Mae CGGC yn gweithio gyda mudiadau gwirfoddol, y sector cyhoeddus a’r sector preifat i geisio gwireddu’r weledigaeth honno.
Polisi a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2018 yw ‘Cymru Iachach’. ‘Hwn yw ymateb Llywodraeth Cymru i’r Adolygiad Seneddol o ‘Ddyfodol Hirdymor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Chwyldro o’r Tu Mewn: Trawsnewid Iechyd a Gofal yng Nghymru’. Cylch gwaith yr Adolygiad oedd cynnig argymhellion ar sut gellid ail-alinio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn rheoli galwadau’r presennol a galwadau’r dyfodol.
Mae ‘Cymru Iachach’ yn amlinellu gweledigaeth am sector iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gweithio gyda’i gilydd i ganolbwyntio ar lesiant ac atal salwch, gan adleisio athroniaeth ‘gofal iechyd darbodus’. Bydd hyn yn arwain at werth a gofal o safon uwch yn sgil llai o ymyraethau clinigol dwys a llai o amrywiad, gwastraff a niwed.
Mae’n ceisio symud gwasanaethau allan o ysbytai ac i gymunedau a chynorthwyo pobl i fyw bywydau iach a hapus, gan sicrhau eu bod yn cadw’n iach yn eu cartrefi. I wneud hyn, rhaid i’r holl fudiadau, gan gynnwys rhai gwirfoddol, ddod ynghyd, gwella’u ffyrdd o fesur yr hyn sy’n wirioneddol bwysig a chynnig gwasanaethau amlasiantaeth priodol.
Mae’n ymwneud â galluogi pobl i fyw’n annibynnol am gyn hired ag y gallant, gyda chymorth technolegau newydd a thrwy wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig a ddarperir yn agosach i gartref.
Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu tro ar ôl tro pa mor bwysig yw’r sector gwirfoddol o ran gwireddu ei gweledigaeth yn llwyddiannus, ac mae wedi creu Cronfa Drawsnewid o £100 miliwn.
Y NOD PEDWARPLYG A’R DEG EGWYDDOR CYNLLUNIO
Mae gweledigaeth hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol i gael ‘system gyfan iechyd a gofal cymdeithasol’ wedi’i llunio o amgylch yr hyn a elwir yn ‘Nod Pedwarplyg’. Argymhellodd yr Adolygiad Seneddol y dylid ei defnyddio er mwyn annog dealltwriaeth gyffredin ymhlith pob partner, gan gynnwys mudiadau gwirfoddol, o sut y dylai’r system iechyd a gofal cymdeithasol ddatblygu a newid.
Yng nghyd-destun Covid-19, mae’r Nod Pedwarplyg a’r Deg Egwyddor Cynllunio yn fwy perthnasol nag erioed, a byddant yn parhau i fod yn allweddol o ran cyflawni canlyniadau llesiant gwell ar gyfer poblogaeth Cymru.
Mae’r Nod Pedwarplyg hwn yn cynnwys pedwar amcan rhyng-gysylltiedig sydd wedi’u defnyddio’n llwyddiannus i ddatblygu nifer o systemau iechyd a gofal cymdeithasol rhyngwladol.
Y Nod Pedwarplyg
- Gwella iechyd a llesiant y boblogaeth
- Gwella ansawdd a hygyrchedd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
- Cynyddu’r gwerth a gyflawnir gan iechyd a gofal cymdeithasol
- Gweithlu iechyd a chymdeithasol brwd a chynaliadwy
Gobeithir y bydd ei broffil rhyngwladol yn annog dysgu a rennir ac ymgysylltiad agored â systemau iechyd a gofal cymdeithasol gwledydd eraill.
Mae’r Nod Pedwarplyg hefyd yn galluogi Llywodraeth Cymru a mudiadau partner, gan gynnwys mudiadau gwirfoddol, i:
- adrodd ar y cynnydd tuag at gyflawni gweledigaeth gyffredinol y dyfodol am ‘Cymru Iachach’
- mapio deddfwriaeth, fel y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), sydd eisoes yn ymwreiddio ymrwymiad i atal ac ymyrraeth gynnar, cyd-gynhyrchu a llais a rheolaidd a rennir
- mapio sut mae’r system iechyd a gofal cymdeithasol yn cyfrannu at gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
I ategu’r Nod Pedwarplyg, ceir Deg Egwyddor Cynllunio Cenedlaethol, sydd yno i helpu pobl, gan gynnwys y rheini yng ngweithlu’r sector gwirfoddol, i ddeall sut i gyflawni ‘chwyldro o’r tu mewn’ ac i wirio a ydynt ar y trywydd cywir ac yn symud ar y cyflymder cywir.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r holl bartneriaid, gan gynnwys y sector gwirfoddol, felly gallai’r egwyddorion hyn gael eu hadolygu o bryd i’w gilydd ar sail cyflawni ac adborth.
Deg Egwyddor Cynllunio Cenedlaethol
- Atal ac ymyrryd yn fuan
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig galluogi ac annog iechyd a llesiant da gydol oes; disgwyl a rhagweld iechyd a llesiant gwael.
Esiampl: Y Rhaglen Addysg i Gleifion mae’n gwneud pobl yn arbenigwyr mewn byw bywyd llawn gyda’u cyflwr. Mae gwirfoddolwyr yn helpu i leihau’r pwysau ar wasanaethau iechyd, oherwydd mae mwy o gleifion yn datblygu’r wybodaeth a’r hyder i reoli eu cyflwr eu hun.
- Diogelu
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig galluogi pobl i fyw’n ddiogel o fewn teuluoedd a chymunedau, diogelu pobl rhag perygl o gamdriniaeth, esgeulustod neu niwed o fath arall.
Esiampl: Gweithredu dros Blant mae’n cefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n agored i niwed yng Nghymru drwy bron 80 o brosiectau a gwasanaethau, gan weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, byrddau iechyd a mudiadau eraill o’r trydydd sector.
- Annibyniaeth
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig helpu pobl i reoli eu hiechyd a’u llesiant, bod yn gadarn ac yn annibynnol am gyfnod hwy, yn eu cartrefi a’u hardaloedd eu hunain.
Esiampl: Gwasanaeth Ysbyty i Adref Age Connects Morgannwg – Cynorthwyo pobl hŷn sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr i ddychwelyd gartref o’r ysbyty. Mae eu gwasanaeth rhyddhau o’r ysbyty yn darparu 6-8 wythnos o gymorth ar gyfer pobl dros 50 oed sy’n byw ar eu pen eu hunain neu gyda gofalwr oedrannus sydd angen help i ailaddasu i fyw gartref eto.
- Llais
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig grymuso pobl i wneud penderfyniadau am ofal a thriniaeth ar sail ‘beth sy’n bwysig’ iddyn nhw.
Esiampl: Cymorth Canser Macmillan cydlynwyr llesiant mewn ysbytai.
- Personol
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig gwasanaethau iechyd a gofal sydd wedi’u teilwra i anghenion a dewisiadau’r unigolyn, gan gynnwys yn yr iaith a ffafrir; meddygaeth fanwl ac ati.
Esiampl: Gofal mewn Galar Cruse Cymru mae’n cynnig rhywle i droi ato pan fydd rhywun yn marw, gyda changhennau’n cynnig gwasanaethau cyfrinachol, am ddim a ddarperir gan wirfoddolwyr hyfforddedig.
- Di-dor
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig gwasanaethau a gwybodaeth lai cymhleth ac wedi’u cydlynu’n well i’r unigolyn; integreiddio proffesiynol, cydweithio a rhannu gwybodaeth rhwng gwasanaethau a darparwyr.
Esiampl: Dementia Matters, Powys – Maen nhw’n mynd ati i weithio mewn modd sy’n pontio’r cenedlaethau, gan gynnal canolfannau cyfarfod a chefnogi pobl sy’n byw â dementia a’u teuluoedd. Maen nhw’n defnyddio creadigrwydd i gysylltu, rhannu a chefnogi hunanfynegiant er mwyn chwalu’r rhwystrau a gwella ynysu cymdeithasol fel bod pobl yn parhau i fod yn annibynnol a chyda rheolaeth dros eu bywydau.
- Gwerth uwch
Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau gwell canlyniadau a gwell profiad i bobl am gost is; gofal a thriniaeth sydd wedi’u llunio i gyflawni ‘beth sy’n bwysig’ ac sy’n cael eu darparu gan y person cywir ar yr adeg gywir; llai o amrywiad a dim niwed.
Esiampl: Mae’r gwasanaeth Hear to Help ym Machynlleth yn un o 15 o wasanaethau ledled Powys a redir gan wirfoddolwyr. Mae’r gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi gan awdiolegwyr i helpu pobl i ddarganfod sut mae cymhorthion clyw yn gweithio, sut i ofalu amdanynt a syniadau i roi cynnig arnynt os bydd un ohonynt yn gwrthod gweithio.
- Seiliedig ar dystiolaeth
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig defnyddio ymchwil, dysg a gwybodaeth i ddeall beth sy’n gweithio; dysgu drwy weithio gydag eraill; defnyddio arloesi a gwelliannau i ddatblygu a gwerthuso gwell arfau a ffyrdd o weithio.
Esiampl: Nesta – Sefydliad yw hwn sy’n cyllido ‘Y Lab’, sy’n gweithio gyda gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i feithrin arloesedd a chapasiti gwaith ymchwil, er mwyn datblygu a phrofi datrysiadau i heriau cymdeithasol mawr yng Nghymru.
- Datblygu
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig sicrhau bod modd datblygu arfer da o lefel leol i lefel ranbarthol a chenedlaethol, ac allan i dimau a mudiadau eraill.
Esiampl: Beiciau Gwaed Cymru – Gwasanaeth cludo am ddim a redir gan wirfoddolwyr i’r GIG ac ar ei ran, yn cludo plasma, samplau gwaed, llaeth y fron a dogfennau. Maen nhw’n gweithio gyda chwech o’r saith Bwrdd Iechyd yn cludo nwyddau, ac wedi gwneud dros 15,000 o alwadau cludo ar hyd a lled Cymru hyd at fis Rhagfyr 2019.
- Trawsnewid
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig sicrhau bod ffyrdd newydd o weithio yn gynaliadwy, eu bod yn newid a disodli dulliau presennol, yn hytrach nag ychwanegu haen ychwanegol yn barhaol i’r hyn a wnawn nawr.
Esiampl: PIVOT (Tîm Sefydliadau Gwirfoddol Canolraddol Sir Benfro) mae’n cynorthwyo pobl sy’n wynebu risg o orfod mynd i mewn i’r ysbyty neu bobl sydd wedi’u rhyddhau o’r ysbyty’n ddiweddar lle mae angen ymyrraeth anfeddygol i gefnogi eu hanghenion lles. Caiff y gwasanaeth ei arwain gan y Groes Goch Brydeinig.
YMGYSYLLTU PARHAUS
Mae datblygu ymdeimlad cyffredin o berchenogaeth a chyfrifoldeb dros y system iechyd a gofal cymdeithasol yn rhan annatod o ‘Cymru Iachach’, gyda Llywodraeth Cymru’n adleisio ei hymrwymiad o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i wrando ar bob llais, cynyddu dealltwriaeth a meithrin ymddiriedaeth.
Golyga hyn fod yn rhaid i’r holl bartneriaid, gan gynnwys mudiadau gwirfoddol, ddefnyddio cyfathrebiadau digidol yn ogystal â chyfathrebiadau rheolaidd i sefydlu sgwrs barhaus ynghylch dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, drwy weithio mewn modd cydgynhyrchiol â’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys tri darn penodol o waith:
- Gwahanol fudiadau’n cydymffurfio â’r dyletswyddau cyfreithiol i gydweithio ac ymgynghori â’r cyhoedd neu eu gweithlu
- Ymgysylltu rhyngweithiol cyson a dynamig fel y gall pobl gyfrannu eu gwybodaeth a’u dewisiadau, gan hefyd ymateb i heriau a chyfleoedd newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg
- Cael sgyrsiau ynghylch newidiadau i wasanaethau a fydd yn effeithio ar sut byddant yn cael eu cyllido a’u darparu yn y dyfodol.
Y GWEITHLU IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL
Ni fydd y fersiwn newydd yn llwyddo heb ailddiffinio’r ‘gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol’. Mae ‘Cymru Iachach’ yn gofyn i ni ailfeddwl pwy, o’r sectorau cyhoeddus, preifat neu wirfoddol, sydd yn y sefyllfa orau i ddarparu gofal ar gyfer unigolyn penodol, gan hefyd:
- sicrhau mwy o barch cyfartal rhwng gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol
- cydnabod rôl hanfodol gofalwyr di-dâl a gwirfoddolwyr, a’r ffaith na fyddai system gyffredinol hebddyn nhw.
Mae Cymru Iachach yn canolbwyntio ar waith tîm amlddisgyblaeth eang, lle mae pobl hyfforddedig iawn yn gweithio’n effeithiol gyda’i gilydd a lle caiff yr holl wybodaeth berthnasol ddiweddaraf am amgylchiadau a dewisiadau’r unigolyn ei rhannu, er mwyn gwneud y defnydd gorau posibl o sgiliau a phrofiad pawb.
Mae Cymru’n wlad o gymunedau amrywiol ac ysbrydoledig. Mae datblygu modelau gofal newydd yn gofyn am ddull eglur a dealladwy o fynd ati i ddatblygu a chynllunio’r gweithle cyfan mewn partneriaeth â’r GIG a’r awdurdod lleol, y sectorau gwirfoddol a phreifat yn ogystal â rheoleiddwyr, cyrff proffesiynol a darparwyr addysg. Byddai hyn hefyd yn galluogi i ni ddarparu gofal drwy gyfrwng y Gymraeg ac ieithoedd eraill.
Er mwyn i hyn ddigwydd, mae angen i’r sector gwirfoddol yng Nghymru fod yn gyfartal â sectorau eraill yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol fel y gall fodloni’r rôl y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gweld ar ei gyfer yn effeithiol. Mae CGGC yn galw ar staff y sector gwirfoddol i gael cyflog byw teg a chael cynnig amodau gwaith a fyddai’n annog recriwtiaid newydd i aros. Mae’n rhaid i wirfoddolwyr a gofalwyr, sy’n aelodau di-dâl hanfodol o’r gweithlu, hefyd dderbyn cymorth digonol, oherwydd mae’n anheg fod y sector gwirfoddol yn darparu gwasanaethau am ddim ar y man darparu.
ASTUDIAETHAU ACHOS
Age Connects Morgannwg: Addasu i Heriau Bywyd – Covid-19, Llifogydd a Thorri Ewinedd
Aren Cymru ‘yn teimlo fel dod adre’
Darllenwch am y ffyrdd y mae’r elusen genedlaethol, Aren Cymru, wedi symud yn gyflym i ymateb i Covid-19 ac wedi cynnig gwasanaethau personol i bobl sy’n byw â chlefyd yn yr arennau.
Cysylltwyr Cymunedol, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO)
Darllenwch am y Cysylltwyr Cymunedol, a gysylltodd â’r Groes Goch Brydeinig, Age Cymru a hyd yn oed y dafarn leol er mwyn helpu cwpwl mewn oed, fel y gallai’r wraig gael ei rhyddhau o’r ysbyty a gwella’n briodol yn ei chartref.
Bywydau Gwell: Cydgynhyrchu Cymorth Anableddau Dysgu yng Ngwent
Darllenwch am brosiect cymorth anableddau cydgynhyrchiol, lle cafodd pobl ag anableddau dysgu eu trin yr un peth â staff cyflogedig Pobl yn Gyntaf Torfaen. Gyda’i gilydd, gwnaethant ddefnyddio cryfderau ei gilydd i ddatblygu gwasanaethau i ddiwallu anghenion eu cymuned.
BARN CGGC AR CYMRU IACHACH
Mae CGGC wedi bod yn cefnogi ac yn cynorthwyo pobl i reoli eu hunain ers tro byd, ac atal sydd wrth wraidd gwasanaethau’r sector gwirfoddol. Y peth pwysig yw mai’r sector ddylai fod yn fan galw cyntaf i lawer o ddinasyddion, cyn cael eu cyfeirio ymlaen yn ôl yr angen.
Yn gyffredinol, mae mudiadau gwirfoddol yn dweud wrth CGGC nad ydynt yn gweld tystiolaeth gadarn o ymgysylltiad parhaus a sgyrsiau cyson gyda dinasyddion na’r sector i ddatblygu modelau a ffyrdd o weithio newydd i gefnogi ‘Cymru Iachach’ a’r agenda trawsnewid.
