Statws presennol y gronfa
Mae’r cynllun grant ar agor nawr am geisiadau. Byddwn yn rhoi dau ddyddiad cau ar gyfer y cylch hwn o’r LDTCS, bydd hyn yn galluogi ceisiadau i gael eu hasesu’n amserol pan fyddant yn dod i law.
Os hoffech i’ch cais gael ei ystyried fel rhan o ffenestr 1, cyflwynwch ef erbyn 11.59 pm ar 7 Tachwedd 2025.
Os hoffech i’ch cais gael ei ystyried fel rhan o ffenestr 2, cyflwynwch ef erbyn 11.59 pm ar 12 Rhagfyr 2025.
Defnyddiwch y map isod os gwelwch yn dda i weld a ydych chi o fewn pum milltir i orsaf trosglwyddo gwastraff neu safle tirlenwi.
Ar y dudalen hon
- Ynglŷn â’r gronfa
- Beth fyddwn ni’n ei ariannu
- Cymhwyster
- Amserlen
- Sut i ymgeisio
- Cymorth pellach
- Beth ydym wedi’i gyllido
- Cysylltu â ni
Ynglŷn â'r gronfa
Cynllun grant gan Lywodraeth Cymru yw Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi a weinyddir gan CGGC. Ei nod yw rhoi cyllid grant i gymunedau sy’n byw ar bwys safle tirlenwi neu orsaf trosglwyddo gwastraff. Mae cyfran o’r dreth a gesglir gan weithredwyr safleoedd tirlenwi yn darparu’r cyllid sy’n ffurfio’r cynllun grant.
Gall mudiadau wneud cais am grantiau rhwng £5,000 a £49,999 ar gyfer prosiectau sy’n cyd-fynd ag un o dair thema’r cynllun.
Beth fyddwn ni’n ei ariannu
Bydd y prosiectau a gyllidir yn canolbwyntio ar un neu ragor o’r themâu canlynol:
Bioamrywiaeth – creu rhwydweithiau ecolegol cydnerth er budd amrediad o gynefinoedd a rhywogaethau:
Lleihau gwastraff a gwyro gwastraff o safleoedd tirlenwi – hyrwyddo ymwybyddiaeth ac ymarfer gorau er mwyn lleihau maint y gwastraff sy’n cael ei gynhyrchu:
Gwelliannau amgylcheddol ehangach – dod â budd ehangach i’r gymuned drwy wella ansawdd y lle:
Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ar y cynllun.
Cymhwyster
Bydd Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn cyllido prosiectau o fewn pum milltir i rai gorsafoedd trosglwyddo gwastraff neu safleoedd tirlenwi. Safleoedd cymwys yw’r rhai hynny a adroddodd eu bod wedi anfon mwy na 2000 tunnell i safle tirlenwi yn ystod y flwyddyn adrodd, ac sy’n cael eu hadolygu bob blwyddyn.
Gall prosiectau bioamrywiaeth sy’n ymestyn y tu allan i’r cwmpas o bum milltir gael eu hystyried, gan nad yw cynefinoedd (fel afonydd) yn cydnabod ffiniau a gallai’r buddion gyrraedd ardaloedd ehangach. Bydd ceisiadau o’r fath yn cael eu hystyried yn unigol am gyllid llawn neu rannol.
Os nad yw eich prosiect o fewn ardal gymwys, neu os ydych chi’n ansicr a yw eich prosiect yn gymwys o dan feini prawf y thema, cysylltwch â ldtgrants@wcva.cymru neu eich Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol am ganllawiau pellach os gwelwch yn dda.
Map cymhwysedd
Defnyddiwch y map i weld a ydych o fewn pum milltir i orsaf trosglwyddo gwastraff neu safle tirlenwi cymwys. Gallwch symud y map o gwmpas drwy ei glicio a’i lusgo gyda’ch llygoden. I chwyddo’r map, pwyswch y botwm CTRL ar eich bysellfwrdd a defnyddiwch yr olwyn sgrolio ar eich llygoden. Bydd ardaloedd cymwys wedi’u lliwio’n goch gyda phin yn y canol. Bydd y map yn cael ei ddiweddaru cyn i gylch cyllido agor a bydd yn dangos y safleoedd cymwys ar gyfer y cylch hwnnw.
Cyfeiriwch at ganllawiau’r cynllun i weld yr holl feini prawf cymhwysedd a rhestr o’r mathau o fudiadau y byddwn yn eu hariannu.
Amserlen
Byddwn yn rhoi dau ddyddiad cau ar gyfer y cylch hwn o’r LDTCS, bydd hyn yn galluogi ceisiadau i gael eu hasesu’n amserol pan fyddant yn dod i law.
