dyn yn gwenu yn eistedd ar bwrdd mewn canolfan ieuenctid

Cymru well: Edrych y tu hwnt i Brexit

Cyhoeddwyd : 29/06/20 | Categorïau: Dylanwadu |

Cyfres o bapurau gwyntyllu a phodlediadau sy’n trafod sut gall y sector gwirfoddol helpu i greu Cymru well yn dilyn Brexit.                          

Mae gadael yr UE yn gynnwrf cymdeithasol enfawr i Gymru. Gyda’r argyfwng presennol sy’n wynebu’r genedl, bu rhaid i fudiadau gwirfoddol symud yn gyflym a gohirio cynlluniau i fynd i’r afael â’r problemau a gyflwynir gan ein hymadawiad dynesol â’r UE.

Mae CGGC yn gweithio’n weithredol er mwyn sicrhau bod y sector gwirfoddol yng Nghymru yn barod ar gyfer yr heriau y mae Brexit eisoes wedi’u cyflwyno – ac yn mynd i barhau i’w cyflwyno.

Dyna pam ein bod ni heddiw yn cyhoeddi tri phapur gwyntyllu, ar y cyd â phodlediadau, sy’n canolbwyntio ar ddyfodol llesiant yng Nghymru.

Ymateb i’r argyfwng hinsawdd

Rydyn ni wedi gweld potensial ar gyfer newidiadau yn y dyfodol o ran y modd rydyn ni’n trin yr amgylchedd yn ystod cyfnod clo’r pandemig. Fedrwn ni barhau â’r buddion hyn wrth symud tuag at Gymru ôl-Brexit?

Yn y podlediad clywn y cyd-awduron Gethin Rhys o Cytûn a Susie Ventris-Field o Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn amlinellu’r heriau y gall y sector gwirfoddol yng Nghymru, yn eu tyb nhw, gynorthwyo i fynd i’r afael â nhw yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd.

Economi llesiant

Cyhoeddodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ddatganiad yn ddiweddar yn datgan y dylai “economi iach sicrhau dosbarthiad teg o iechyd a chyfoeth a lles, tra’n diogelu adnoddau’r blaned ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a rhywogaethau eraill.”

Pa rôl sydd gan y sector gwirfoddol i’w chwarae yng ngweithrediad economi sy’n canolbwyntio ar ein llesiant?

Yn y podlediad mae Duncan Holtham o’r Uned Pobl a Gwaith yn amlinellu rhai o’r syniadau yn y papur a ysgrifennodd ar y cyd â Dr Sarah Lloyd-Jones: ‘Rôl y sector gwirfoddol wrth lunio economi newydd i Gymru.’

Yn ymuno â Duncan yn y podlediad mae Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu’r Sector CGGC, Anna Nicholl;  Dr Jack Price (Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Caerdydd); Sarah Hopkins (Cynnal Cymru) a Russell Todd, cynhyrchydd podlediadau annibynnol.

Maen nhw’n tynnu sylw arbennig at ba mor amrywiol yw cyfraniad y sector gwirfoddol i economi Cymru; sut y bydd angen trefniadau llywodraethu gwahanol ar economi llesiant newydd; a sut gallai’r sector gwirfoddol gael ei ariannu mewn economi llesiant newydd.

Trawsnewid Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Maes arall yr effeithiwyd arno’n barhaol gan y pandemig yw’r sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Sut gall mudiadau gwirfoddol lunio dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol?

Yn y podlediad, mae’r Athro Mark Llewellyn a Dr Carolyn Wallace o Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru ym Mhrifysgol De Cymru yn trafod eu hymchwil i ddyfodol gofal cymdeithasol yng Nghymru a rôl y sector gwirfoddol wrth ail-lunio hynny. Maen nhw’n esbonio’n benodol sut y bu rhaid iddynt addasu eu methodoleg er mwyn adlewyrchu’r cyfyngiadau symud a rwystrodd cyfraniadau wyneb yn wyneb o’r sector i’r gwaith ymchwil.

Yn ymuno â hwy mae Sally Rees, Hwylusydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Trydydd Sector yn CGGC a llywydd y drafodaeth, Russell Todd, cynhyrchydd podlediadau annibynnol.

Sut gallwch chi gymryd rhan

Rhowch wybod i ni beth yw’ch barn am y gyfres trwy ymuno â’r sgwrs ar Trydar gan ddefnyddio’r hashnod #BetterFuturesWales, neu cysylltwch â’r tîm polisi ar policyteam@wcva.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/03/24 | Categorïau: Dylanwadu |

Awgrymiadau Mark Drakeford ar gyfer dylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 16/02/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwybodaeth a chymorth |

Cynllun gweithlu yn chwilio am fewnwelediad i rôl gwirfoddolwyr mewn lleoliadau iechyd meddwl

Darllen mwy