Cynllun sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo a gwella gwirfoddoli yng Nghymru yw Grantiau Gwirfoddoli Cymru.
Mae Gwirfoddoli Cymru yn ymwneud â’r ‘…math o wlad rydyn ni am fod’.
Gwirfoddolwr yw rhywun sy’n ymrwymo amser ac egni er budd y gymdeithas a’r gymuned, a gall gwirfoddoli fod ar sawl ffurf. Caiff ei wneud gan rywun o’i wirfodd a’i ddewis ei hun heb feddwl am elw ariannol.
Gwirfoddoli yw un o’r dangosyddion llesiant cenedlaethol sy’n olrhain cynnydd Cymru yn erbyn nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Er mwyn ymwreiddio gwirfoddoli, creu cyfleoedd gwirfoddoli o ansawdd uchel a chael pobl ifanc i gymryd rhan, mae Llywodraeth Cymru wedi cyllido tri cynllun allweddol o dan Gwirfoddoli Cymru.
Os hoffech glywed am gylchau posibl yn y dyfodol, cofrestrwch yma.
CYNLLUN PRIF GRANT GWIRFODDOLI CYMRU
Mae Cynllun Prif Grant Gwirfoddoli Cymru nawr ar agor ar gyfer ceisiadau.
AMCANION Y GRANT
- Cynyddu nifer y gwirfoddolwyr sy’n cymryd rhan a’u cadw drwy chwalu’r rhwystrau i wirfoddoli i bobl o bob oed ac o bob rhan o’r gymdeithas.
- Cefnogi cyfleoedd gwirfoddoli cadarnhaol o ansawdd uchel sy’n ceisio recriwtio, cynorthwyo a hyfforddi gwirfoddolwyr.
- Hyrwyddo newidiadau yn y mudiadau a fydd yn cael budd er mwyn gwneud gwirfoddoli’n rhan o’u diwylliant, ee ennill achrediad Buddsoddwyr mewn Gwirfoddolwyr.
Mae cyllid ar gael i fudiadau nid-er-elw sy’n cynnig prosiectau hyd at 2 flynedd, am hyd at £30,000 y flwyddyn. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 17 Ionawr 2025 am 23:59.
Am ragor o wybodaeth, darllenwch ganllawiau llawn y cynllun yma.
Bydd sesiwn wybodaeth yn cael ei chynnal ar-lein ar 28 Tachwedd 2024 rhwng 10 am a 12 pm. Cofrestrwch yma os hoffech fynychu.
I wneud cais, ewch i https://Map.wcva.cymru
COFRESTRU AR MAP
Er mwyn cyflwyno cais am gyllid, bydd angen i chi gofrestru gyda Phorth Ymgeisio Amlbwrpas CGGC (MAP). Os ydych wedi cofrestru gyda MAP o’r blaen, gallwch fewngofnodi drwy roi eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar y sgrin gartref.
Gall mudiadau gofrestru drwy ymweld â’r wefan https://map.wcva.cymru.
Os oes angen help arnoch i gofrestru ar MAP dilynwch y fideo hwn.
GRANTIAU BLAENOROL WEDI’U DYFARNU
Dyfarniadau’r Prif Grantiau – cylch 1
Dyfarniadau’r Prif Grantiau – cylch 2
Dyfarniadau’r Prif Grantiau – cylch 3
GWIRFODDOLI CYMRU ROWND GRANTIAU STRATEGOL
Mae cylch Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru ar gau ar hyn o bryd ar gyfer ceisiadau.
Bydd grant Strategol Gwirfoddoli Cymru eleni yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn y rhaglen beilot gychwynnol. Bydd prosiectau yn datgloi’r potensial ar gyfer ymgorffori a/neu uwchraddio’r gwirfoddoli cydgysylltiedig. Croesawir ceisiadau grant ar gyfer prosiectau hyd at 18 mis o hyd gwerth rhwng £50,000 a £100,000.
Nodau’r grant
Bydd y gronfa hon yn galluogi nifer fach (rhwng pedwar i chwech) o fuddsoddiadau strategol i adeiladu ar y dulliau/mentrau newydd ac i ddysgu oddi wrthyn nhw. Bydd yn galluogi’r cynnydd a wnaed yn ystod y pandemig i gael ei archwilio ymhellach a’i ‘ymwreiddio’ i mewn i waith parhaus.
Amcanion y grant
Datgloi potensial strategol gwirfoddoli yn ystod y cyfnod mwy hirdymor drwy:
- Adnabod yr angen strategol ac edrych ar gyfleoedd gwirfoddoli newydd neu gael gwared â rhwystrau i wirfoddoli;
- Edrych ar bartneriaethau o fewn y trydydd sector, y sector preifat a’r sector cyhoeddus a’r partneriaethau sydd rhyngddynt;
- Cefnogi’r gwaith o uwchraddio isadeiledd strategol a threfnu gwirfoddolwyr i ymgorffori arferion da sy’n dod i’r amlwg;
- Dysgu’n drylwyr am gydraddoldeb a chynhwysiant ym maes gwirfoddoli a sut y mae hyn yn effeithio ar gymunedau a’u lefelau ymgysylltu;
- Cryfhau partneriaethau;
- Hybu buddsoddi ariannol ac anariannol pellach.
