PWRPAS Y CYNLLUN KICKSTART
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi cyhoeddi lansiad cynllun Kickstart gwerth £2 biliwn er mwyn creu cannoedd o filoedd o leoliadau swydd chwe mis o hyd o ansawdd uchel i bobl ifanc ledled y DU.
Gall cyflogwyr ddefnyddio’r cynllun Kickstart er mwyn creu lleoliadau swydd newydd i bobl ifanc (rhwng 16-24 oed) sydd ar hyn o bryd yn derbyn Credyd Cynhwysol neu’r Lwfans Chwilio Gwaith, ac sy’n wynebu’r risg o ddiweithdra hirdymor.
Trwy’r cynllun, bydd modd i chi gael mynediad i gronfa fawr o bobl ifanc â photensial sy’n barod am gyfle. I gychwyn bydd DWP yn rhoi blaenoriaeth i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sy’n barod am gyfle ac a gefnogir gan eu mentor gwaith yn y Ganolfan Byd Gwaith er mwyn cofrestru ar y cynllun.
Ar gyfer pob rôl a gaiff ei chreu, bydd DWP yn talu:
- 100% o’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol perthnasol am 25 awr yr wythnos
- Cyfraniadau Yswiriant Gwladol cysylltiedig y cyflogwr
- Cyfraniadau cofrestru awtomatig lleiaf y cyflogwr
Bydd cyflogwyr hefyd yn derbyn £1500 am bob lleoliad i gydnabod y buddsoddiad y byddant yn ei wneud er mwyn datblygu’r cyflogai Kickstart, er enghraifft i dalu costau hyfforddi a chostau datblygu eraill.
Caiff yr holl gyfleoedd swyddi eu hysbysebu trwy’r Ganolfan Byd Gwaith a bydd Anogwr Gwaith yn darparu ymgeiswyr cyfweliad ar gyfer pob rôl, gan ganolbwyntio ar y bobl ifanc hynny sy’n wynebu’r risg mwyaf o ddiweithdra hirdymor.
Canllawiau cynllun Kickstart y DWP (Saesneg yn unig)
BETH YW CYMHWYSTER Y GOFYNION?
Mae’n rhaid i’r mudiadau gofrestru hefo Comisiwn Elusennau a / neu Ty’r Cwmniau ac wedi cyflwyno o leiaf cyfrifau un blwyddyn. Mae hyn o ran gwiriadau cyllidol cynllyn ‘golau cylch’ yr Adran Gwiath a Phensiynau. Mae’r gwiriad yn cael ei neud ar bob cais unwaith mae y mynedfa wedi cyflwyno cais i’r Adran Gwaith a Phensiynau.
Bydd y gwiriadau cyllidol yn uchelbwyntio os bydd yr Adran Gwith a Phensiynau yn meddwl fod sefyllfa ariannol eich mudiad yn risg uchel. Os byddant yn meddwl hynny yn anffodus eith eich cais ddim pellach.
BETH ALL CGGC EI GYNNIG?
Rhaid i fudiadau sy’n ymgeisio’n uniongyrchol i DWP fod ag o leiaf 30 o swyddi ar gael i bobl ifanc, fodd bynnag anogir mudiadau sydd â llai na 30 o gyfleoedd swyddi i gysylltu ag un o’r mudiadau cynrychioli i gyflwyno cais ar eu rhan. Mae CGGC yn gorff sydd wedi ei gofrestru fel porth i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru.
Mae CGGC wedi gwahodd ceisiadau trwy Borth Ymgeisio Amlbwrpas CGGC (MAP). Edrychir ar bob cais, ac mae’n bosibl y bydd gofyn am wybodaeth ychwanegol er mwyn cryfhau ceisiadau a chadarnhau dichonoldeb y nifer a’r mathau o rolau.
Bydd CGGC yn gwneud ceisiadau’n uniongyrchol i DWP mewn sypiau o 30+ o rolau.
COFRESTRU GYDA MAP
Er mwyn cyflwyno cais am gyllid, bydd angen i chi gofrestru gyda MAP. Os ydych eisoes wedi cofrestru gyda MAP, gallwch fewngofnodi trwy fewnbynnu eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar y dudalen gartref.
Gall mudiadau gofrestru trwy ymweld â’r wefan map.wcva.cymru.
CEFNOGAETH AC ARWEINIAD PELLACH
E-bost: kickstart@wcva.cymru
Rhif cyswllt: 0300 111 0124