- Ynglŷn â’r gronfa
- I bwy mae hwn?
- Ein diben a’n partneriaid
- Amserlenni
- Sut i wneud cais
- Cymorth arall
- Cysylltwch â ni
Mae’r Gronfa Ynni Glân yn cynorthwyo mudiadau gwirfoddol yng Ngogledd Cymru i leihau allyriadau carbon a chreu arloesedd mewn ynni glân.
Statws presennol y gronfa
Mae’r gronfa yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd. Cynllun pum mlynedd yw hwn a chaiff ceisiadau eu derbyn ar sail dreigl hyd nes y bydd yr holl arian wedi’i ddyrannu.
Ar y dudalen hon
Ynglŷn â’r cynllun
Mae’r Gronfa Ynni Glân yn cefnogi:
- Gwella effeithlonrwydd ynni
- Cynhyrchu ynni adnewyddadwy
- Datrysiadau ynni clyfar gan gynnwys storio
- Prosiectau ynni solar a llanw mawr
- Gwelliannau i weithrediadau sy’n arwain at gynhyrchu llai o garbon
Bydd 50% o’r cyllid yn grant (lleiafswm: £25,000, uchafswm: £500,000), 25% yn fenthyciad di-log (hyd at £250,000), a bydd angen i’r 25% sydd ar ôl fod yn gyllid cyfatebol.
I bwy mae hwn?
I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn:
- Rhaid i’ch mudiad fod wedi’i gyfansoddi’n briodol gyda strwythur llywodraethu cymwys*
- Rhaid i’ch mudiad fod yng ngogledd Cymru (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn) neu fod â phresenoldeb yn yr ardal hon
- Rhaid i’r prosiect gael ei wneud o fewn gogledd Cymru
* Bydd rhagor o wybodaeth am hyn yn ein canllawiau cynllun, a fydd ar gael yn fuan. Yn y cyfamser, cysylltwch â’n tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru gydag unrhyw ymholiadau (gweler isod)
Ein diben a’n partneriaid
Mae tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru (SIC) CGGC yn gyffrous iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag Uchelgais Gogledd Cymru, Ynni Cymunedol Cymru ac Umi.
Trwy gefnogi arloesedd a seilwaith ynni glân, nod y gronfa yw gwneud gogledd Cymru yn chwaraewr allweddol yn ymdrechion y DU i drawsnewid i ynni adnewyddadwy, a chyflwyno buddion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol parhaol i’r ardal.
Ynglŷn â’n partneriaid
- Caiff y cynllun hwn ei redeg gan Uchelgais Gogledd Cymru.
- Mae CGGC yn gweithio mewn partneriaeth ag Ynni Cymunedol Cymru i gyflwyno is-gronfa’r sector gwirfoddol, gan gefnogi mudiadau gwirfoddol yng ngogledd Cymru i leihau eu hallyriadau carbon a chreu arloesedd mewn ynni glân.
- UMi sy’n cyflwyno is-gronfa’r sector preifat, gan gefnogi busnesau i ddatblygu a gwella datrysiadau ynni glân ledled yr ardal.
Am ragor o wybodaeth am y cynllun ehangach, ewch i wefan Uchelgais Gogledd Cymru.
Amserlenni
Cynllun pum mlynedd yw hwn a chaiff ceisiadau eu derbyn ar sail dreigl hyd nes y bydd yr holl arian wedi’i ddyrannu.
Sut i wneud cais
Mae’r broses yn dechrau trwy gwblhau holiadur cymhwysedd. I gwblhau hwn, bydd angen i chi gofrestru gyda Phorth Ymgeisio Amlddiben CGGC (MAP). Os ydych wedi cofrestru gyda MAP o’r blaen, gallwch fewngofnodi drwy nodi eich enw defnyddiwr a chyfrinair ar y sgrin gartref.
Gall mudiadau gofrestru trwy fynd i’r wefan: map.wcva.cymru.
Cymorth pellach
Bydd rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau cynllun, a fydd ar gael yn fuan. Yn y cyfamser, cysylltwch â’n tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru gydag unrhyw ymholiadau.
Cysylltu â ni
Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â’n tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru am sgwrs ar 0300 111 0124 neu e-bostiwch sic@wcva.cymru.