Cronfa Argyfwng a Chronfa Adfer y Gwasanaethau Gwirfoddol
Gwnaeth CGGC gyflwyno Cronfa Argyfwng a Chronfa Adfer y Gwasanaethau Gwirfoddol (VSEF a VSRF) rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mawrth 2021. Gweinyddwyd £15 miliwn o gyllid cyfunol i gyd.
Wrth i effeithiau uniongyrchol y pandemig ddod i’r golwg, gweithiodd CGGC gyda Llywodraeth Cymru i ddylunio’r cynllun hwn er mwyn galluogi gwasanaethau hanfodol y sector gwirfoddol i gael eu darparu er budd cymunedau Cymru.
Nodau’r VSEF oedd cynorthwyo mudiadau gwirfoddol drwy:
- Gynnal neu gynyddu gweithgareddau a oedd yn cefnogi’r rheini sy’n agored i niwed yn ystod pandemig
- Sicrhau bod gan fudiadau’r sector gwirfoddol yr adnoddau a oedd eu hangen arnynt i gynnig gwasanaethau hanfodol i’w cymunedau
- Annog protocolau iechyd a diogelwch llym yn ystod pob gweithgaredd a oedd yn diogelu staff, gwirfoddolwyr a buddiolwyr y sector gwirfoddol
Bu modd i CGGC weinyddu £7.5 miliwn mewn grantiau brys, ac wrth i’r galw symud mwy tuag at weithgarwch adfer, dyrannwyd £7.5 miliwn ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ail gylch o grantiau. Nodau’r VSRF oedd:
- Cyllido adferiad teg a chyfiawn i bobl yng Nghymru
- Gweithio tuag at leihau anghydraddoldebau a gafodd eu gwaethygu gan bandemig Covid-19 ac atal yr anghydraddoldebau a oedd yn dod i’r golwg rhag ymwreiddio mewn cymunedau
- Cyllido addasiadau er mwyn sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau i gael eu darparu ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed a effeithiwyd gan bandemig Covid-19, yn unol â gofynion y llywodraeth
Mae’r gweithgarwch a gyllidwyd gan VSEF a VSRF wedi helpu’r sector i gefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed ledled Cymru mewn ymateb i COVID-19, gan ymgysylltu â bron 13,000 o wirfoddolwyr a chefnogi mwy na 1,000,000 o fuddiolwyr. Mae gwaith mudiadau gwirfoddol wedi bod yn anhygoel ac yn amhrisiadwy yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, yn rhoi achubiaeth hanfodol i gymunedau, mynd i’r afael ag ynysu ac yn gwella cydlyniant cymunedol.
Er enghraifft, gwnaeth Ymddiriedolaeth Plwyfi BMMR ddefnyddio cyllid grant y VSEF i ehangu eu canolfan fwyd a’u gwasanaethau dosbarthu bwyd, mewn ymateb i gynnydd mewn ceisiadau am gymorth i gael nwyddau hanfodol yn eu cymuned.
Gallwch weld mwy o enghreifftiau o’r gweithgareddau a gyllidwyd drwy’r VSEF yma.
Dosbarthu dyfarniadau
Cafodd yr ymgeiswyr gyfle i ddewis ardaloedd awdurdod lleol lle byddai eu prosiect o fudd i gymunedau. Mae’r map isod yn dangos yr ardaloedd lle y cafodd prosiectau eu cyflawni drwy grantiau Cronfa Argyfwng a Chronfa Adfer y Gwasanaethau Gwirfoddol.
Enghreifftiau o adborth gan y rheini a gafodd ddyfarniad
‘Diolch am eich cymorth. Mae hwn wedi bod yn achubiaeth i’n mudiad a gyda’r cyllid hwn, gallwn ni ddiwallu anghenion ein defnyddwyr gwasanaethau yng Ngogledd Cymru’
‘Elusen fechan ydyn ni, ac roedd y cyllid yn adnodd gwych i’n cymuned ac yn gyfle i ni roi cymorth mawr ei angen i’r gymuned’
‘Rydyn ni’n ddiolchgar tu hwnt am y dyfarniad hwn – roedd yn hanfodol i’n galluogi ni i ddatblygu a thyfu’r gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu er mwyn helpu i ateb y galw’.
I ddarllen mwy am sut mae CGGC wedi cyflwyno cynlluniau grant y VSEF a’r VSRF, gweler yr adroddiadau yn y lawrlwythiadau isod.