirfoddoli |

Mae dinasyddion hael dros Gymru wedi bod yn fwy na bodlon rhoi o’u hamser i eraill – rydyn ni’n rhannu storion o staff sector gwirfoddol.

Mae ymateb y cyhoedd i’r argyfwng parhaus a achoswyd gan effeithiau Covid-19 wedi bod yn enfawr yng Nghymru o’r dechrau, ac mae staff sy’n gweithio yn y sector gwirfoddol yn awyddus i ddangos pa mor barod ydyn nhw i fynd yr ail filltir hefyd.

Mae’n berffaith amlwg yn ystod yr wythnosau diwethaf fod nifer fawr o bobl yn chwilio am y ffordd orau o helpu eu cymunedau lleol, a chyda hyn, daw dealltwriaeth gan weithwyr y sector gwirfoddol bod angen i ni hefyd ymateb i’r sefyllfa.

Rydyn ni’n gweld ymateb cymunedol ac awydd i wirfoddoli ddigyffelyb ledled y wlad, ac er mai dyna’r union beth rydyn ni ei eisiau, mae’n golygu bod angen i’r sector gwirfoddol yng Nghymru weithio’n galetach fyth i wneud yn siŵr y gallwn ddiwallu anghenion pawb.

Wrecsam yn camu ymlaen

Gwelodd Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW) ymateb enfawr i’w galwad am wirfoddolwyr, gyda mwy na 350 o bobl yn cael eu gosod mewn cyfleoedd gwirfoddoli o amgylch ardal Wrecsam i gefnogi staff sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen yn yr ardal. Fel y dywedodd John Gallanders, Prif Swyddog AVOW ‘heb eu help nhw, byddai pobl agored i niwed wedi wynebu, ac yn parhau i wynebu wythnosau llawer mwy ansicr.’

Gwnaeth AVOW hefyd roi cynllun ar waith, mewn cydweithrediad â’r Cynghorydd Phil Wynn a Dr Graham Sperey-Taylor, i ddefnyddio argraffwyr 3D yn Ysgol Clywedog yn Wrecsam i greu mwy na 1,000 o feisorau ar gyfer gweithwyr iechyd rheng flaen, a’u dosbarthu ledled Gogledd Cymru. Mae ymdrechion codi arian i sicrhau’r cynhyrchiad wedi gweld dros £13,000 yn cael ei godi hyd yma gan roddion anhygoel o hael gan y cyhoedd (gellir cyfrannu drwy https://avow.org/donate/)

Cymunedau’n dod at ei gilydd

Gellir gweld enghraifft arall o grwpiau ac unigolion gwirfoddol yn dod ynghyd ym Maesgeirchen yng Ngogledd Cymru. Mae Jess Silvester yn weithiwr Datblygu Cymunedol ar gyfer MaesNi, ac mae hi wedi gweld ymdrech anhygoel o gyd-dynnu cymunedol.

Mae gwirfoddolwyr yn coginio ac yn dosbarthu 84 o brydau bwyd bob wythnos i bobl dros 70 oed ac yn sicrhau bod ganddyn nhw bopeth sydd ei angen arnyn nhw; casglu presgripsiynau rheolaidd a siopa ar gyfer dros 30 o unigolion; ychwanegu at drydan a nwy; casglu bwyd dros ben o archfarchnadoedd, ei ddidoli a’i ddosbarthu ynghyd â phrydau wedi’u coginio (780 hyd yn hyn!) bob yn ail ddiwrnod i dros 40 o aelwydydd sy’n ei chael hi’n anodd talu am fwyd. Maent hefyd wedi sefydlu cronfa ddamwain y mae unrhyw un sy’n ei chael ei hun heb arian ar gyfer eitemau a biliau hanfodol – hyd yn hyn mae dros 90 o bobl wedi ei defnyddio.

Dywedodd Jess ‘mae pawb wedi dod ynghyd i adeiladu system gymorth i unrhyw un sydd ei angen – preswylwyr, gwirfoddolwyr a grwpiau gwirfoddol (caffi cymunedol Hive, Partneriaeth Maesgeirchen, Cymunedau Adfer Gogledd Cymru yn Penrhyn House a chynghorwyr lleol), gan wneud y gorau o’n holl adnoddau!’

Gyda lefelau mor eithriadol o uchel o ddiddordeb mewn helpu, gallai gymryd yn hirach nag arfer i ddiwallu anghenion, paru diddordebau a manteisio ar sgiliau pawb, a gofynnwn i bobl sy’n awyddus i helpu i ystyried hyn. Ond mae hyn yn profi un peth, bod yna awydd yng Nghymru i helpu ym mha bynnag fodd posibl – gwaith y sector gwirfoddol yw gwneud yn siŵr bod yna fodd.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Hyfforddiant a digwyddiadau

Wythnos yr Ymddiriedolwyr 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/09/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad newydd yn canfod bod gwirfoddolwyr yn lleihau’r pwysau ar staff rheng flaen y GIG

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/08/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy