Woman speaking into a megaphone and smiling, there are protesters in the background

Cymru a’r Gronfa Ffyniant a Rennir: Blaenoriaethau ar gyfer disodli cyllid strwythurol yr UE

Cyhoeddwyd : 11/10/20 | Categorïau: Cyllid | Dylanwadu |

Ar ôl casglu tystiolaeth, mae ymchwiliad ‘Cymru a’r Gronfa Ffyniant a Rennir’ y Pwyllgor Materion Cymreig bellach wedi’i gyhoeddi.

Gan fod y Deyrnas Unedig bellach wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, ni fydd bellach yn gymwys ar gyfer Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd (ESI), sy’n ariannu cynlluniau yng Nghymru fel y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol, y Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol a’r Gronfa Datblygu Asedau Cymunedol yn CGGC.

Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar yr hyn y mae cyllid ESI wedi’i gyflawni yng Nghymru, yn ogystal â’r hyn y gallai’r newid arfaethedig, y Gronfa Ffyniant a Rennir, ei gyflawni yn ei le.

I grynhoi, mae’r adroddiad yn canfod:

  • Diffyg manylion siomedig am gyllid newydd gan Lywodraeth y DU.
  • Mae hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i ‘gynnig sicrwydd ar frys a darparu dyddiad pendant ar gyfer sicrhau bod gwybodaeth sylweddol am ffurf y Gronfa Ffyniant a Rennir ar gael.’
  • Er gwaethaf adborth cadarnhaol, mae’n amlwg bod y system bresennol o gyllid strwythurol wedi bod yn rhy ganolog ac yn rhy fiwrocrataidd i lawer. Mae datblygu’r Gronfa Ffyniant a Rennir yn gyfle i weithredu system weinyddol symlach.
  • Er nad yw’n glir ar hyn o bryd a fydd arian yn cael ei reoli’n ganolog gan Whitehall ai peidio, byddai’n Llywodraeth y DU yn wneud yn dda i beido colli’r arbenigedd a gaiff ei adeiladu yng Nghymru gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO)
  • Mae hefyd yn gofyn i Lywodraeth y DU ‘warantu egwyddorion cydweithio a phartneriaeth go iawn rhwng yr holl randdeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a’r trydydd sector.’
  • Yn olaf, mae’n cynnig bod tynnu’r DU yn ôl o’r Undeb Ewropeaidd ac effaith pandemig COVID-19 ‘yn gwneud hwn yn amser eithriadol, ac yn gyfle, i lywodraethau’r DU gynllunio system fwy ymatebol a hyblyg o gyllid strwythurol a rhanbarthol.’

Ceir manylion llawn yr adroddiad ar-lein yn https://publications.parliament.uk/pa/cm5801/cmselect/cmwelaf/90/9002.htm (Saesneg yn unig)

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 10/09/24 | Categorïau: Cyllid |

Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/07/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Bwrsari i arweinwyr yng Nghymru yn ôl

Darllen mwy