- Ynglŷn â’r gronfa
- Beth rydym yn ei gyllido
- Cymhwysedd
- Amserlenni
- Beth rydym wedi’i gyllido
- Cysylltu â ni
Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus, bydd Cynllun Coedwig Genedlaethol Cymru yn parhau i weithio ar raddfa dirwedd i greu a gwella coedwigoedd ar hyd a lled Cymru.
Ar y dudalen hon
Statws presennol y gronfa
Nid yw’r cynllun yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd. Bydd cylchau cyllido yn y dyfodol yn cael eu hybu drwy’r Partneriaethau Natur Lleol.
Ynglŷn â’r gronfa
Mae cynllun Coedwig Genedlaethol Cymru (NFfW) wedi’i gyllido gan Lywodraeth Cymru a’i reoli a’i ddosbarthu gan Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – Cynllun Partneriaethau Natur Lleol (LNP). Mae’r gronfa yn cefnogi prosiectau ledled Cymru sy’n:
- Gwireddu buddion economaidd, cymunedol, bioamrywiaeth a hamdden NFfW
- Cydweithredol rhwng nifer o berchnogion tir ar raddfa dirwedd
- bodloni 6 canlyniad NFfW
Rhaid i ymgeiswyr weithio gyda’u Partneriaethau Natur Lleol i ddatblygu eu prosiect.
Beth rydym yn ei gyllido
Byddwn yn cefnogi prosiectau tirwedd arloesol sydd, ar y cyfan, yn bodloni holl ganlyniadau canlynol NFfW (gall pob cyfranogwr ganolbwyntio ar ganlyniadau unigol os oes angen):
- coetiroedd gwydn o ansawdd da sydd wedi’u dylunio a’u rheoli’n dda
- coetiroedd sy’n hygyrch i bobl
- cysylltiad cymunedau â choetiroedd
- coetiroedd cysylltiedig
- coetiroedd a choed dynamig, aml-ddiben
- coetiroedd sy’n dangos dysgu, ymchwil ac arloesedd
Mae cyllideb o £4.3 miliwn i gyd (£4 miliwn o gyfalaf a £300,000 refeniw) ar gyfer y gronfa. Dylai’r prosiectau a gyllidir fod rhwng £50,000 – £250,000.
Cymhwysedd
Gall y cynllun gael ei gyrchu gan fudiadau yng Nghymru sy’n cydweithio â’u Partneriaeth Natur Leol i ddatblygu a goruchwylio eu prosiect.
Dylai ceisiadau geisio adlewyrchu a dangos cymaint â phosibl o’r canlynol (ymhlith pethau eraill):
- Eu bod wedi’u hymwreiddio yn anghenion eu ‘lle’ a’r effaith y gall coed ei chael ar eu cymuned/lleoliad.
- Ymgysylltiad cymunedol cryf sy’n:
- cynnig cyfleoedd i gymunedau difreintiedig gael mynediad at goetiroedd a natur.
- creu cyfleoedd economaidd lleol a chynaliadwy mewn ardaloedd cefn gwlad.
- Cyflawni yn erbyn amcanion polisi coedwigaeth ehangach:
- Plannu coed
- Gwell mynediad a chysylltedd
- Datblygu sgiliau
- Gwerth economaidd coetir
- Cefnogi ymgysylltiad ehangach â’r gymuned drwy addysg, datblygu sgiliau a chyfleoedd gwirfoddoli
- Ymagweddau arloesol at reoli coetiroedd a thirweddau a rheoli, peilota ac arddangos arferion newydd
Amserlenni
Rhaid i bob prosiect gael ei gyflawni a’i hawlio erbyn 31 Mawrth 2027.
Beth rydym wedi’i gyllido
Dyma rai gweithgareddau a gefnogwyd drwy’r cynllun peilot blaenorol a oedd yn adlewyrchu’r dull tirwedd:
- Gweithgareddau cymunedol diddorol i bobl ifanc ac oedolion agored i niwed
- Gwella’r mynediad i goetiroedd a’r mwynhad o fod mewn coetiroedd trwy wella a thrwsio’r seilwaith
- Cynnig hyfforddiant ac arddangosiadau i wirfoddolwyr a grwpiau ar sgiliau coetir traddodiadol fel bondocio a phlannu coed
- Prosesu pren ac edrych ar gyfleoedd economaidd cynaliadwy trwy ddefnyddio melin goed symudol a llunio canllawiau i’r rheini sy’n rheoli coetiroedd er budd economaidd a chymunedol
- Cysylltu coetiroedd, coed perthi, tir glas a mawndiroedd coedwigoedd lleol er mwyn creu cynefinoedd, gwella bioamrywiaeth ac ymgysylltu’n ehangach â’r gymuned
Cysylltwch â ni
Os oes gennych gwestiynau cyffredinol am y broses ymgeisio, e-bostiwch LNPCymru@wcva.cymru neu ffoniwch 0300 111 0124.