Mae’r gronfa ar gau i geisiadau ar hyn o bryd. Os hoffech gael gwybod am unrhyw ddiweddariadau ariannu yn y dyfodol, cofrestrwch ar gyfer rhestr bostio cyllid CGGC.
Galluogi grwpiau a mudiadau cymunedol ledled Cymru i gael gafael ar gyllid ar gyfer prosiectau Cymru-Affrica
Statws presennol y gronfa
Ar y dudalen hon
- Ynglŷn â’r gronfa
- Beth fyddwn ni’n ei ariannu
- Diogelu
- Cymhwyster
- Amserlen
- Sut i ymgeisio
- Hub Cymru Affrica
- Cymorth pellach
- Beth ydym wedi’i gyllido
- Cysylltu â ni
Ynglŷn â’r gronfa
Mae cynllun grantiau Cymru ac Affrica yn fenter flaenllaw gan raglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru. Mae’r cynllun yn galluogi grwpiau cymunedol a mudiadau yng Nghymru i gael gafael ar gyllid ar gyfer prosiectau bach sy’n cyfrannu at waith Cymru o gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a chyflwyno buddion i Gymru ac Affrica.
Gall ymgeiswyr wneud cais am rhwng £5,000-£25,000 o gyllid am brosiect 12 mis. Os hoffech drafod prosiect y tu allan i gwmpas y cyllid hwn, cysylltwch â thîm grantiau CGGC.
Beth fyddwn ni’n ei ariannu
Gan weithio gyda phartneriaid Affrica Is-Sahara, rhaid i brosiectau wneud cyfraniad diriaethol at un o’r pedair thema ganlynol:
- Iechyd
Rydym yn ceisio cyfrannu at y gwaith o ddiogelu iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol cymunedau yn Affrica drwy ein grantiau. Gallai enghreifftiau o hyn gynnwys:
- Cefnogi’r gwaith o rannu gwybodaeth a sgiliau rhwng sefydliadau iechyd yng Nghymru ac Affrica fel bod y ddwy ochr yn dysgu ac yn cael budd
- Cynorthwyo gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn Affrica i gael ychydig o hyfforddiant a chymorth gan Gymru
- Dysgu Gydol Oes
Byddwn ni’n cynorthwyo unigolion neu grwpiau o bobl ifanc neu oedolion yng Nghymru a/neu Affrica i ennill sgiliau a gwybodaeth. Gall enghreifftiau o hyn gynnwys:
- Cefnogi anghenion addysgol plant dan anfantais yn Affrica a rhannu’r profiad hwnnw gyda disgyblion ysgol yng Nghymru, gan gyfrannu at eu haddysg ddinasyddiaeth fyd-eang
- Chynorthwyo pobl yn Affrica i ddysgu sgiliau ymarferol / galwedigaethol / artistig er mwyn gwella eu bywoliaeth
- Y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd
Byddwn yn cefnogi mentrau sy’n lleihau dirywiad amgylcheddol a cholli bioamrywiaeth yn Affrica yn ogystal â gwaith strategol ac ymarferol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac i amddiffyn pobl rhag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar gyflenwadau bwyd, y dŵr sydd ar gael neu ddiogelwch. Gallai enghreifftiau o hyn gynnwys:
- Gweithgareddau sy’n cynorthwyo ffermwyr yn Affrica i addasu i hinsawdd sy’n newid
- Prosiectau sy’n ymhél pobl yng Nghymru â materion newid hinsawdd fel y maen nhw’n effeithio ar Affrica
- Bywoliaeth gynaliadwy
Rydyn ni’n ceisio hybu cyfleoedd bywoliaeth realistig a chynaliadwy yng Nghymru ac Affrica, gan sicrhau bod unigolion wedi’u hymyleiddio yn cael eu cynnwys mewn datblygiadau economaidd a chymdeithasol llawr gwlad. Mae’r mentrau rydyn ni’n eu cefnogi yn cynnwys:
- Mentrau cydweithredol sy’n cynhyrchu incwm ac sy’n cael eu harwain gan y gymuned sy’n cyflwyno budd i Gymru ac Affrica
- Ymgysylltu â’r cyhoedd drwy ymgyrchoedd Masnach Deg, eiriolaeth neu bolisi
Diogelu
Bydd ystyriaethau diogelu yn rhan o’r broses asesu, rydym yn eich annog i ymuno â hyfforddiant Hwb Cymru Africa, i’ch helpu i nodi’r holl ystyriaethau diogelu cyn i chi gyflwyno cais. Os nad yw hyn yn bosibl, bydd yn ofynnol i bawb sy’n derbyn grant fynychu hyfforddiant ar ôl dyfarnu grant.
