Mae gan berson wydr godidog dros rai darnau arian

Cyllido Cymru: Eich cyfle i lunio’r cam nesaf

Cyhoeddwyd : 12/11/21 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Defnyddiwch eich llais i’n helpu i lunio dyfodol chwiliadau ariannu ar gyfer sefydliadau gwirfoddol Cymru.

Offeryn ar gyfer y sector

Mae Cyllido Cymru, offeryn chwilio am gyllid am ddim Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW) – wedi bod yn helpu mudiadau ar hyd a lled y wlad i ddod o hyd i gyllid ers 2019. Ers hyn, mae mwy a mwy o bobl wedi bod yn defnyddio’r system ac rydyn ni nawr eisiau pwyso a mesur, edrych ar yr hyn sy’n dda amdani a’r hyn y gellid ei wella, gyda’r nod o’i datblygu ymhellach a sicrhau bod mudiadau’n cael budd llawn ohoni.

Rydyn ni wedi penodi ymgynghorwyr i gynnal cyfres o sgyrsiau yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr, ac ar sail y rhain, bydd argymhellion ar gyfer gwella’r system yn cael eu cyflwyno i TSSW. Bydd y rhain yn llywio datblygiad Cyllido Cymru dros yr ychydig o flynyddoedd nesaf.

Rydyn ni angen chi

Rydyn ni eisiau i gymaint â phosibl o gydweithwyr gymryd rhan yn yr ymarferiad hwn. Mae hyn yn cynnwys chi, fel mudiadau sy’n defnyddio (neu â diddordeb mewn defnyddio) Cyllido Cymru, a byddwn ni’n cynnal 2 sesiwn rithiol ddydd Mercher 24 Tachwedd a dydd Iau 25 Tachwedd, y ddwy rhwng 2pm a 4pm, er mwyn i chi gyflwyno’ch safbwyntiau.

Archebwch eich lle drwy’r ddolen ganlynol https://www.eventbrite.co.uk/e/grwp-ffocws-defnyddwyr-cyllido-cymru-funding-wales-user-focus-group-tickets-208913143837

Rhagor o wybodaeth

Os na allwch ddod i un o’r sesiynau hyn, bydd cyfleoedd eraill i chi roi gwybod eich barn i ni. Bydd holiadur byr yn gofyn am farnau yn cael ei rannu gan CGGC a gwahoddir chi hefyd i anfon sylwadau at y prif ymgynghorydd, Martyn Palfreman yn uniongyrchol yn Martyn@mjpalfreman.co.uk.

Bydd hefyd cyfle i chi gymryd rhan mewn gweithdy pellach gyda rhanddeiliaid eraill ddydd Iau 16 Rhagfyr am 2pm lle byddwn ni’n profi canfyddiadau a ddaw i’r amlwg o’r gwaith ymchwil. Bydd rhagor o fanylion yn dilyn maes o law.

Mae Cyllido Cymru yn system i bawb, ac rydyn ni’n gobeithio y gallwch chi gyfrannu at lunio ei dyfodol.

Diolch.

 

 

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 18/11/24
Categorïau: Cyllid, Newyddion

‘Grymuso pobl i weithredu er mwyn gwella eu hamgylchedd lleol’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 18/11/24
Categorïau: Cyllid

Cyllid ar agor i brosiectau sy’n fuddiol i gymunedau a’r amgylchedd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/11/24
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Y diwrnod rhoi byd-eang

Darllen mwy