Os hoffech i’ch cais gael ei ystyried fel rhan o ffenestr 1, cyflwynwch ef erbyn 11.59 pm ar 7 Tachwedd 2025.
Os hoffech i’ch cais gael ei ystyried fel rhan o ffenestr 2, cyflwynwch ef erbyn 11.59 pm ar 12 Rhagfyr 2025.
Y cynharaf y gall gweithgaredd ddechrau yw 23 Chwefror 2026, gan ddod i ben dim hwyrach na 23 Chwefror 2029.
How to apply
I wneud cais am Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, bydd angen i chi gofrestru gyda Phorth Ceisiadau Amlddefnydd CGGC (MAP). Os ydych wedi cofrestru gyda MAP o’r blaen, gallwch fewngofnodi trwy roi eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar y sgrin gartref.
Gall mudiadau gofrestru drwy fynd i’r wefan map.wcva.cymru.
Os oes angen help arnoch i gofrestru ar MAP dilynwch y fideo hwn.
Cymorth pellach
Am ragor o wybodaeth, darllenwch ganllawiau llawn y cynllun yma. Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys dolenni i adnoddau a all eich helpu i ychwanegu at eich syniadau prosiect i gyfrannu at dair thema’r cynllun.
I gael mwy o gymorth, cysylltwch â’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol.
Troi gardd wedi’i hesgeuluso yn fan cymunedol llawn bywyd
Gwnaeth yr LDTCS helpu Gerddi a Thŷ Clwb y Gymuned yn yr Wyddgrug i drawsnewid ardal wyllt yn fan gwyrdd hygyrch, sydd bellach yn gartref i weithdai cynhwysol dan arweiniad gwirfoddolwyr sy’n hybu lles, dysgu a chysylltiad.
Benthyg yn lle prynu yng ngorllewin Caerdydd
Gyda chymorth yr LDTCS, lansiodd Gweithredu yng Nghaerau a Threlái Lyfrgell o Bethau, gan alluogi trigolion i fenthyg eitemau i’r cartref mewn modd fforddiadwy. Gwnaeth hyn leihau gwastraff, cefnogi teuluoedd incwm isel a chyflwyno buddion amgylcheddol a chymdeithasol parhaol.
Uwchraddio rhad ar ynni yn datgloi potensial cymuned
Defnyddiodd Clwb Rygbi Cwmtwrch y grant LDTCS i wella effeithlonrwydd eu hadeilad, gan eu galluogi i wario mwy ar adnoddau i ehangu’r defnydd o’u hyb cymunedol i gefnogi pobl leol.
Gwarchod llygod y dŵr ac ysbrydoli cadwraeth
Gwnaeth prosiect Afonydd Menai Menter Môn hybu bioamrywiaeth ar Ynys Môn a sbarduno cadwraeth dan arweiniad y gymuned drwy adfer cynefinoedd, ymgysylltu â gwirfoddolwyr ac addysg amgylcheddol.
Datrysiadau gwyrdd yn gyrru cyflogaeth gynhwysol
Datblygodd ELITE Paper Solutions ddeunydd gorwedd ecogyfeillgar i anifeiliaid o gardbord wedi’i ailgylchu, gan arallgyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi a chreu swyddi, hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddoli i bobl ddifreintiedig.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech siarad â ni am eich syniad am brosiect, cysylltwch â’r Tîm Grantiau ar 0300 111 0124 neu anfonwch e-bost atom yn ldtgrants@wcva.cymru.
I dderbyn y newyddion diweddaraf ar gyllid CGGC, cofrestrwch ar restr bostio cyllido CGGC.
Downloads
Categori | Cyllid |
LDTCS Arweiniad i ymgeiswyr Hydref 2025
Categori | Cyllid |
LDTCS Adroddiad Blynyddol 2024
Categori | Cyllid |
LDTCS Adroddiad Blynyddol 2023
Categori | Heb gategori |
LDTCS Adroddiad Blynyddol 2022
Categori | Heb gategori |
LDTCS Adroddiad Blynyddol 2021
Categori | Cyllid |
LDTCS Adroddiad Blynyddol 2020
Categori | Cyllid |
Dyfarniadau Grant LDTCS Cylch 12
Categori | Heb gategori |
Dyfarniadau Grant LDTCS Cylch 11
Categori | Cyllid |
Dyfarniadau Grant LDTCS Cylch 10
Categori | Cyllid |
Dyfarniadau Grant LDTCS Cylch 9
Categori | Cyllid |
Dyfarniadau Grant LDTCS Cylch 8
Categori | Cyllid |
Dyfarniadau Grant LDTCS Cylch 7
Categori | Cyllid |
Dyfarniadau Grant LDTCS Cylch 6
Categori | Heb gategori |