Mae’r gronfa ar gau i geisiadau ar hyn o bryd. Os hoffech gael gwybod am unrhyw ddiweddariadau ariannu yn y dyfodol, cofrestrwch ar gyfer rhestr bostio cyllid CGGC.
Cyllid i helpu mudiadau gwirfoddol i wneud y mwyaf o'u heffaith drwy ddatblygu sefydliadol a mwy o wydnwch.
Statws presennol y gronfa


Ar y dudalen hon
- Ynglŷn â’r gronfa
- Ein nodau
- Beth fyddwn ni’n ei ariannu
- Cymhwyster
- Amserlen
- Sut i ymgeisio
- Cymorth pellach
- Beth ydym wedi’i gyllido
- Cysylltu â ni
Ynglŷn â'r gronfa
Mae’r Grant Twf Sefydliadol Comic Relief yn cael ei reoli gan CGGC a’i ariannu gan Comic Relief. Mae’r cynllun yn cynnig cyllid i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru i’w helpu i gael yr effaith fwyaf posibl drwy ddatblygu sefydliadol a mwy o wytnwch.

Ein nodau
Mae Comic Relief a rhwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn cydnabod y gwaith ardderchog y mae mudiadau cymunedol yn ei wneud ledled Cymru ac rydym yn awyddus I helpu mudiadau i feithrin eu gallu mewn ffordd gynaliadwy ac effeithiol. Nod y Gronfa Twf Sefydliadol yw rhoi’r cyfle i fudiadau gwneud newidiadau strategol sy’n cynyddueu cydnerthedd, er enghraifft:
- Adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio’n dda mewn perthynas â gweithgaredd cymunedol eich mudiad
- Cryfhau a mesur effaith eich gweithgaredd craidd a arweinir gan y gymuned
- Datblygu ffyrdd newydd o weithio
Beth fyddwn ni'n ei ariannu
Bydd y cynllun yn ariannu mudiadau sy’n gweithio i ddarparu buddion o dan y themâu canlynol:
- Plant a phobl ifanc – dysgu a datblygu; datblygiad plentyndod cynnar
- Cymuned – canolbwyntio ar wasanaethau lleol gan gynnwys banciau bwyd, ceginau cymunedol a mannau diogel i bobl sy’n agored i niwed
- Allgymorth a chefnogaeth sy’n canolbwyntio ar deuluoedd – hanfodion ac anghenion sylfaenol / cymorth ariannol
- Digartrefedd
- Gwasanaethau iechyd meddwl
Dylai camau gweithredu i’w hariannu o dan y cais hwn am grant fod yn ymochrol a bwriadon y cynllun grant – a esbonnir yn nogfen arweiniad y cynllun.
Bydd grantiau rhwng £20,000 a £35,000 ar gael i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru. Cyfanswm gwerth y cynllun yw £315,000.
Cymhwyster
Mae mudiadau gwirfoddol ac incwm blynyddol o dan £250,000 yn gymwys i ymgeisio. Cyfeiriwch at ganllawiau’r cynllun i weld yr holl feini prawf cymhwysedd a rhestr o’r mathau o fudiadau y byddwn yn eu hariannu.
Amserlen
Mae’r ffenestr ymgeisio ar agor o 14 Hydref 2024, gan gau 23:59, 6 Rhagfyr 2024.
Y cynharaf y gellir prosiectau eu cychwyn yw 3 Chwefror 2025 gan ddod i ben erbyn 1 Mehefin 2026 fan bellaf.
Sut i ymgeisio
I wneud cais am Grant Twf Sefydliadol, bydd angen i chi gofrestru gyda Phorth Ceisiadau Amlddefnydd CGGC (MAP). Os ydych wedi cofrestru gyda MAP o’r blaen, gallwch fewngofnodi trwy roi eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar y sgrin gartref.
Gall mudiadau gofrestru drwy fynd i’r wefan map.wcva.cymru.
Os oes angen help arnoch i gofrestru ar MAP dilynwch y fideo hwn.
Cymorth pellach
Diben yr arweiniad hwn yw helpu ymgeiswyr i ddeall mwy am Grant Twf Sefydliadol Comic Relief.
I gael mwy o gymorth, cysylltwch â’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol.
Angen ysbrydoliaeth? Dyma’r prosiectau rydym wedi’u cyllido o dan gylch blaenorol y Grant Twf Sefydliadol:
- Gwnaeth Prosiect Newid y Gêm ddatblygu datganiad cenhadaeth newydd, strategaeth codi arian tair blynedd a gweledigaeth eglur ar gyfer y dyfodol. Gwnaethant gryfhau eu systemau rheoli ariannol, adnoddau dynol a llywodraethu, a roddodd blatfform cadarn iddynt am dwf cynaliadwy.
- Gwnaeth y grant helpu Little Lounge ar adeg dyngedfennol yn nhwf y mudiad, gan eu galluogi i wasanaethu’r gymuned wrth baratoi ar gyfer lansiad eu Hwb Cymunedol cyntaf. Gwnaeth y capasiti ychwanegol eu galluogi i gasglu a monitro data’n well, a bu’n allweddol mewn sicrhau cyllid gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
- Defnyddiodd Gwirfoddolwyr Hosbis yn y Cartref Aberystwyth a’r Cylch (HAHAV) y grant i recriwtio Pennaeth Manwerthu dros dro, a ddatblygodd strategaeth fanwerthu tair blynedd a rhoi amrediad o bolisïau a gweithdrefnau newydd ar waith. Gwnaeth hyn osod llwybr clir i wneud yr elw mwyaf posibl o weithgareddau manwerthu presennol.
- Gwnaeth y grant roi’r capasiti oedd ei angen ar Citrus Arts i fyfyrio’n ddwfn ar y mudiad a datblygu cynllun strategol newydd ar gyfer 2023-27. Gwnaeth hefyd eu galluogi i wneud cais llwyddiannus am gyllid craidd amlflwyddyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru a grant gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
- Rhoddodd y grant yr amser a’r adnoddau oedd eu hangen ar Operasonic i nodi, meithrin a datblygu arweinydd a oedd yn dod i’r amlwg, a oedd wedi wynebu rhwystrau i’w daith arweinyddiaeth. Gwnaeth y cyllid hefyd alluogi’r mudiad i fabwysiadu dull mwy strategol a hirdymor o fynd ati i godi arian a chynllunio. Bu’r grant yn hanfodol i’r mudiad wrth sicrhau cyllid craidd amlflwyddyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech siarad â ni am eich syniad am brosiect, cysylltwch â’r Tîm Grantiau ar 0300 111 0124 neu anfonwch e-bost atom yn comicreliefgrants@wcva.cymru.