Rhaglen cyllid grant i helpu cymunedau sy’n byw o fewn pum milltir i rai gorsafoedd trosglwyddo gwastraff neu safleoedd tirlenwi weithredu dros eu hamgylchedd lleol.

Mae’r cynllun bellach ar agor ar gyfer ceisiadau

Mae’r cynllun bellach ar agor ar gyfer ceisiadau am brif grantiau rhwng £5,000 a £49,000 a phrosiect ‘o bwys cenedlaethol’ sydd werth rhwng £50,000 a £250,000.

Byddwn yn rhoi dau ddyddiad cau ar gyfer y cylch hwn o’r LDTCS, bydd hyn yn galluogi ceisiadau i gael eu hasesu’n amserol pan fyddant yn dod i law.

  • Os hoffech i’ch cais gael ei ystyried fel rhan o ffenestr 1, cyflwynwch ef erbyn 20 Rhagfyr 2024.
  • Os hoffech i’ch cais gael ei ystyried fel rhan o ffenestr 2, cyflwynwch ef erbyn 7 Chwefror 2025.

Am fanylion pellach darllenwch y canllaw ar gyfer y cynllun.

I dderbyn y newyddion diweddaraf ar gyllid CGGC, cofrestrwch ar restr bostio cyllido CGGC.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth hefyd yn y lawr lwythiadau isod.

COFRESTRU AR MAP

Mae’r ffordd y mae ceisiadau’n cael eu cyflwyno yn newid – mae WCVA wedi gwrando ar ymgeiswyr cyllido ac mewn ymgynghoriad â’r sector, wedi datblygu Porth Ceisiadau Amlbwrpas newydd. Mae’r platfform gwe Newydd yn hawdd i’w ddefnyddio sydd yn golygu bod gwneud cais am grant trwy WCVA yn brofiad llawer symlach.

Er mwyn cyflwyno cais am gyllid, bydd angen i chi gofrestru gyda Phorth Ymgeisio Amlbwrpas CGGC (MAP). Os ydych wedi cofrestru gyda MAP o’r blaen, gallwch fewngofnodi drwy roi eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar y sgrin gartref.

Gall mudiadau gofrestru drwy ymweld â’r wefan https://map.wcva.cymru.

Os oes angen help arnoch i gofrestru ar MAP dilynwch y fideo hwn.

PWY A BETH FYDD YN DERBYN CYLLID?

Bydd y gronfa ar agor i unrhyw sefydliad ar gyfer prosiectau sy’n canolbwyntio ar un neu fwy o’r themâu canlynol:

Bioamrywiaeth – creu rhwydweithiau ecolegol cydnerth er budd amrediad o gynefinoedd a rhywogaethau:

  • Gwella amodau er mwyn helpu rhywogaethau brodorol, peillwyr ynghyd â darparu cyfleoedd ar gyfer plannu newydd
  • Adfer, cynnal a chadw a gwella cynefinoedd naturiol
  • Ymgysylltu a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth er mwyn ymwreiddio bioamrywiaeth

Lleihau gwastraff a gwyro gwastraff o safleoedd tirlenwi – hyrwyddo ymwybyddiaeth ac ymarfer gorau er mwyn lleihau maint y gwastraff sy’n cael ei gynhyrchu:

  • Rhoi anogaeth i atal, ailddefnyddio, adfer ac ailgylchu gwastraff
  • Lleihau gwastraff bwyd a chefnogi mentrau fel compostio
  • Ymgysylltu a chefnogi dealltwriaeth i alluogi gwastraff gael ei weld fel adnodd

Gwelliannau amgylcheddol ehangach – dod â budd ehangach i’r gymuned drwy wella ansawdd y lle:

  • Creu mannau gwyrdd cymunedol a chefnogi isadeiledd gwyrdd
  • Dychwelyd ardaloedd sydd wedi cael eu hesgeuluso ac sydd wedi dirywio yn ôl i’w defnyddio gan y gymuned
  • Cynnal a chadw neu wella cyfleusterau cymunedol, er enghraifft neuaddau cymunedol

Defnyddiwch y gwirydd cymhwysedd ardal isod er mwyn gweld a yw eich prosiect chi o fewn pum milltir i orsaf trosglwyddo gwastraff neu safle tirlenwi cymwys.

