Cynllun grant gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi mudiadau gwirfoddol i ddatblygu a chyflwyno dulliau arloesol a arweinir gan y gymuned o atal niwed sy’n gysylltiedig â gamblo.

Statws presennol y gronfa

Bydd y gronfa yn derbyn ceisiadau rhwng 31 Awst 2026 a 19 Hydref 2026, gweler yr amserlen isod am ragor o fanylion.

WCVA's Head of Health & Social Care chats to a delegate at a WCVA event
A close-up of a couple holding hands on a couch

Ar y dudalen hon

  • Ynglŷn â’r gronfa
  • Beth fyddwn ni’n ei gyllido
  • Cymhwysedd a beth sydd ar gael
  • Amserlenni
  • Sut i wneud cais
  • Sesiwn wybodaeth
  • Cysylltu â ni
  • Adnoddau

Ynglŷn â’r gronfa

Wedi’i gyllido gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a’i weinyddu gan CGGC, bydd Niwed Gamblo – Grant y Sector Gwirfoddol yn cryfhau gallu Cymru i atal niwed sy’n gysylltiedig â gamblo trwy weithredu seiliedig ar dystiolaeth a arweinir gan y gymuned. Mae’r gronfa yn cydnabod y rôl hanfodol y mae mudiadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol yn ei chwarae wrth gyrraedd cymunedau, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a helpu pobl i ffynnu.

Mae’r rhaglen yn rhan o ddull iechyd cyhoeddus newydd o atal niwed sy’n gysylltiedig â gamblo yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar y ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sy’n cyfrannu at niwed a chynhyrchu dysgu a fydd yn helpu i lunio polisi ac arferion yn y dyfodol.

A man gestures as he speaks to a support group made up of diverse men and women

Beth fyddwn ni’n ei gyllido

Nod y cynllun Niwed Gamblo – Grant y Sector Gwirfoddol yw cefnogi mudiadau a all helpu i:

  • Brofi a datblygu dulliau effeithiol o atal niwed sy’n gysylltiedig â gamblo.
  • Cryfhau capasiti cymunedol, sector a system.
  • Mynd i’r afael â sbardunau sylfaenol niwed sy’n gysylltiedig â gamblo.
  • Adeiladu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer atal yng Nghymru.
  • Ymwreiddio profiad bywyd ac egwyddorion iechyd cyhoeddus Cymru drwy gydol gweithgareddau atal.

Mae’r gronfa yn annog prosiectau sy’n canolbwyntio ar atal a arweinir gan y gymuned ac sydd wedi’u gwreiddio yng nghyd-destun Cymru, gan gynnwys gweithgareddau sy’n lleihau anghydraddoldebau, yn cryfhau gwydnwch cymunedol ac sy’n cefnogi’r rheini mewn perygl mwyaf o brofi niwed sy’n gysylltiedig â gamblo.

Cymhwysedd a beth sydd ar gael

Gall mudiadau wneud cais am grantiau o hyd at £75,000 y flwyddyn am hyd at ddwy flynedd. Nid oes angen cyllid cyfatebol, a gall prosiectau gael hyd at 100% o’r costau cymwys.

Gallai cyllid gefnogi.

  • Ymgyrchoedd ymwybyddiaeth gymunedol a mentrau addysg.
  • Gwaith atal wedi’i dargedu gyda grwpiau risg uwch neu grwpiau heb eu gwasanaethu’n ddigonol.
  • Gweithgareddau allgymorth cymunedol, gweithredu cymdeithasol a meithrin gwydnwch.
  • Cefnogaeth i deuluoedd a phobl eraill sy’n cael eu heffeithio gan gamblo rhywun arall.
  • Meithrin gallu’r sector gwirfoddol, partneriaethau a rhwydweithiau.
  • Dulliau creadigol, digidol ac arloesol o atal.

Rhaid i bob prosiect a gyllidir gael ei gyflawni yng Nghymru, dilyn ymagwedd sy’n canolbwyntio ar atal a bod yn annibynnol o gyllid neu ddylanwad y diwydiant gamblo.

Amserlenni

  • Gweminar gwybodaeth a throsolwg: 12 Awst 2026
  • Ffenestr ymgeisio yn agor: 31 Awst 2026
  • Ffenestr egluro ar gyfer cwestiynau sy’n ymwneud â’r cynllun: 31 Awst – 19 Hydref 2026
  • Ffenestr ymgeisio yn cau: 19 Hydref 2026
  • Hysbysu am y dyfarniadau grant: w/d 30 Tachwedd 2026
  • Dyddiad dechrau prosiect: 7 Rhagfyr 2026

Gellir gweld amserlen fanylach yn Niwed Gamblo – Grant y Sector Gwirfoddol: Canllawiau i ymgeiswyr.

Sut i wneud cais

ellir gwneud ceisiadau trwy MAP, Porth Ceisiadau Amlbwrpas CGGC. I gofrestru a gweld y cyfleoedd cyllido presennol, ewch i map.wcva.cymru.

Cyn gwneud cais, caiff mudiadau eu hannog i ddarllen y canllawiau llawn i ymgeiswyr.

Darllenwch ganllawiau Niwed Gamblo – Grant y Sector Gwirfoddol.

Cysylltu â ni

Am gwestiynau am y broses grant a cheisiadau, cysylltwch â Thîm Grantiau CGGC: grantiauicc@wcva.cymru.

Mae’r gronfa newydd hon yn cynnig cyfle pwysig i sector gwirfoddol Cymru helpu i lunio a chyflawni dull cryfach a mwy seiliedig ar dystiolaeth o atal niwed sy’n gysylltiedig â gamblo a chefnogi lles cymunedol ledled Cymru.

Resources

Categori | Cyllid |

Niwed Gamblo – Grant y Sector Gwirfoddol: Canllawiau i ymgeiswyr

Mwy o adnoddau