Gan weithio gyda phartneriaid Affrica Is-Sahara, rhaid i brosiectau wneud cyfraniad diriaethol at un o’r pedair thema ganlynol:
- Iechyd
Rydym yn ceisio cyfrannu at y gwaith o ddiogelu iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol cymunedau yn Affrica drwy ein grantiau. Gallai enghreifftiau o hyn gynnwys:
- Cefnogi’r gwaith o rannu gwybodaeth a sgiliau rhwng sefydliadau iechyd yng Nghymru ac Affrica fel bod y ddwy ochr yn dysgu ac yn cael budd
- Cynorthwyo gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn Affrica i gael ychydig o hyfforddiant a chymorth gan Gymru
- Dysgu Gydol Oes
Byddwn ni’n cynorthwyo unigolion neu grwpiau o bobl ifanc neu oedolion yng Nghymru a/neu Affrica i ennill sgiliau a gwybodaeth. Gall enghreifftiau o hyn gynnwys:
- Cefnogi anghenion addysgol plant dan anfantais yn Affrica a rhannu’r profiad hwnnw gyda disgyblion ysgol yng Nghymru, gan gyfrannu at eu haddysg ddinasyddiaeth fyd-eang
- Chynorthwyo pobl yn Affrica i ddysgu sgiliau ymarferol / galwedigaethol / artistig er mwyn gwella eu bywoliaeth
- Y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd
Byddwn yn cefnogi mentrau sy’n lleihau dirywiad amgylcheddol a cholli bioamrywiaeth yn Affrica yn ogystal â gwaith strategol ac ymarferol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac i amddiffyn pobl rhag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar gyflenwadau bwyd, y dŵr sydd ar gael neu ddiogelwch. Gallai enghreifftiau o hyn gynnwys:
- Gweithgareddau sy’n cynorthwyo ffermwyr yn Affrica i addasu i hinsawdd sy’n newid
- Prosiectau sy’n ymhél pobl yng Nghymru â materion newid hinsawdd fel y maen nhw’n effeithio ar Affrica
- Bywoliaeth gynaliadwy
Rydyn ni’n ceisio hybu cyfleoedd bywoliaeth realistig a chynaliadwy yng Nghymru ac Affrica, gan sicrhau bod unigolion wedi’u hymyleiddio yn cael eu cynnwys mewn datblygiadau economaidd a chymdeithasol llawr gwlad. Mae’r mentrau rydyn ni’n eu cefnogi yn cynnwys:
- Mentrau cydweithredol sy’n cynhyrchu incwm ac sy’n cael eu harwain gan y gymuned sy’n cyflwyno budd i Gymru ac Affrica
- Ymgysylltu â’r cyhoedd drwy ymgyrchoedd Masnach Deg, eiriolaeth neu bolisi