Mae gwybodaeth ychwanegol ynglŷn â sut y bydd yn gronfa yn gweithio a’r broses ymgeisio.

GWIRYDD CYMHWYSEDD ARDAL

Defnyddiwch y map os gwelwch yn dda i weld a ydych chi o fewn pum milltir i orsaf trosglwyddo gwastraff neu safle tirlenwi.
Bydd Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn cyllido prosiectau o fewn pum milltir i rai gorsafoedd trosglwyddo gwastraff neu safleoedd tirlenwi. Safleoedd cymwys yw’r rhai hynny a adroddodd eu bod wedi anfon mwy na 2000 tunnell i safle tirlenwi yn ystod y flwyddyn adrodd ac mae safleoedd cymwys yn ddarostyngedig i newid rhwng rowndiau cyllid a chynghorir chi felly i wirio’r map cyn i chi ddechrau eich cais. Bydd y map yn cael ei ddiweddaru cyn agor rownd gyllid a bydd yn dangos safleoedd sy’n gymwys ar gyfer y rownd honno.

Unwaith yr ydych chi wedi cadarnhau bod eich prosiect o fewn un neu fwy o’r safleoedd cymwys hyn, darllenwch ganllawiau’r cynllun er mwyn gwirio a yw eich prosiect yn cydweddu â themâu’r cyllid a’r meini prawf cymhwysedd eraill.

Bydd prosiectau bioamrywiaeth sy’n ymestyn y tu allan i’r ffin pum milltir yn cael eu hystyried oherwydd bod y cynllun yn gwerthfawrogi nad yw cynefinoedd (fel afonydd) yn cydnabod ffiniau a gall buddion gael eu teimlo mewn ardaloedd heblaw, neu’n ychwanegol at, y safle lle mae gweithgaredd y prosiect yn digwydd.  Bydd ceisiadau sy’n rhan o’r categori hwn yn cael eu hystyried fesul achos ar gyfer derbyn cyllid llawn neu gyllid rhannol.

Os nad yw eich prosiect o fewn ardal gymwys, neu os ydych chi’n ansicr a yw eich prosiect yn gymwys o dan feini prawf y thema, cysylltwch â ldtgrants@wcva.cymru neu eich Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol am ganllawiau pellach os gwelwch yn dda.
Gallwch symud y map o gwmpas drwy’i glicio a’i lusgo gyda’ch llygoden. Er mwyn chwyddo i mewn i’ch ardal chi – pwyswch y botwm CTRL ar eich bysellfwrdd a defnyddiwch yr olwyn sgrolio ar eich llygoden er mwyn chwyddo i mewn. Mae ardaloedd cymwys wedi’u lliwio yn goch gyda phin yng nghanol yr ardal gymwys.

Gall yr adnoddau canlynol eich helpu chi i ddatblygu eich syniadau prosiect ar gyfer un o themâu’r cynllun

Bioamrywiaeth

Mae’r thema fioamrywiaeth yn ymwneud â ‘chadwraeth a hyrwyddo rhywogaeth benodol neu gynefin penodol lle y mae’n bodoli yn naturiol’.  Mae sawl adnodd allweddol yn helpu i egluro cyflwr gwael presennol ein bioamrywiaeth a’r bygythiadau a ddaw gyda hyn i ‘wasanaethau’r ecosystem’ yr ydym ni’n dibynnu ar yr amgylchedd amdanyn nhw.

I gael gwybodaeth am rywogaethau yn eich ardal leol a’r camau gorau y gallwch eu cymryd i’w cefnogi gallwch gael cyngor gan eich Partneriaeth Natur Leol, cysylltwch â’ch Canolfan Cofnodion Amgylcheddol Lleol (Gogledd, De, Gorllewin a Chanolbarth Cymru), dewch o hyd i’ch Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt lleol  neu edrychwch ar adnoddau Buddsoddi mewn Natur Cymru.