Croesawir cynigion o safon uchel o’r meysydd blaenoriaethol canlynol:
- Iechyd a gofal cymdeithasol
- Addysg a phobl ifanc
- Argyfwng yr amgylchedd/hinsawdd
- Y Celfyddydau/diwylliant/chwaraeon
- Y Gymraeg/cymunedau
Adnoddau o’r cynllun
Gellir dysgu llawer o dderbynyddion Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru sydd wedi bod yn arwain prosiectau arloesol sy’n edrych ar wirfoddoli yn yr hirdymor a sut gallwn ni ddatgloi ei botensial.
Dyma rai enghreifftiau o’r prosiectau a’r adnoddau y maen nhw wedi’u creu:
- Grant strategol yn helpu i lansio Hwb Gwirfoddoli newydd – CGGC – Innovate Trust
- Pobl ifanc yn arwain y ffordd – Foothold Cymru
- Gwirfoddoli ar draws partneriaid – Cymdeithas Eryri
- Grymuso mudiadau trwy gyd-gynhyrchu a gweithio mewn partneriaeth – CGGC
GRANTIAU BLAENOROL WEDI’U DYFARNU
Dyfarniadau Grantiau Strategol 2023-25
Mae’r mudiadau a oedd yn llwyddiannus o dan gylch grant 2022/23 i’w gweld yma.
Am ragor o wybodaeth, darllenwch ganllawiau llawn y cynllun yma.
GRANTIAU DAN ARWEINIAD IEUENCTID
Mae Grantiau dan Arweiniad Ieuenctid yn fenter a gyllidir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi amrediad o brosiectau a gweithgareddau gwirfoddoli sy’n cael eu harwain a’u cyflawni gan bobl ifanc.
Mae Grantiau dan Arweiniad Ieuenctid yn rhoi platfform i bobl ifanc fod yn benderfynwyr, gan ddyrannu cyllid i wirfoddoli dan arweiniad ieuenctid sy’n digwydd mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru.
Mae’r fenter yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu sgiliau a chael profiad o arweinyddiaeth ieuenctid drwy ymuno â phaneli creu grantiau ac arwain prosiectau lleol.
Sut mae’n gweithio
Bob blwyddyn, caiff swm o arian ei ddosbarthu i’r 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs) ledled Cymru ar gyfer panel grant o bobl ifanc (14-25 oed) i ddyrannu prosiectau gwirfoddoli dan arweiniad ieuenctid i bob ardal awdurdod lleol.
Mae pob panel yn penderfynu sut bydd ei broses ymgeisio a dyfarnu’n cael ei weithredu ac mae gwahaniaethau yn y meini prawf a maint y dyfarniadau grant. Mewn rhai ardaloedd, bydd angen i’r bobl ifanc fod yn gysylltiedig â mudiad cyfredol, ond mewn eraill, gall pobl ifanc gael mynediad mwy uniongyrchol at gyllid i gyflenwi eu prosiectau.
Dylai’r ceisiadau am gyllid gael eu cwblhau gan y bobl ifanc eu hunain, gyda chymorth oedolion perthnasol yn ôl yr angen.
PROSIECTAU A ARWEINIR GAN IEUENCTID
Dyma rai enghreifftiau o’r mathau o weithgareddau sydd wedi’u cyllido gan y Grantiau dan Arweiniad Ieuenctid.
Effaith Grantiau dan Arweiniad Ieuenctid: Prosiect Glanhau’r Castell
Effaith Grantiau a arweinir gan Ieuenctid: Fforwm Ieuenctid Torfaen
O Fyfyriwr Gwirfoddol i Hyrwyddwr Prosiect a arweinir gan Ieuenctid
Cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer pobl ifanc yn bosibl gyda Grantiau a arweinir gan Ieuenctid
GRANTIAU DAN ARWEINIAD IEUENCTID AR GYFER CENEDLAETHAU’R DYFODOL
Yn ystod 2021/22, bydd y paneli Grantiau dan Arweiniad Ieuenctid yn ceisio cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) drwy wella arferion a chyllido prosiectau dan arweiniad ieuenctid sy’n cyfrannu at un neu ragor o’r nodau llesiant.
- Cymru lewyrchus
- Cymru gydnerth
- Cymru sy’n fwy cyfartal
- Cymru iachach
- Cymru o gymunedau cydlynus
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
- Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
CYMRYD RHAN
Os hoffech chi wybod mwy am y Grantiau dan Arweiniad Ieuenctid yn eich ardal leol, cysylltwch â’ch CVC lleol – gellir gweld y rhestr lawn o CVCs yng Nghymru yn thirdsectorsupport.wales/cysylltu.