Y Senedd, a elwir hefyd yn adeilad y Cynulliad Cenedlaethol, yng Nghaerdydd, De Cymru

Cyllideb ddrafft yn peri ‘dicter a phryder’ ymhlith arweinwyr y sector gwirfoddol

Cyhoeddwyd : 29/01/24 | Categorïau: Newyddion |

Mae cynrychiolwyr o bob cwr o’r sector gwirfoddol yng Nghymru wedi cyd-fynegi eu braw ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru a chyfeiriad teithio’r dyfodol.

Mae Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (TSPC) yn fecanwaith allweddol i fudiadau gwirfoddol siarad â Llywodraeth Cymru a chlywed oddi wrthynt. Gyda’i gilydd, mae aelodau TSPC yn cynrychioli pob maes gwaith y sector gwirfoddol yng Nghymru.

Yn dilyn cyhoeddiad cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, a’n datganiad ar y canlyniadau brawychus i’r sector gwirfoddol yng Nghymru, mae cynrychiolwyr TSPC wedi cyhoeddi’r cyd-ddatganiad canlynol.

DATGANIAD GAN GYNGOR PARTNERIAETH Y TRYDYDD SECTOR

Mae Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (TSPC) eisiau mynegi eu dicter a’u pryder dwys ynghylch y toriadau arfaethedig yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25.

Cyfeiriad teithio pryderus

  1. Mae’r gyllideb hon yn nodi cyfeiriad teithio pryderus, lle y disgwylir i’r sector gwirfoddol ddarparu a chynnal gwasanaethau rheng flaen heb fod yn rhan o’r broses benderfynu a heb ddigon o adnoddau i’w gweithredu.

Mae’r diffyg cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rhaglenni ymyrraeth gynnar ac atal a’i methiant i wahodd y sector gwirfoddol i weithio gyda’i gilydd i ddod o hyd i ddatrysiadau i’r argyfyngau sy’n wynebu Cymru yn bryderus dros ben.

Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn cefnogi’r nifer mwyaf erioed o bobl y gaeaf hwn, gyda llawer ohonynt angen eu hatgyfeirio i wasanaethau cymorth brys fel banciau bwyd. Dengys canlyniadau arolwg rhagarweiniol Yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau fod 60% o fudiadau cymunedol yn ymdrin â mathau newydd o anghenion ar gyfer eu defnyddwyr gwasanaethau, a 45% ohonynt yn gweithredu gwasanaethau a arferai gael eu darparu gan y sector cyhoeddus.

Mae hyn yn dangos bod y cyfrifoldeb wedi symud yn beryglus i gyfeiriad y sector gwirfoddol, heb roi’r cymorth, y cydlyniant a’r cydweithrediad angenrheidiol. Mae’n rhaid i’r sector gwirfoddol gael ei werthfawrogi fel partneriaid cyfartal wrth gyflawni ein cyd-uchelgeisiau.

Mynd yn groes i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

  1. Mae Llywodraeth Cymru yn mynd yn groes i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ei deddfwriaeth ei hun, gyda meddylfryd tymor byr sy’n niweidio pobl Cymru yn yr hirdymor.

Ni ellir cyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol heb fuddsoddiad priodol neu gadw at y Pum Ffordd o Weithio: hirdymor, integreiddio, cynnwys, cydweithio ac atal. Ychydig iawn o dystiolaeth a welir bod Llywodraeth Cymru wedi defnyddio’r egwyddorion hyn wrth ddrafftio’r gyllideb hon, sy’n tanseilio gallu cyrff cyhoeddus a mudiadau gwirfoddol yn aruthrol i’w rhoi ar waith yn y flwyddyn ariannol newydd.

Ar 10 Ionawr 2024, nododd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei Gyflwyniad i Bwyllgor Cyllid y Senedd:

‘Mae nifer yr achosion o argyfyngau yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn golygu bod angen i ni yn awr yn fwy nag erioed fod yn buddsoddi mewn dulliau ataliol fel ein bod yn lliniaru problemau yn y dyfodol ac yn fwy parod i ddelio â nhw.’