Lleihau gwastraff a gwyro gwastraff o safle tirlenwi

Mae’r thema hon yn ceisio ‘hyrwyddo ymwybyddiaeth ac ymarfer gorau i leihau maint y gwastraff a gynhyrchir’. Bydd hyn yn helpu i leihau’r costau amgylcheddol a chyllidol sy’n gysylltiedig ag adnoddau sy’n cael eu gwastraffu a gall helpu i greu economi gylchol, lle gwelir gwastraff fel adnodd. Er mwyn cael mwy o wybodaeth ynglŷn â’r economi gylchol a beth mae hyn yn ei olygu, gallwch chi ymweld â gwefan WRAP Cymru.

Er mwyn cael mwy o wybodaeth ac ysbrydoliaeth, ewch i:

  • Caru Bwyd Casán Gwastraff a Caru Eich Dillad – ynglŷn â phrosiectau lleihau gwastraff
  • Fareshare Cymru a Repair Café – enghreifftiau ynglŷn â syniadau economi gylchol
  • Cadwch Gymru’n Daclus – ymchwil ar wastraff a gwybodaeth am bolisïau ac enghreifftiau o weithredu cymunedol ysbrydoledig i ymdrin â gwastraff a sbwriel ar lefel gymunedol leol
  • Taclo Tipio Cymru – adnoddau a syniadau ynglŷn ag ymgyrchoedd er mwyn ymdrin â sbwriel niwsans
  • Y Gymdeithas Cadwraeth Forol – cyngor ynghylch glannau moroedd glân ac ysbwriel morol ac mae’n rhedeg BeachWatch drwy’r DU<
  • Cwmpas – darparu cefnogaeth ar gyfer mentrau cymdeithasol yng Nghymru sy’n ystyried treialu mentrau ailddefnyddio ac uwchgylchu

Gwelliannau amgylcheddol ehangach

Mae’r thema hon yn gyfle gwych i gyllido gweithgareddau sy’n dod â buddion ehangach i’r gymuned drwy wella ansawdd cyfleusterau cymunedol a mannau gwyrdd.  Os ydych chi’n meddwl sefydlu prosiect i hyrwyddo neu wella man gwyrdd neu wella eich adeilad cymunedol, gall y canlynol fod yn adnoddau defnyddiol ar gyfer syniadau a data ymchwil:

Mae gan sefydliadau fel Cadwch Gymru’n Daclus, Glandŵr Cymru, Groundwork Wales a Groundwork North Wales wybodaeth ac astudiaethau achos sy’n darparu syniadau ac ysbrydoliaeth hefyd.

Cysylltwch â ldtgrants@wcva.cymru neu eich Cyngor Gwirfoddol Sirol er mwyn gwneud ymholiadau pellach.

Lawrlwytho

Categori | Cyllid |

Arweiniad i ymgeiswyr Tachwedd 2024

Categori | Cyllid |

LDTCS Adroddiad Blynyddol 2024

Categori | Cyllid |

LDTCS Adroddiad Blynyddol 2023

Categori | Heb gategori |

LDTCS Adroddiad Blynyddol 2022

Categori | Heb gategori |

LDTCS Adroddiad Blynyddol 2021

Categori | Cyllid |

LDTCS Adroddiad Blynyddol 2020

Categori | Heb gategori |

Dyfarniadau Grant LDTCS Cylch 11

Categori | Cyllid |

Dyfarniadau Grant LDTCS Cylch 10

Categori | Cyllid |

Dyfarniadau Grant LDTCS Cylch 9

Categori | Cyllid |

Dyfarniadau Grant LDTCS Cylch 8

Categori | Cyllid |

Dyfarniadau Grant LDTCS Cylch 7

Categori | Cyllid |

Dyfarniadau Grant LDTCS Cylch 6

Categori | Heb gategori |

Dyfarniadau Grant LDTCS Cylch 5

Mwy o adnoddau