Wrth i’r argyfwng yn Wcráin ddwysau, mae mudiadau gwirfoddol a gwirfoddolwyr yn tyrru i fod yn gefn iddi a rhoi cymorth. Dyma drosolwg o’r hyn sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd a’r ffyrdd gorau o gynnig cymorth.
Diweddariad ddiwethaf 29 Mawrth 2022
Mae’r sefyllfa sy’n datblygu yn Wcráin wedi bod yn dorcalonnus i’w gwylio. Fel gyda phob argyfwng dyngarol arall, mae’r sector gwirfoddol wedi bod, a bydd yn parhau i fod yn barod i gynorthwyo’r rheini mewn angen. Trwy godi arian, lobïo’r llywodraeth, cefnogi ffoaduriaid, a lliaws o ffyrdd eraill.
Fodd bynnag, wrth i’r sefyllfa barhau i ddatblygu gyda chymaint o ansicrwydd, bydd llawer o unigolion a mudiadau yn ystyried beth allan nhw ei wneud i gynorthwyo pobl Wcráin mewn modd ystyrlon.
Lansiodd CGGC arolwg cenedlaethol i asesu gallu’r sector i ymateb i’r argyfwng hwn. Diben yr arolwg hwn yw:
- sefydlu manylion cyswllt i randdeiliaid allweddol cenedlaethol CGGC gysylltu â nhw ar y gwaith pwysig hwn;
- casglu gwybodaeth, barn, astudiaethau achos;
- pennu heriau ac anghenion cymorth ar gyfer y trydydd sector.
Dylai’r arolwg byr hwn gymryd 20 munud i’w gwblhau.
CODI ARIAN A RHODDION
Mae’r Pwyllgor Argyfyngau (DEC) wedi lansio apêl am roddion ariannol (Saesneg yn unig).
Mae’r Gronfa Croeso, a reolir gan Sefydliad Cymunedol Cymru, yn fyw ac yn agored i roddion ac mae Jane Hutt AS wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £1 miliwn i’r gronfa.
Mae llawer o’r grwpiau rydyn ni wedi siarad â nhw wedi dweud yn eglur y byddai rhoi arian yn well na rhoi nwyddau ar hyn o bryd. Mae rhai mannau wedi nodi bod ganddyn nhw fwy o roddion ffisegol nag y gallan nhw ymdopi â nhw nawr. Mae’r gost a’r logisteg o gael y cyflenwadau hynny draw i ble y mae eu hangen yn golygu y gall rhoddion ariannol fynd yn llawer bellach.
Rhoddion ariannol yw’r ffordd gyflymaf a mwyaf effeithlon o gael cyflenwadau mawr eu hangen (fel bwyd, meddyginiaeth a dillad) a chymorth i’r rheini sydd wedi gorfod ffoi o’u cartrefi.
Mae Llywodraeth y DU wedi addo rhoi cyllid cyfatebol, punt am bunt, ar yr holl arian a godir gan y cyhoedd ar gyfer yr apêl hon, hyd at £20 miliwn.
Mae’r Sefydliad Cymorth i Elusennau wedi cyhoeddi’r canllaw hwn ar ba elusennau yn y DU sy’n apelio am roddion ariannol ar hyn o bryd (Saesneg yn unig).
HELP A CHYMORTH I FFOADURIAID
Bydd Cymru, fel cenedl noddfa, yn croesawu ffoaduriaid o Wcráin. Mae trafodaethau ar droed i drefnu cymorth fel tai ar gyfer ffoaduriaid sy’n cyrraedd y wlad hon. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno canllaw i aelodau agos o deuluoedd gwladolion Prydeinig sydd fel arfer yn byw yn Wcráin ac sy’n bwriadu gwneud cais am fisa drwy’r llwybr Mudo Teuluol, yn ogystal â chyfeirio at linell gymorth i aelodau teulu Wcreiniaid sy’n byw yn y DU ar hyn o bryd.
Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru hefyd yn rhannu gwybodaeth ac apêl am roddion i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin.
Mae ‘City of Sanctuary UK’ yn cynnal digwyddiad ar 17 Mawrth a fydd yn amlinellu ffyrdd ymarferol y gallwch chi gefnogi a helpu ffoaduriaid, gan gynnwys y rheini sy’n ffoi o’r rhyfel yn Wcráin. Dilynwch y ddolen hon am ragor o fanylion ac i gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn.
