Yn ystod Mis Chwefror, ar hyd a lled Cymru, ac yn Ne Cymru’n benodol, cafodd cymunedau eu llorio gan Storm Dennis a’r llifogydd y gwnaeth ei hachosi.

Mae'r gronfa bellach ar gau i geisiadau.

Wnaeth Michael Sheen sefydlu ymgyrch Go Fund Me, mewn ymateb i’r digwyddiadau llifogydd sy’n bwrw Cymru.

‘Mae gweld y lluniau o bobl sydd wedi cael eu cartrefi a’u busnesau wedi’u dinistrio gan y llifogydd diweddar, ym mwrdeistref Castell-nedd Port Talbot ble cefais fy magu ac yn yr ardaloedd cyfagos a thu hwnt, yn dorcalonnus. Rwy’n gweld pobl yn gweithio gyda’i gilydd i helpu eu ffrindiau a’u cymdogion. Rwy’n gweld cymunedau yn dod ynghyd i helpu ei gilydd. Rwy’n gweld pobl ar y rheng flaen yn gwneud popeth y gallant i gynorthwyo’r teuluoedd hynny sydd wedi gweld eu bywydau’n troi’n llanast llwyr yn y diwrnodau diwethaf. Er mwyn parhau â’r gwaith hanfodol hwn, mae’r grwpiau a’r mudiadau sy’n helpu pobl Cymru angen eich cymorth.’

BETH WNAETH DIGWYDD I’R ARIAN A GODIR?

Wnaeth yr holl arian a godir cael ei gadw’n ganolog yng Nghymru gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) a’i ddosbarthu i gymunedau ar hyd a lled y wlad, gan roi blaenoriaeth i’r rheini a effeithiwyd waethaf. Wnaed CGGC gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau Gwirfoddol Sirol i sicrhau bod yr arian a godir yn cael ei reoli’n effeithiol a’i dderbyn gan grwpiau a mudiadau sy’n cymryd camau i ymateb i ddigwyddiadau llifogydd, gan sicrhau’r budd i’r rhai mewn angen mwyaf.

Mae ymgyrchoedd codi arian penodol eraill ar gael i helpu unigolion a busnesau – cofiwch barhau i roi arian i’r rhain.

Mae gan Michael Sheen berthynas agos â CGGC fel Llywydd y mudiad. Penderfynwyd mai CGGC fyddai yn y sefyllfa orau i weinyddu’r arian a godir, gan fod gan CGGC enw da iawn am weinyddu arian grant yng Nghymru. Mae’r ffaith fod yr arian yn cael ei gadw gan CGGC hefyd yn golygu roedd yr holl arian a dderbynnir yn gymwys am rodd cymorth.

Y gronfa helpu Cymru ar ôl Storm Dennis – rhestr o dderbynwyr grantiau

CYMORTH ARIANNOL ARALL SYDD AR GAEL:

I fusnesau sydd wedi’u heffeithio

https://businesswales.gov.wales/cy

Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol

https://llyw.cymru/rhaglen-cyfleusterau-cymunedol

I unigolion sydd wedi’u heffeithio

Mae Cronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru’n darparu £500 ar gyfer yr holl aelwydydd sydd wedi’u heffeithio gan y llifogydd. I fod yn gymwys, rhaid i’r ardal y mae’r aelwyd yn byw ynddi fod wedi’u heffeithio. Bydd aelwydydd heb yswiriant yn cael £1000. Dylai unigolion gysylltu â’u hawdurdod lleol am gymorth i wneud cais.