Mae Hub Cymru Africa yn cynnig pedwar lefel o hyfforddiant:
- Diogelu Hanfodol: i bob aelod staff, gwirfoddolwr a phartner staff sydd heb gwblhau ei hyfforddiant, neu wedi ei gwblhau dros mwy na dwy flwyddyn yn ôl
- Diogelu i Swyddogion Diogelu ac Ymddiriedolwyr: Mae angen Hanfodion Diogelu cyn mynychu’r cwrs hwn
- Diogelu Gloywi: i bobl sydd wedi cwblhau hyfforddiant yn y ddwy flynedd diweddarach ac sydd eisiau gloywi ei ymarfer drwy drafod astudiaethau achos
- Diogelu Partneriaethau Iechyd: hyfforddiant sy’n benodol i bartneriaethau iechyd yn ôl y gofyn. Cysylltwch ag advice@hubcymruafrica.wales
Mae Hub Cymru Africa a CGGC hefyd yn cynnig clinig diogelu 1:1 i drafod unrhyw ran o’ch ymarfer.
I gofrestru ar gyfer cwrs hyfforddi, ewch i wefan Hyb Cymru Affrica.
Cymhwyster
Gall y cynllun grantiau gael ei gyrchu gan grwpiau yng Nghymru sy’n cydweithio â phartneriaid o Affrica Is-Sahara i gyflwyno ystod amrywiol o weithgareddau. Rhaid i’r prif ymgeisydd fod yng Nghymru.
Dylai’r holl weithgareddau ddangos budd amlwg i Gymru ac eu bod yn cyd-fynd ag un neu ragor o’r pedwar maes thematig. Cyfeiriwch at ganllawiau’r cynllun i weld yr holl feini prawf cymhwysedd a rhestr o’r mathau o fudiadau y byddwn yn eu hariannu.
Amserlen
Mae’r ffenestr ymgeisio ar agor o 22 Medi 2025, gan gau am 11.59 pm ar 31 Hydref 2025.
Y cynharaf y gellir prosiectau eu cychwyn yw 19 Ionawr 2026.
Sut i ymgeisio
I wneud cais am y cyllid, bydd angen i chi gofrestru gyda Phorth Ceisiadau Amlddefnydd CGGC (MAP). Os ydych wedi cofrestru gyda MAP o’r blaen, gallwch fewngofnodi trwy roi eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar y sgrin gartref.
Gall mudiadau gofrestru drwy fynd i’r wefan map.wcva.cymru.
Os oes angen help arnoch i gofrestru ar MAP dilynwch y fideo hwn.
Hub Cymru Affrica
Gall Hub Cymru Affrica eich cynorthwyo gyda’r gwaith o gefnogi a datblygu prosiectau a sicrhau bod gennych yr holl ddogfennau ategol cywir yn eu lle ar gyfer eich sefydliad. Maen nhw hefyd yn gallu eich helpu i chwilio am arian o ffrydiau ariannu eraill ar gyfer prosiectau sy’n cysylltu Cymru ac Affrica.
Gallwch gysylltu â thîm Datblygu a Chefnogi Hub Cymru Affrica yn: enquiries@hubcymruafrica.wales.
Cymorth pellach
Mae’r canllawiau hyn wedi’u dylunio i helpu ymgeiswyr i ddeall mwy am grant Cymru ac Affrica; gan gynnwys pwy sy’n gallu gwneud cais am gyllid, pa brosiectau sy’n gallu cael eu cyllido a’r hyn sydd ei angen gan ymgeiswyr.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch y broses ymgeisio, anfonwch e-bost at walesafricagrants@wcva.cymru neu ffoniwch 0300 111 0124.
I gael cymorth i ddatblygu’ch cais, cysylltwch ag advice@hubcymruafrica.wales.
Y grant sy’n cyllido dronau a thystysgrifau geni
Darllenwch am y prosiectau 12 mis ffantastig rydyn ni wedi’u cyllido drwy gylch 1 Cynllun Grant Cymru ac Affrica 2022-25.
Gweithio tuag at urddas mislif yng Nghymru ac Affrica
Mae cynllun grant Cymru ac Affrica wedi galluogi mudiadau fel Teams4U a Chwmni Cydweithredol Menywod Chomuzangari i gynnal prosiectau sy’n gwella urddas mislif i ferched ifanc.
Helpu ffermwyr ym Malawi i ddod yn fwy gwydn i’r newid yn yr hinsawdd
Mae’r Prosiect ‘Family Tree’ yn helpu cymunedau gwledig ym Malawi i ddod yn fwy hunangynhaliol, yn fwy gwydn i drychinebau naturiol ac yn fwy sefydlog yn economaidd.
Cyllid o Gymru yn grymuso menywod yn Affrica
Mae cyllid o Gynllun Grantiau Cymru ac Affrica wedi helpu chwe phrosiect i hybu hawliau a bywoliaethau menywod yn Uganda a Lesotho.
Hyrwyddo cyfiawnder rhywedd a’r hinsawdd yn Uganda
Mae cyllid gan ein cynllun grantiau Cymru ac Affrica wedi cynorthwyo Maint Cymru i rymuso menywod wrth fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech siarad â ni am eich syniad prosiect, cysylltwch â’r Tîm Grantiau ar 0300 111 0124 neu anfonwch e-bost atom yn walesafricagrants@wcva.cymru
Adnoddau
Categori | Cyllid |
Dyfarniadau Cylch 6 Cymru ac Affrica
Categori | Cyllid |
Dyfarniadau Cylch 5 Cymru ac Affrica
Categori | Cyllid |