Mae’r Cymdeithas Codi Arian Cymru yn cynnig hyfforddiant am ddim i elusennau i helpu nhw i daclo mater penodol nad oes ganddynt yr amser na’r adnoddau i ymateb iddo.
Ydych chi’n anelu i gynyddu eich potensial codi arian ond yn cael trafferth gydag un mater penodol ac angen cymorth proffesiynol am ddim?
Mewn ymateb i Covid-19, mae Cymdeithas Codi Arian Cymru yn cynnig cynllun ymatebol, rhad ac am ddim, sy’n seiliedig ar faterion penodol i helpu elusennau yng Nghymru i fynd i’r afael â mater y maent yn teimlo nad oes ganddynt y gallu codi arian proffesiynol i ddelio ag e.
RHAGLEN HYFFORDDI YMATEB COVID
Mae Cymdeithas Codi Arian Cymru yn chwilio am elusennau o bob cwr o Gymru sydd heb yr amser a’r sgiliau codi arian proffesiynol i’w helpu i gyrraedd eu potensial ac ail ennill eu plwyf.
Bydd pob elusen lwyddiannus yn cael eu paru’n ofalus gyda chodwr arian proffesiynol sy’n arbenigo ar ddelio gyda materion sy’n berthnasol i’r rheini y mae’r mudiad wedi eu profi. Gallai’r mater hwn fod yn gais i ymddiriedolaeth, creu negeseuon ar gyfer ymgyrch neu ddelio gyda chyfathrebiadau gyda chyfrannwr sy’n bodoli eisoes. Bydd hyfforddwr yn cynnig hyd at bum awr o gymorth ar fater penodol.
Cynhelir yr holl gefnogaeth o hirbell yn unol â phrotocolau ymbellhau cymdeithasol dros y ffôn, trwy e-bost a chynadledda digidol.
Os yw eich mudiad yn cyflawni’r criteria hyn, cwblhewch y ffurflen gais neu cysylltwch gyda Elliot:
elliot@richard-newton.co.uk
02920 397341
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cymorth ariannol oddi wrth:
CYMORTH ARIANNOL GAN CGGC
Ewch i adran cyllid CGGC am wybodaeth am gyllid ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru gan gynnwys:
- Chwilio am gyllid
- Cyllid ar gael gan CGGC
- Ein cyrsiau hyfforddi cyllido
- Newyddion cyllid
- Adnoddau i’ch helpu i ddod o hyd i gyllid neu godi arian