Mae grantiau arolwg dal ar agor am geisiadau. Mae grantiau gosod bellach ar gau am geisiadau.
Mae’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni yn helpu mudiadau gwirfoddol i wella effeithlonrwydd ynni eu heiddo drwy ddarparu cyngor, cyllid ac arbenigedd.
Statws presennol y gronfa
Ar y dudalen hon
- Ynglŷn â’r cynllun
- I bwy mae hwn?
- Ein diben a’n partneriaid
- Amserlenni
- Sut i ymgeisio
- Cymorth pellach
- Cysylltu â ni
Ynglŷn â’r cynllun
Mae’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni yn darparu:
- Grantiau o hyd at £1,000 tuag at arolwg ynni yn eich eiddo
- Grantiau o hyd at £25,000 tuag at gyfanswm o 80% o’r gost o ymgymryd â’r gwaith a nodir
- Benthyciadau i dalu am unrhyw gostau gosod sydd ar ôl
- Cysylltiadau â mudiadau sydd eisoes yn gweithio’n agos gyda’r sector gwirfoddol ac sy’n gallu cynnal arolygon, rhoi cyngor a gosod
I bwy mae hwn?
I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn, rhaid i’ch mudiad fod:
- Wedi’i gyfansoddi’n addas gyda strwythur llywodraethu cydnabyddedig
- Yn berchen ar ei eiddo rhydd-ddaliadol ei hun neu â lesddaliad hir (o leiaf 25 mlynedd)
- Â bil ynni blynyddol o £10,000 y flwyddyn o leiaf
- O fewn Cymru
Ein diben a’n partneriaid
Mewn arolwg diweddar gan CGGC, nodwyd mai’r cynnydd mewn biliau ynni yw’r ffactor a fydd yn cyflwyno’r her fwyaf i’r sector gwirfoddol yng Nghymru dros y 12 mis nesaf.
Nid yw’r broblem yn un sy’n mynd i ddiflannu’n fuan, a gyda’r argyfwng newid hinsawdd, mae effeithlonrwydd ynni yn cael ei wthio i fyny rhestr ‘i’w gwneud’ pob mudiad.
Mae mudiadau gwirfoddol yng Nghymru eisiau gwneud rhywbeth i fynd i’r afael â hyn, ond yn wynebu’r cwestiynau, ‘beth allwn ni ei wneud?’, ‘pwy allwn ni ddibynnu arno i wneud gwaith da?’, ‘sut gallwn ni wybod a yw’n fargen dda?’ a ‘sut gallwn ni dalu amdano?’.
I ateb y cwestiynau hyn, mae tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru (SIC) CGGC wedi ymuno â’r Moondance Foundation, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru a gweithwyr proffesiynol amrywiol yn y sector i gyflwyno Cynllun Effeithlonrwydd Ynni newydd. Mae’r cynllun yn dwyn ynghyd cyngor, cyllid ac arbenigedd i gyd o dan yr un to.
Amserlenni
Mae grantiau arolwg dal ar agor am geisiadau. Mae grantiau gosod bellach ar gau am geisiadau.
Sut i ymgeisio
Er mwyn gwneud cais i’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni, bydd angen i ni gofrestru gyda Phorth Ymgeisio Amlbwrpas CGGC (MAP). Os ydych chi wedi cofrestru ar MAP o’r blaen, gallwch chi fewngofnodi drwy roi eich enw defnyddiwr a chyfrinair ar y sgrin gartref.
Gall mudiadau gofrestru drwy ymweld â’r wefan: map.wcva.cymru
Adnoddau ymgeisio
Categori | Cyllid |
Cynllun Effeithlonrwydd Ynni – Canllawiau’r Cynllun
Cymorth pellach
Am ragor o fanylion ar y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni, darllenwch ein canllawiau ar y cynllun.
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi ddiddordeb, cysylltwch â’n tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru am drafodaeth ar 0300 111 0124 neu e-bost sic@wcva.cymru.