CAERDYDD, DU - RHAGFYR 4, 2016. Y Senedd, a elwir hefyd yn adeilad y Cynulliad Cenedlaethol, yng Nghaerdydd, De Cymru yw lleoliad Senedd Cymru.

Cyllideb Ddrafft 2024/25 – datganiad gan CGGC

Cyhoeddwyd : 19/12/23 | Categorïau: Dylanwadu | Newyddion |

Mae gan gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25 ganlyniadau brawychus i’r sector gwirfoddol yng Nghymru.

Rhyddhaodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2024/25 ar 19 Rhagfyr 2023. Rydym yn hynod bryderus ynghylch ehangder a dyfnder y toriadau arfaethedig.

Nododd adolygiad  o wariant 2022-25 ymrwymiad clir i greu ‘Cymru gryfach, decach a gwyrddach i bawb’. Mae cyllidebau dilynol – a’r un hon yn arbennig – wedi erydu’r ymrwymiad hwn.

BETH YW’R MEYSYDD SY’N PERI PRYDER?

Mae’r toriadau’n cynnwys gostyngiad sylweddol arall i’r gyllideb Cyfiawnder Cymdeithasol, sy’n cynnwys toriadau ar gyfer sefydliadau gwirfoddol sy’n seiliedig ar gydraddoldeb sy’n cynrychioli pobl â nodweddion gwarchodedig.

Rydym yn arbennig o siomedig gyda’r diffyg rhybudd ymlaen llaw i fudiadau gwirfoddol sy’n wynebu toriadau llym o’r cyhoeddiad hwn. Bydd hyn yn sioc i lawer o sefydliadau ac i’r bobl a’r cymunedau sy’n dibynnu ar eu gwasanaethau.

Y CYFEIRIAD TEITHIO

Bydd yn cymryd amser i’r sector gwirfoddol ddatbwytho’r gyllideb ddrafft yn llawn. Ond mae eisoes yn amlwg y bydd llawer o wasanaethau hanfodol a ddarperir gan y sector gwirfoddol yn cael eu heffeithio.

Mae’r cyfeiriad teithio hwn yn anghynaliadwy. Rhaid cael newid mawr yn y modd yr ydym yn ariannu camau ataliol hirdymor, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

PARTNERIAID CYFARTAL

I oroesi’r storm ariannol hon, rhaid trin y sector gwirfoddol fel partner cyfartal ochr yn ochr â chyrff y sector cyhoeddus.

Byddwn yn parhau i weithio gyda’r sector i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru i amddiffyn y rhai yn ein cymdeithasau sydd mwyaf agored i niwed a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd i greu ‘Cymru gryfach, decach a gwyrddach i bawb’.

CYSYLLTWCH Â NI

Os oes gennych grant neu gontract gyda chyllid Llywodraeth Cymru, rydym yn eich annog i gysylltu â’ch swyddog perthnasol am gyngor ar sut y gallai’r gyllideb ddrafft hon effeithio ar eich gwaith.

A yw’r gyllideb ddrafft hon wedi effeithio arnoch chi? Os felly, cysylltwch â policy@wcva.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/03/24 | Categorïau: Dylanwadu |

Awgrymiadau Mark Drakeford ar gyfer dylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 16/02/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwybodaeth a chymorth |

Cynllun gweithlu yn chwilio am fewnwelediad i rôl gwirfoddolwyr mewn lleoliadau iechyd meddwl

Darllen mwy