Buddsoddiad trwy Banc Datblygu Cymru yw’r Gronfa Micro Fenthyciadau Cymru i gefnogi mentrau bach a chanolig eu maint.

Bydd y gronfa yn buddsoddi cyfanswm o £30 miliwn mewn benthyciadau bychain, gyda Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru  yn rheoli mynediad hyd at £2 filiwn o’r cronfeydd hyn ar gyfer busnesau cymdeithasol yng Nghymru. 

Sut y gallwn helpu

Rydym wedi cynorthwyo llawer o fusnesau cymdeithasol i ehangu drwy fenthyciadau hyblyg ar gyfer anghenion buddsoddi amrywiol megis:

  • Prynu stoc – A fyddai rhagor o stoc neu stoc wahanol yn rhoi’r hwb angenrheidiol yna i’ch busnes?
  • Offer a chyfarpar newydd – Gallai cyfarpar newydd gynyddu faint rydych yn ei gynhyrchu neu’n gwneud eich busnes yn fwy effeithlon
  • Llif arian – Efallai mai rheoli llif arian parod yn well yw’r allwedd i ddatgloi potensial eich busnes
  • Eiddo newydd – Rydych wedi ehangu ac angen mwy o le neu mae angen i chi ddodrefnu’ch eiddo newydd
  • Prynu busnes – Fe hoffech brynu busnes bach

Gall benthyciad bach ddarparu’r cyfalaf rydych ei angen i fuddsoddi yn eich busnes a gellir ei ddefnyddio hefyd ochr yn ochr â chyllid arall. 

Meini prawf buddsoddi

Sylwch y bydd angen i chi gyd-fynd â’r canlynol i gael eich ystyried am fuddsoddiad:

  • Wedi’ch lleoli yng Nghymru neu’n fodlon adleoli
  • Darparu cynllun busnes
  • Llenwi ffurflen gais gan ddarparu’r dogfennau ategol angenrheidiol

Mae benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 ar gael gyda chyfnod ad-dalu o hyd at deg mlynedd.

Dylai mudiadau sydd â diddordeb gysylltu â Caryl, Alun, Seema neu Rhys i gael sgwrs gychwynnol ar 0300 111 0124 neu ebostio sic@wcva.cymru.

Logo gyda'r geiriau Banc Datblygu Banc Cymru