Dyma ddiweddariad byr i chi ar Gymorth Gwladwriaethol yn sgil y ffaith bod y cyfnod pontio ar fin dod i ben.
Caiff Cymorth Gwladwriaethol ei ystyried yn aml fel rhyw ddewiniaeth ddu sy’n ddirgelwch i lawer. Gall fod yn un o’r meysydd mwyaf dryslyd pan ddaw hi i gael cyllid, ac mae ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd dim ond wedi ychwanegu at y dryswch hwn. Yr hyn rydyn ni’n ei wybod yw y bydd y DU yn dilyn rheolau cymhorthdal Sefydliad Masnach y Byd (WTO) ar ddiwedd y cyfnod pontio.
(Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi gwybod y byddant yn cyhoeddi canllawiau i awdurdodau cyhoeddus cyn diwedd y flwyddyn i esbonio rheolau Sefydliad Masnach y Byd ac unrhyw ymrwymiadau ychwanegol ar gymhorthdal a gytunwyd drwy gytundebau masnach rydd y DU. Mae Senedd y DU wrthi’n craffu ar ddeddfwriaeth i ddileu rheolau cymorth gwladwriaethol diangen yr UE o’r llyfr statud ar ddiwedd y cyfnod pontio.)
BETH MAE HYN YN EI OLYGU I CHI FELLY?
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn dilyn model ‘busnes fel arfer’ hyd nes y caiff ei hysbysu fel arall. Mae uned Cymorth Gwladwriaethol Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU i gael y canllawiau angenrheidiol yn eu lle cyn diwedd y cyfnod pontio. Byddwn ni’n cadw llygad craff ar unrhyw wybodaeth a gyhoeddir ac yn darparu diweddariadau a chanllawiau cyn gynted ag y gallwn ni.
Er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych chi’r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth gwladwriaethol ar bob adeg, argymhellir eich bod yn cofrestru i dderbyn Hyrddiad Gwybodaeth Cymorth Gwladwriaethol Llywodraeth Cymru drwy anfon e-bost at State.Aid@gov.wales.
Os ydych chi’n pori drwy gwestiynau cymorth gwladwriaethol ar hyn o bryd, mae cymorth y gallwch chi ei gael o hyd. Mae gan 3-SET Daflen Wybodaeth am Gymorth Gwladwriaethol a fydd yn eich helpu i ddeall rhai o’r egwyddorion sylfaenol. Mae hefyd yn darparu siart lif ddefnyddiol i’ch helpu chi i bennu a ellir nodi eich cyllid fel Cymorth Gwladwriaethol.
Mae gan Lywodraeth Cymru adran lawn gwybodaeth ar eu gwefan hefyd a rhai fideos defnyddiol ar eu sianel YouTube i’ch helpu chi i ddeall sut i adnabod Cymorth Gwladwriaethol.
Os hoffech gael sgwrs am rai o’r cwestiynau ynghylch Cymorth Gwladwriaethol, mae croeso i chi gysylltu â ni yn 3set@wcva.cymru ac fe wnawn ni ein gorau i’ch helpu.