Mae rhiant-elusen y ‘Living Wage Foundation’, ‘Citizens UK’, yn arweinydd allweddol yn y cynllun nawdd cymunedol sy’n caniatáu i grwpiau cymunedol gefnogi’r gwaith o adsefydlu ffoaduriaid. Mae Llywodraeth y DU wedi cynyddu graddfa a chwmpas nawdd ffoaduriaid bellach o ran yr argyfwng yn Wcráin. Yn dilyn y cynnydd hwn, mae ‘Citizens UK’ yn gweithio gyda’r ‘Global Refugee Sponsorship Initiative’ (GRSI) i drefnu briff yn yr wythnosau i ddod ar gyfer Cyflogwyr Cyflog Byw ac arbenigwyr cymdeithas sifil a chymunedol â diddordeb er mwyn iddynt ddod ynghyd i edrych ar ffyrdd o gynorthwyo’r rheini sy’n ffoi o’r gwrthdaro. I fynegi diddordeb yn y cyfle hwn, dilynwch y ddolen hon.
Wrth i drafodaethau barhau, byddwn ni’n diweddaru’r erthygl hon â rhagor o wybodaeth am gefnogi ffoaduriaid sy’n cyrraedd Cymru wrth iddi ddod i law.
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio llinell gymorth ar gyfer pobl sy’n cyrraedd Cymru o’r Wcráin ac i bobl sy’n gweithredu fel noddwyr, i roi cyngor ac arweiniad. Mae’r ddolen hon yn darparu graffeg y gellir ei rhannu ar draws y cyfryngau cymdeithasol a’i hargraffu ar gyfer hybiau cyrraedd er mwyn helpu i rannu rhif y llinell gymorth gyda’r rhai sydd ei angen.
Gellir defnyddio gwefan Noddfa Llywodraeth Cymru hefyd i helpu ceiswyr lloches i ddeall eu hawliau.
CODI’CH LLAIS
Mae llawer o fudiadau gwirfoddol, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol wedi bod yn dangos undod ag Wcráin drwy godi eu lleisiau y tu allan i’r Senedd, lobïo am heddwch a chynnal gwylnosau rhyng-ffydd. Wrth i drallod y Rhyfel ddwysau, mae’r sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol hefyd yn ceisio lleihau tensiynau a theimladau gwrth-Rwsiaidd.
Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) hefyd wedi cyflwyno trosolwg polisi a gweithredu yng Nghymru yn ogystal â chyfeirio at ffynonellau dibynadwy o wybodaeth.
Cyfieithu am ddim ar brosiectau sy’n cynorthwyo pobl yr Wcrain
Yn ystod y cyfnod yma, rydym yn ymwybodol fod nifer o sefydliadau trydydd sector yn trefnu ffyrdd o gynorthwyo pobl yr Wcrain yn ystod y cyfnod erchyll hwn. Rydym yn gwybod fod nifer ohonoch yn awyddus i gyfathrebu’n ddwyieithog, ond angen ychydig o gymorth i baratoi negeseuon yn Gymraeg ar fyr rybudd. Mae Tîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg wedi penderfynu ymestyn eu cynllun prawf ddarllen i gynnig cyfieithu am ddim i elusennau ar ymgyrchoedd yn ymwneud â chymorth dyngarol i bobol yr Wcrain. Gallant gyfieithu hyd at 1000 o eiriau i chi am ddim. Anfonwch y gwaith at hybu@comisiynyddygymraeg.cymru.
GWYBODAETH A DIWEDDARIADAU GAN CGGC
Mae CGGC yn sefyll mewn undod â phobl Wcráin, a byddwn ni’n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i alluogi’r sector gwirfoddol i roi cymorth effeithiol yn ystod yr argyfwng hwn.
Mae pandemig COVID-19 wedi dangos i’r byd pa mor werthfawr y gall y sector gwirfoddol fod o ran darparu gwasanaethau mewn argyfwng pan fyddwn ni’n cael ein cynnwys ar ddechrau’r gwaith cynllunio. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru, Cyngor Ffoaduriaid Cymru a phartneriaid allweddol eraill i gydlynu ymdrechion.
Byddwn ni’n parhau i ddiweddaru’r erthygl hon gydag unrhyw wybodaeth newydd y byddwn ni’n ei chael er mwyn helpu mudiadau gwirfoddol a gwirfoddolwyr i gynorthwyo’r rheini mewn angen.
Rydyn ni’n annog ein haelodau, gwirfoddolwyr a mudiadau gwirfoddol i gadw mewn cysylltiad drwy rannu’r hyn yr ydych chi’n ei wneud i gynorthwyo pobl Wcráin gyda ni. Cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at enotley@wcva.cymru a chofrestru i gael ein cylchlythyr er mwyn cael diweddariadau.