- Gorllewin Cymru a’r Cymoedd (yn gweithio gyda phobl ddi-waith ac yn economaidd anweithgar dros 25 oed)
- Dwyrain Cymru (yn gweithio gyda phobl ddi-waith ac yn economaidd anweithgar dros 25 oed)
- Gorllewin Cymru a’r Cymoedd (yn gweithio gyda phobl rhwng 16 a 24 oed nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant)
- Dwyrain Cymru (yn gweithio gyda phobl rhwng 16 a 24 oed nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant)
Ydych chi'n gweithio gyda phobl sy'n wynebu rhwystrau i gyflogaeth?
Rheolir y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol gan CGGC, gyda chefnogaeth cyllid o Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd. Ei nod yw lleihau anweithgarwch economaidd yng Nghymru a gwella cyflogadwyedd pobl ddifreintiedig.
Rhaid i brosiectau llwyddiannus weithredu yn y meysydd a ganlyn:

Ydy eich prosiect yn gymwys?
Mae'r cyllid wedi'i rannu'n ddau gategori:
Mae Cynnwys wedi’i anelu at brosiectau sy’n canolbwyntio ar ymyriadau cam cyntaf – ymgysylltu â phobl sydd bellaf o’r farchnad lafur. Byddwch yn gweithio gyda phobl i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth, ym mha bynnag ffordd rydych chi’n meddwl sy’n gweithio orau.
Mae Cyflawni wedi’i anelu at brosiectau sy’n cynnig cyflogaeth â chymorth i’r rhai sy’n profi rhwystrau i gyflogaeth. Unwaith eto, chi sydd i benderfynu sut i gyflawni hyn.
Gellid hefyd ymgorffori’r agweddau Cynnwys a Chyflawni mewn prosiect Cynnwys/Cyflawni cyfun – yn cynnwys ymyrraeth cam cyntaf ac yna rôl gyflogedig.
Sut i wneud cais a beth sy'n digwydd nesaf
RHAN 1:
- Cofrestrwch ar MAP – porth cais amlbwrpas CGGC
- Cwblhewch Holiadur Cymhwyster
- Caiff eich Holiadur Cymhwyster ei asesu, a chewch eich hysbysu am y canlyniad
- Os byddwch yn llwyddiannus cewch eich ychwanegu at y Rhestr buddiolwyr cymeradwy
RHAN 2:
- Mae buddiolwyr cymeradwy yn gymwys i wneud cais am gyllid o’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol trwy MAP
- Rydych yn cyflwyno cais am gyllid
- Ar ôl i’r cylch cyllido gau caiff ceisiadau eu hasesu, eu cymeradwyo gan y Panel Gweithgarwch Economaidd, a chewch eich hysbysu am y canlyniad
- Gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i gyfarfod gweithredu gyda’u Swyddog Prosiect
- Yna byddwch yn cael hyfforddiant prosiect gyda’r Swyddog Prosiect a’r Swyddog Hawliadau Ariannol
- Bydd eich prosiect yn cychwyn!
Cysylltwch â ni
I gael cymorth a rhagor o wybodaeth, cysylltwch â thîm y gronfa Cynhwysiant Gweithredol:
0300 111 0124
Gwybodaeth bellach
Categori | Cyllid |
Rhestr buddiolwyr cymeradwy – Cynhwysiant gweithredol
Categori | Cyllid |
Prosiectau cyfredol Cynhwysiant Gweithredol
Categori | Cyllid |
Hysbysiad preifatrwydd CGGC: i gyfranogwyr mewn prosiectau a ariennir gan Ewrop
Categori | Cyllid |
Hysbysiad preifatrwydd CGGC: ymgeiswyr am gyllid a derbynwyr cyllid
Categori | Cyllid |
AIF Adroddiad Terfynol
Categori | Cyllid |