Bydd anghyfiawnderau hirsefydlog fel digartrefedd, dim ond yn gwaethygu. Mae’r gyllideb a gynigir ar gyfer Cymorth ac Atal Digartrefedd £3 miliwn yn llai na’r gyllideb ddangosol a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023. Mae’r gyllideb ddrafft hefyd yn cynnig toriad mewn termau real yng nghyllid y Grant Cymorth Tai. Daw hyn er gwaethaf arolwg gan Cymorth Cymru a nododd fod gan 66% o ddarparwyr eisoes restrau aros a bod 40% ohonynt yn debygol o roi’r gorau i’w gwasanaethau os na fydd mwy o gyllid yn cael ei roi.

Ni ellir cyflawni uchelgeisiau fel rhoi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru, fel y nodir ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru, heb gydweithrediad ar draws sectorau, cymorth priodol a chyllid.

Sector gwirfoddol wedi’i fwrw’n galed ar draws nifer o bortffolios

  1. Bydd y gyllideb ddrafft yn bwrw’r sector gwirfoddol yn galed ar draws nifer o feysydd gwaith allweddol, gan danseilio mudiadau sy’n ceisio trechu rhai o fygythiadau mwyaf Cymru fel tlodi sydd wedi’i ymwreiddio, anghydraddoldebau iechyd a’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Mae’r toriadau yn cynnwys gostyngiad sylweddol arall i gyllideb y maes Cyfiawnder Cymdeithasol, gan greu ansicrwydd i fudiadau gwirfoddol seiliedig ar gydraddoldeb sy’n cynrychioli pobl dan anfantais neu bobl y gwahaniaethir yn eu herbyn. Nid oes unrhyw gyllid wedi’i ailddosbarthu  i gefnogi gwasanaethau i fenywod ers i’r elusen genedlaethol dros gydraddoldeb menywod, Chwarae Teg, gau.

Y tu hwnt i’r gyllideb Cyfiawnder Cymdeithasol, mae llawer o’r gwasanaethau a gweithgareddau hanfodol y mae’r sector gwirfoddol yn eu darparu yn dod o dan bortffolios Llywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus eraill a’r Llywodraeth Leol. Mae effaith y toriadau hyn yn mynd y tu hwnt i’r gostyngiad cyllid uniongyrchol i fudiadau gwirfoddol. Mae’n effeithio ar yr holl wasanaethau cyhoeddus, a llawer o’r rhain yn dibynnu ar gydweithio â’r sector gwirfoddol i leihau’r nifer syfrdanol o bobl sydd eisoes yn dod at eu drysau am help a chefnogaeth.

Bydd canlyniadau’r gyllideb ddrafft yn bwrw’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru galetaf ac yn rhoi mwy o bobl mewn mwy o risg. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd eisoes yn wynebu tlodi, allgau cymdeithasol ac iechyd corfforol a meddyliol waeth. Bydd diffyg cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cofleidiol y sector gwirfoddol, er enghraifft, yn arwain at fwy o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol Cymru, ar adeg pan maen nhw eisoes yn ei chael hi’n anodd ymdopi â’r galw cynyddol.

Ein camau nesaf

Yn y dyddiau i ddod, byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r broses o graffu ar y gyllideb er mwyn lleisio pryderon y sector gwirfoddol ac arwyddocâd yr effeithiau ehangach y bydd y penderfyniadau cyllido hyn yn ei chael. Mae gennym ystod o gynigion ystyriol sy’n cynnig datrysiadau gwahanol, a byddem yn fwy na bodlon eu trafod gyda Llywodraeth Cymru, darparwyr gwasanaethau cyhoeddus a’n rhwydwaith ehangach.

YNGLŶN Â TSPC

Mae rhwydwaith TSPC yn cynnwys cynrychiolwyr o rwydweithiau’r sector gwirfoddol sy’n gweithio ar draws 25 o feysydd gweithgarwch y sector.

Prif ddiben TSPC yw gwneud yn siŵr bod yr egwyddorion a nodir yng Nghynllun y Trydydd Sector yn cael eu rhoi ar waith. Mae hefyd yn gyfle i’r sector godi materion o ddiddordeb neu bryder.

Gellir dod o hyd i aelodau presennol TSPC yma.

A ydych chi wedi eich effeithio gan y gyllideb ddrafft hon? Os felly, cysylltwch â polisi@wcva.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 10/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Gwobrau Elusennau Cymru 2024 – Cyhoeddi’r teilyngwyr

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Sut i gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Dylanwadu | Newyddion |

Llythyr agored i’r cabinet newydd

Darllen mwy