Rhoi arian ar waith mewn cymunedau

**Sylwch fod y gronfa bellach ar gau.**

Roedd y Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol (SBGF) yn rhoi cymorth ariannol i fusnesau cymdeithasol yng Nghymru i’w galluogi i dyfu a chreu cyfleoedd am waith. Fe’i hariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru ac mae’n ychwanegu at y dewis o fuddsoddiadau a weinyddir gan Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru. Yn anffodus, mae’r gronfa bellach wedi cau.

Cymhwyster

Gorllewin Cymru a’r Cymoedd

Mae’r ardaloedd cymwys yn cynnwys: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Sir Gâr, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Ynys Môn, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, a Thorfaen.

Dwyrain Cymru

Caerdydd, Sir y Fflint, Sir Fynwy, Casnewydd, Powys, Bro Morgannwg, Wrecsam

Faint?

Roedd y gronfa yn fuddsoddi hyd at £150,000 yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd. Roedd angen o leiaf 40% o arian cyfatebol. Felly, i gael mynediad at £150,000 o gymorth roedd angen £100,000 o arian cyfatebol ychwanegol. Mae’r cymorth a ddarperir yn gymysgedd o gymorth grant a chymorth ad-daladwy; po fwyaf y byddwch yn gor-gyflawni wrth greu swyddi, y lleiaf y bydd angen ei ad-dalu.

Yn Nwyrain Cymru’r uchafswm buddsoddiad oedd £125,000 ac roedd angen 50% o arian cyfatebol.

Roedd y cymorth a ddarparwyd yn gymysgedd o gymorth grant a chymorth ad-daladwy; po fwyaf o or-gyflawni wrth greu swyddi’r lleiaf oedd angen ei ad-dalu.

Beth yw’r broses ymgeisio?

Roedd y broses arlein mewn dau gam. Y cam cyntaf oedd ‘Holiadur Cymhwysedd’ sy’n gwirio cymhwysedd. Symudodd mudiadau llwyddiannus i’r ail gam, sef y Cais am Gymorth Ariannol, lle caiff hyfywedd eich cynnig ei brofi. Yn anffodus, mae’r gronfa hon bellach ar gau.

Beth yw’r strwythur

Y strwythur y cymorth ariannol sydd ar gael:

  • 40% mewn grant traddodiadol
  • 60% mewn cymorth ad-daladwy (0% o log, hyd at 5 mlynedd)

Cafodd y gor-gyflawniad o dargedau creu swyddi ei wobrwyo trwy droi elfen o gymorth ad-daladwy yn grant nad oedd yn ad-daladwy.

Y broses ymgeisio

Cyn cwblhau’r cais, cynhaliwyd sgwrs gychwynnol gyda thîm Buddsoddi Cymdeithasol Cymru (sic@wcva.cymru neu 0300 111 0124) er mwyn penderfynu ar barodrwydd i wneud cais.

Cafodd y broses ymgeisio ei rhannu’n ddau gam:

  1. Holiadur cymhwysedd – penderfynodd hyn addasrwydd ar gyfer y gronfa a chasglodd wybodaeth ofynnol am eich mudiad
  2. Cais am gymorth ariannol – gofynnwyd i fudiadau a oedd yn pasio’r holiadur cymhwysedd lenwi ffurflen gais penodol mewn ymateb i Wahoddiad i Ymgeisio

Roedd angen i fudiadau sy’n dymuno cyflwyno EQ gofrestru ar MAP.