Mae Cymru Iachach yn galw am chwyldro, dull gweithredu radical y mae angen i’r sector gwirfoddol fod yn rhan ohono. Mae angen i gomisiynwyr a rheolwyr strategol ddeall rôl y sector gwirfoddol a’r effaith gadarnhaol y mae’r sector hwn yn ei chael ar ddarparu gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant.
Mae CGGC yn gweithio gyda’i bartneriaid i alw am:
- Cylchredau cyllido mwy hirdymor o dair blynedd o leiaf er mwyn galluogi mudiadau’r sector i ddarparu gwasanaethau mwy cynaliadwy a chadw staff sydd â’r sgiliau, yr wybodaeth a’r arbenigedd cywir. Mae amserlenni byr yn golygu bod mudiadau gwirfoddol yn llai tebygol o fod yn gysylltiedig â modelau darparu newydd neu’n llai tebygol o allu awgrymu modelau o’r fath o botiau cyllido fel y Gronfa Trawsnewid a’r Gronfa Gofal Integredig.
- Mwy o gydgynhyrchu sy’n golygu gweithgarwch cynhwysol gydag adnoddau priodol. Caiff y term ‘cydgynhyrchu’ ei gamddefnyddio neu ei gamddehongli’n llawer rhy aml, heb ymrwymo nac ymgysylltu â dinasyddion, gyda gwasanaethau cyhoeddus yn rheoli’r naws, y pwnc a’r cyflymder.
- Buddsoddi mewn arweinyddiaeth o fewn y sectorau ac yng nghapasiti rheoli gwirfoddolwyr er mwyn datblygu rhaglenni strategol a chynaliadwy ar gyfer gwirfoddolwyr.
- Cryfhau cydberthnasau rhanddeiliaid, yn enwedig gyda’r sector gwirfoddol fel darparwyr rheng flaen.
- Cynorthwyo pobl i ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol yn fwy creadigol.
- Mwy o ymchwil i weithlu’r sector gwirfoddol, y rhai cyflogedig a di-dâl (gwirfoddolwyr a gofalwyr), yn enwedig o ran sut gall y sector gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth. Er enghraifft, mae’n bosibl na fyddai gweithiwr yn y sector gwirfoddol, fel presgripsiynydd cymdeithasol, gweithiwr cyswllt neu gysylltydd cymunedol, yn elwa ar yr un cyfleoedd (fel hyfforddiant achrededig neu oruchwyliaeth glinigol) â’i gymheiriaid yn y sector cyhoeddus, yn enwedig ym maes iechyd.
- Sicrhau bod gan Fforymau Gwerth Cymdeithasol y mandad a’r adnoddau i ddatblygu modelau darparu newydd ar draws y meysydd iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Adran 16 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 eisoes yn nodi’r angen i edrych ar fodelau newydd a ddarperir, er enghraifft, gan fudiadau trydydd sector, grwpiau a arweinir gan ddefnyddwyr, cwmnïau buddiannau cymunedol a chwmnïau cydweithredol. Mae cael cynrychiolaeth o’r sector gwirfoddol yn cyflwyno nodweddion unigryw, amrywiol, gwahanol a chyfoethog sy’n seiliedig ar eu gwybodaeth leol o’r cymunedau y maen nhw’n gweithio gyda nhw. Mae angen amser i ddatblygu consortia gwerth cymdeithasol a allai fynd i’r afael â’r problemau hyn a chyflwyno achos dros gyllido drwy’r Fforymau hynny. Mae gan aelodau Cynghorau Gwirfoddol Sirol / sector gwirfoddol y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ran i’w chwarae mewn nodi pwy fyddai orai i ddarparu gwasanaethau yn y ffordd orau.
- Nodi offer gwerthuso safonol traws-sector er mwyn mesur effaith. Mae dulliau gwerthuso’n amrywio ar hyn o bryd, gyda mudiadau’r sector gwirfoddol yn defnyddio gwahanol offer i fesur, er enghraifft, gwerth cymdeithasol. Mae pob cyllidwr yn gofyn am ddata gwahanol a thempledi gwahanol i gyflwyno’r dystiolaeth.